
2014 Rhif 3492 (Cy. 350)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) 2014
Cymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru 13 Ionawr 2015
Gwnaed 23 Rhagfyr 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 23 Rhagfyr 2014
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Trysorlys gan baragraff 5(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac sydd bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) 2014.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i cymeradwyir drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ar yr amod y cymeradwyir y Gorchymyn cyn i’r Cynulliad gymeradwyo’r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2015.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Y lluosydd ardrethu annomestig
2 
At ddibenion paragraff 3B o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2015, pennir mai 256.9 yw B.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
23 Rhagfyr 2014