Argraffwyd yr Offeryn Statudol hwn yn lle’r OS sy’n dwyn yr un rhif ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim I bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol
2014 Rhif 42 (Cy. 4)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) (Diwygio) 2014
Gwnaed 13 Ionawr 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 15 Ionawr 2014
Yn dod i rym 5 Chwefror 2014
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 116A(5), 116D(2) a 210 o Ddeddf Addysg 2002 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) (Diwygio) 2014 a deuant i rym ar 5 Chwefror 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009
2 
Mae Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn lle rheoliad 4 rhodder—“
Lleiafswm cyrsiau astudio mewn cwricwla lleol
4. 

(1) Rhaid i’r cwricwlwm lleol ar gyfer pob ysgol uwchradd a gynhelir yng Nghymru gynnwys lleiafswm o 25 o gyrsiau astudio ar lefel 2 NQF, y mae’n rhaid i o leiaf 3 ohonynt fod yn rhai galwedigaethol.
(2) Caiff awdurdod lleol gynnwys cwrs astudio ar lefel 1 NQF yn hytrach na chwrs ar lefel 2 NQF yn y cwricwlwm lleol ar gyfer ysgol uwchradd a gynhelir o fewn ei ardal os nad yw’r un cwrs ar gael ar lefel 2 NQF i ddisgyblion yng nghyfnod allweddol pedwar.”;
(b) hepgorer rheoliadau 5 i 7; ac
(c) ym mhennawd rheoliad 11 hepgorer “a hysbysiadau’n hepgor yr hawl i gael adolygiad”.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
13th Ionawr 2014