
2014 Rhif 440 (Cy. 49)
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Bwyd â Ffytosterolau neu Ffytostanolau Ychwanegol (Labelu) (Cymru) (Diwygio) 2014
Gwnaed 24 Chwefror 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 28 Chwefror 2014
Yn dod i rym 21 Mawrth 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17, 26(1) a (3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.
Enwi, cymhwyso, cychwyn a dod i ben
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd â Ffytosterolau neu Ffytostanolau Ychwanegol (Labelu) (Cymru) (Diwygio) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 21 Mawrth 2014, ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn peidio â chael effaith ar 13 Rhagfyr 2014.
Diwygio Rheoliadau Bwyd â Ffytosterolau neu Ffytostanolau Ychwanegol (Labelu) (Cymru) 2005
2 

(1) Mae Rheoliadau Bwyd â Ffytosterolau neu Ffytostanolau Ychwanegol (Labelu) (Cymru) 2005 wedi eu diwygio yn unol â pharagraff (2).
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle’r diffiniad o “Rheoliad 608/2004” (“Regulation 608/2004”) rhodder y diffiniad a ganlyn —“
 ystyr “Rheoliad 608/2004” (“Regulation 608/2004”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004 ynghylch labelu bwydydd a chynhwysion bwyd â ffytosterolau, esterau ffytosterol, ffytostanolau a/neu esterau ffytostanol ychwanegol fel y’i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 718/2013 sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 608/2004, ac fel y’i darllenir gyda’r Rheoliad hwnnw;”.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Chwefror 2014