
2014 Rhif 372 (Cy. 40)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2014
Gwnaed 19 Chwefror 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 21 Chwefror 2014
Yn dod i rym 14 Mawrth 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 43(4B)(b), 44(9), 143(1) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2014.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 14 Mawrth 2014.
Diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008
2 

(1) Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008  wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 7(ch) yn lle “31 Mawrth 2014” rhodder “31 Mawrth 2015”.
(3) Yn erthygl 11(d) yn lle “31 Mawrth 2014” rhodder “31 Mawrth 2015”.
(4) Yn erthygl 11(dd) yn lle “31 Mawrth 2014” rhodder “31 Mawrth 2015”.
(5) Ym mhennawd erthygl 11A (y swm o E rhwng 1 Hydref 2010 a 31 Mawrth 2014) yn lle “31 Mawrth 2014” rhodder “31 Mawrth 2015”.
(6) Yn erthygl 11A(2) yn lle “31 Mawrth 2014” rhodder “31 Mawrth 2015”.
Edwina Hart
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
19 Chwefror 2014