
2014 Rhif 375 (Cy. 43)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Diwygio) (Cymru) 2014
Gwnaed 20 Chwefror 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 21 Chwefror 2014
Yn dod i rym 14 Mawrth 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 5 a 40 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Diwygio) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 14 Mawrth 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
(a) ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1992; a
(b) ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990.
Diwygio Rheoliadau 1992
2 
Yn Rhan A o Atodlen 1 i Reoliadau 1992, yng ngholofn 1 y tabl o dan gofnod 36 mewn perthynas â chynhyrchion petrolewm, ar ôl “(c) gas oils (including diesel fuels, home heating oils and gas oil blending streams)”, mewnosoder —“
(d) heavy fuel oils”.
Darpariaeth drosiannol
3 

(1) Mae Rheoliadau 1992 yn parhau i gael effaith fel yr oeddent yn union cyn y dyddiad perthnasol mewn perthynas ag—
(a) unrhyw gydsyniad sylweddau peryglus a roddwyd neu y bernir iddo gael ei roi cyn y diwrnod perthnasol;
(b) unrhyw gais am gydsyniad sylweddau peryglus a wnaed cyn y dyddiad perthnasol;
(c) unrhyw gydsyniad sylweddau peryglus a roddwyd o ran cais o’r math a grybwyllir yn is-baragraff (3)(b);
(d) unrhyw apêl o dan adran 21 o Ddeddf 1990 y mae cais o’r math a grybwyllir yn is-baragraff (3)(b) yn berthnasol iddi;
(e) unrhyw achos mewn cysylltiad â throsedd o dan adran 23 o Ddeddf 1990 a gyflawnwyd cyn y dyddiad perthnasol;
(f) unrhyw hysbysiad am dorri’r gyfraith ynghylch sylweddau peryglus a ddyroddwyd gan awdurdod sylweddau peryglus cyn y dyddiad perthnasol;
(g) unrhyw achos a gychwynnwyd neu unrhyw beth a wnaed yng nghyswllt unrhyw fater a grybwyllir yn is-baragraffau 3(a) i 3(f) cyn y dyddiad perthnasol.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “y dyddiad perthnasol” yw’r dyddiad y daw’r rheoliad hwn i rym.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru
20 Chwefror 2014