
2014 Rhif 3267 (Cy. 334)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Treialu) (Dirymu) 2014
Made 11 Rhagfyr 2014
Laid before the National Assembly for Wales 15 Rhagfyr 2014
Coming into force 5 Ionawr 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 17(1) a (2) a 24(2) o Fesur Addysg (Cymru) 2009:
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Treialu) (Dirymu) 2014 a deuant i rym ar 5 Ionawr 2015.
Dirymu
2 

(1) Mae Rheoliadau Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Treialu) 2012 wedi eu dirymu.
(2) Mae erthygl 4 o Orchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol) 2012 wedi ei dirymu.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
11 Rhagfyr 2014