
2014 Rhif 3278 (Cy. 335)
Tai, Cymru
Rheoliadau Tenantiaethau Diogel (Sail Absoliwt ar gyfer Meddiannu am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol) (Y Weithdrefn Adolygu) (Cymru) 2014
Made 9 Rhagfyr 2014
Laid before the National Assembly for Wales 12 Rhagfyr 2014
Coming into force 12 Ionawr 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 85ZA(8) o Ddeddf Tai 1985.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tenantiaethau Diogel (Sail Absoliwt ar gyfer Meddiannu am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol) (Y Weithdrefn Adolygu) (Cymru) 2014, a deuant i rym ar 12 Ionawr 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran tai annedd yng Nghymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “adolygiad” (“review”) yw adolygiad o dan adran 85ZA o’r Ddeddf (adolygu penderfyniad i geisio meddiannu ar sail absoliwt am ymddygiad gwrthgymdeithasol);
 ystyr “cais” (“application”) yw’r cais ysgrifenedig am adolygiad;
 ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw tenant sydd wedi gwneud cais am adolygiad;
 ystyr “diwrnod busnes” (“business day”) yw unrhyw ddiwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn ddiwrnod sy’n ŵyl y banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai 1985;
 ystyr “penderfyniad gwreiddiol” (“original decision”) yw penderfyniad landlord i geisio gorchymyn meddiannu tŷ annedd o dan adran 84A o’r Ddeddf (sail absoliwt ar gyfer meddiannu am ymddygiad gwrthgymdeithasol).
Cais am adolygiad
2 
Rhaid i gais am adolygiad gynnwys—
(a) enw a chyfeiriad y ceisydd;
(b) disgrifiad o’r penderfyniad gwreiddiol y ceisir adolygiad mewn cysylltiad ag ef gan gynnwys y dyddiad y gwnaed y penderfyniad;
(c) datganiad o’r seiliau y gwneir cais am adolygiad arnynt;
(d) datganiad i’r perwyl bod y ceisydd, neu nad yw’r ceisydd, yn ei gwneud yn ofynnol i’r adolygiad gael ei gynnal ar ffurf gwrandawiad llafar; ac
(e) datganiad i’r perwyl bod y ceisydd, neu nad yw’r ceisydd, yn cytuno i gael cyfathrebiadau sy’n ymwneud â’r adolygiad drwy e-bost, ac os yw’n cytuno i hynny, y cyfeiriad e-bost y dylid anfon y cyfryw gyfathrebiadau iddo.
Hawl i wrandawiad
3 

(1) Pan fo cais yn cynnwys datganiad i’r perwyl bod y ceisydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r adolygiad gael ei gynnal ar ffurf gwrandawiad llafar, rhaid cynnal yr adolygiad yn unol â rheoliadau 6 i 10.
(2) Mewn unrhyw achos arall, rhaid cynnal yr adolygiad yn unol â rheoliad 5.
Cyfathrebu
4 

(1) Pan fo cais yn cynnwys datganiad i’r perwyl bod y ceisydd yn cytuno i gael cyfathrebiadau sy’n ymwneud â’r adolygiad drwy e-bost, mae unrhyw hysbysiad, dogfen neu gyfathrebiad arall a anfonir mewn cysylltiad â’r adolygiad gan y landlord i’r cyfeiriad e-bost y cyfeirir ato yn rheoliad 2(e) i gael ei ystyried fel pe bai’r ceisydd wedi ei gael ar y diwrnod yr anfonwyd y cyfathrebiad i’r cyfeiriad e-bost hwnnw.
(2) Mewn unrhyw achos arall, mae hysbysiad, dogfen neu gyfathrebiad arall a anfonir mewn cysylltiad â’r adolygiad gan y landlord at y ceisydd i gael ei ystyried fel pe bai’r ceisydd wedi ei gael ar—
(a) y diwrnod y caiff ei roi i’r ceisydd yn bersonol;
(b) yr ail ddiwrnod busnes ar ôl ei anfon drwy’r post dosbarth cyntaf i’r cyfeiriad y cyfeirir ato yn rheoliad 2(a); neu
(c) y diwrnod y caiff ei roi â llaw yn y cyfeiriad y cyfeirir ato yn rheoliad 2(a).
Adolygiad heb wrandawiad
5 

