Argraffwyd yr Offeryn Statudol hwn yn lle'r OS sy'n dwyn yr un rhif ac fe'i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.
2014 Rhif 374 (Cy. 42)
Landlord A Thenant, Cymru
Rheoliadau Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol Sicr (Ffurflenni) (Diwygio) (Cymru) 2014
Gwnaed 20 Chwefror 2014
Yn dod i rym 21 Chwefror 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 13(2) a 45(5) o Ddeddf Tai 1988 ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru i’r graddau eu bod yn arferadwy o ran Cymru, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol Sicr (Ffurflenni) (Diwygio) (Cymru) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 21 Chwefror
2014.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â mangreoedd yng Nghymru.
Diwygio Ffurflenni Rhagnodedig
2 
Yn yr Atodlen i Reoliadau Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol Sicr (Ffurflenni) 1997 (Ffurflenni a ragnodir at ddibenion Rhan I o Ddeddf Tai 1988)—
(a) ym mharagraff 2 o’r Canllawiau i Ffurflen 4D (hysbysiad landlord yn cynnig rhent newyddo dan denantiaeth gyfnodol sicr o dir ac adeiladau a leolir yng Nghymru ) hepgorer o “You should also notify” i “claiming benefit” a rhodder—“You are required to also notify the Housing Benefit office in your local authority if you are claiming a Benefit or the Department for Work and Pensions if you are claiming Universal Credit. The Gov.UK website provides further advice: https://www.gov.uk”; a
(b) ym mharagraff 2 o’r Canllawiau i Ffurflen 4E (hysbysiad landlord neutrwyddedydd yn cynnig rhent newydd neu ffi drwydded o dan feddiannaeth amaethyddol sicr o dir ac adeiladau a leolir yng Nghymru ) hepgorer o “You should also notify” i “claiming benefit” a rhodder—“You are required to also notify the Housing Benefit office in your local authority if you are claiming a Benefit or the Department for Work and Pensions if you are claiming Universal Credit. The Gov.uk website provides further advice: https://www.gov.uk”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru
20 Chwefror 2014