
2014 Rhif 3089 (Cy. 310) (C. 132)
Bwyd, Cymru
Gorchymyn Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 2) 2014
Gwnaed 18 Tachwedd 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau yn adran 27(2) o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013.
Enwi
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 2) 2014.
Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar 28 Tachwedd 2014
2 
Y diwrnod penodedig i adran 2(5)(b) o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 ddod i rym yw 28 Tachwedd 2014.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
18 Tachwedd 2014