
2014 Rhif 3155 (Cy. 317) (C. 137)
Y Diwydiant Dŵr, Cymru A Lloegr
Gorchymyn Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Cychwyn Rhif 9) 2014
Gwnaed 2 Rhagfyr 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddynt gan adran 49(3)(e) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Cychwyn Rhif 9) 2014.
Darpariaeth yn dod i rym ar 1 Ionawr 2015
2 
Mae adran 45 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn dod i rym ar 1 Ionawr 2015, i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn ac mewn perthynas ag ymgymerwr y mae ei ardaloedd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
2 Rhagfyr 2014