
2014 Rhif 380 (Cy. 45) (C. 15)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 1) 2014
Gwnaed 20 Chwefror 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 75(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.
Enwi a dehongli
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 1) 2014.
Diwrnod Penodedig
2 
Y diwrnod penodedig i adran 63 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 ddod i rym yw 1 Ebrill 2014.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
20 Chwefror 2014