
2014 Rhif 3111 (Cy. 311)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (Diwygio) 2014
Gwnaed 18 Tachwedd 2014
Yn dod i rym 19 Tachwedd 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 9 ac 16 o Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012.

Gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 21(4) o’r Ddeddf honno.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (Diwygio) 2014.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012.
Diwygio Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf
2 

(1) Mae Tabl 1 yn Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (is-ddeddfau pan na fo cadarnhad yn ofynnol) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl y rhes sy’n ymwneud ag is-ddeddfau a wnaed o dan adran 19 o Ddeddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Cyhoeddus 1964, mewnosoder—“
Adran 41 o Ddeddf Cyngor Sir Morgannwg 1973 Ymgymeriadau gwresogi Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol”
(3) Ar ôl y rhes sy’n ymwneud ag is-ddeddfau a wnaed o dan adran 57(7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, mewnosoder—“
Adran 41 o Ddeddf Cyngor Sir Clwyd 1985 Canolfannau hamdden Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 42 o Ddeddf Cyngor Sir Clwyd 1985 Adeileddau dros dro Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol”
(4) Ar ôl y rhes sy’n ymwneud ag is-ddeddfau a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Tai 1985, mewnosoder—“
Adran 53 o Ddeddf Cyngor Dinas Abertawe (Morglawdd Tawe) 1986 Yr afon uwchlaw Cyngor sir (Abertawe)
Adran 31 o Ddeddf Cyngor Sir Morgannwg Ganol 1987 Harbwr Porthcawl Cyngor bwrdeistref sirol (Pen-y-bont ar Ogwr)
Adran 14 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987 Canolfannau hamdden Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 36 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987 Plismona a rheoli ffyrdd i gerddwyr Cyngor sir a chyngor bwrdeistref siro
Adran 41 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987 Adeileddau dros dro Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 63 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987 Marchnad Abertawe Cyngor sir (Abertawe)
Adran 45 o Ddeddf Dyfed 1987 Adeileddau dros dro Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol”
(5) Yn y rhes sy’n dechrau “Adran 2 o’r Ddeddf hon”, ar ôl “Rheolaeth dda a llywodraeth” mewnosoder “a rhwystro ac atal niwsansau”.
Diwygio Rhan 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf
3 

(1) Mae Tabl 2 yn Rhan 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (is-ddeddfau y caniateir dyroddi cosbau penodedig mewn perthynas â hwy) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl y rhes sy’n ymwneud ag is-ddeddfau a wnaed o dan adran 57(7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, mewnosoder—“
Adran 41 o Ddeddf Cyngor Sir Clwyd 1985 Canolfannau hamdden Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 42 o Ddeddf Cyngor Sir Clwyd 1985 Adeileddau dros dro Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol”
(3) Ar ôl y rhes sy’n ymwneud ag is-ddeddfau a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Tai 1985, mewnosoder—“
Adran 53 o Ddeddf Cyngor Dinas Abertawe (Morglawdd Tawe) 1986 Yr afon uwchlaw Cyngor sir (Abertawe)
Adran 31 o Ddeddf Cyngor Sir Morgannwg Ganol 1987 Harbwr Porthcawl Cyngor bwrdeistref sirol (Pen-y-bont ar Ogwr)
Adran 14 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987 Canolfannau hamdden Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 36 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987 Plismona a rheoli ffyrdd i gerddwyr Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 41 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987 Adeileddau dros dro Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 63 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987 Marchnad Abertawe Cyngor sir (Abertawe)
Adran 45 o Ddeddf Dyfed 1987 Adeileddau dros dro Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol”
(4) Yn y rhes sy’n dechrau “Adran 2 o’r Ddeddf hon”, ar ôl “Rheolaeth dda a llywodraeth” mewnosoder “a rhwystro ac atal niwsansau”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
18 Tachwedd 2014