(1) Pan fo rheoliad 3(2) yn gymwys, rhaid i’r landlord anfon hysbysiad ysgrifenedig at y ceisydd gan nodi y caiff y ceisydd wneud sylwadau ysgrifenedig i gefnogi’r cais cyn amser a bennir yn yr hysbysiad.
(2) Rhaid i’r amser a bennir yn unol â pharagraff (1) beidio â bod yn gynharach na deng niwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r ceisydd yn cael yr hysbysiad y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw.
(3) Wrth wneud penderfyniad ar yr adolygiad, rhaid i’r person sy’n cynnal yr adolygiad gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a geir yn unol â pharagraff (1).
(4) Rhaid i’r adolygiad gael ei gynnal gan berson a benodir at y diben hwnnw gan y landlord, a gaiff fod yn swyddog neu’n gyflogai i’r landlord.
(5) Rhaid i berson a benodir o dan baragraff (4) sy’n swyddog neu’n gyflogai i’r landlord fod yn berson â safle uwch na’r person a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol.
(6) Rhaid i berson y cyfeirir ato ym mharagraff (4) beidio â bod yn berson a oedd yn rhan o wneud y penderfyniad gwreiddiol.
Adolygiad ar ffurf gwrandawiad
6 

(1) Pan fo rheoliad 3(1) yn gymwys, rhaid i’r landlord anfon hysbysiad ysgrifenedig at y ceisydd gan nodi dyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad llafar.
(2) Rhaid i’r dyddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) beidio â bod yn gynharach na deng niwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r ceisydd yn cael yr hysbysiad y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw.
(3) Os yw’r ceisydd yn gwneud cais i ohirio’r gwrandawiad ar unrhyw adeg cyn y dyddiad y mae’r gwrandawiad i fod digwydd, caiff y landlord ohirio’r gwrandawiad hyd ddyddiad diweddarach.
Y weithdrefn mewn gwrandawiad
7 

(1) Rhaid i’r gwrandawiad gael ei gynnal gan berson a benodir gan y landlord at y diben hwnnw, a gaiff fod yn swyddog neu’n gyflogai i’r landlord.
(2) Rhaid i berson a benodir o dan baragraff (1) sy’n swyddog neu’n gyflogai i’r landlord fod yn berson â safle uwch na’r person a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol.
(3) Rhaid i’r person y cyfeirir ato ym mharagraff (1) beidio â bod yn berson a oedd yn rhan o wneud y penderfyniad gwreiddiol.
(4) Rhaid cynnal y gwrandawiad ar ffurf mor anffurfiol â phosibl ac yn unol ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan y person sy’n cynnal y gwrandawiad.
(5) Yn y gwrandawiad caiff y ceisydd—
(a) gwneud sylwadau llafar neu ysgrifenedig sy’n berthnasol i’r penderfyniad sydd i’w wneud ar yr adolygiad;
(b) bod gyda pherson arall neu gael ei gynrychioli gan berson arall a benodir gan y ceisydd at y diben hwnnw (pa un a yw’r person hwnnw wedi ei gymhwyso’n broffesiynol ai peidio);
(c) galw personau i roi tystiolaeth ar unrhyw fater sy’n berthnasol i’r penderfyniad sydd i gael ei wneud ar yr adolygiad; a
(d) gofyn cwestiynau i unrhyw berson sy’n rhoi tystiolaeth yn y gwrandawiad.
(6) Caiff y person a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol fynd i’r gwrandawiad a chaiff wneud unrhyw un neu ragor o’r pethau y caiff y ceisydd eu gwneud yn unol â pharagraff (5).
(7) Mae gan berson a benodir yn gynrychiolydd yn unol â pharagraff (5)(b) yr un hawliau â’r ceisydd (neu, yn ôl y digwydd, y person a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol) at ddibenion cynnal y gwrandawiad.
Absenoldeb ceisydd mewn gwrandawiad
8 
Os yw’r ceisydd yn methu â mynd i’r gwrandawiad, caiff y person sy’n cynnal y gwrandawiad, gan roi sylw i’r holl amgylchiadau (gan gynnwys unrhyw esboniad a gynigir am yr absenoldeb), barhau â’r gwrandawiad neu roi’r cyfryw gyfarwyddydau o ran bwrw ymlaen ymhellach â’r adolygiad sy’n briodol yn ei farn ef.
Gohirio gwrandawiad ar ôl cychwyn
9 

(1) Caniateir i’r gwrandawiad gael ei ohirio ar ôl cychwyn gan y person sy’n ei gynnal (ar gais y ceisydd neu fel arall).
(2) Pan fo’r gwrandawiad yn cael ei ohirio ar ôl cychwyn am fwy nag un diwrnod, rhaid i’r person sy’n cynnal y gwrandawiad bennu’r dyddiad y mae’r gwrandawiad i ailddechrau drwy anfon hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw at y ceisydd ac unrhyw berson arall y mae ei bresenoldeb yn ofynnol yn y gwrandawiad ar ôl iddo ailddechrau.
Penderfynu ar adolygiad
10 
Pan fo rheoliad 3(1) yn gymwys, rhaid i’r penderfyniad ar yr adolygiad gael ei wneud gan y person a gynhaliodd y gwrandawiad.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
9 Rhagfyr 2014