
2014 Rhif 3082 (Cy. 306)
Traffig Ffyrdd, Cymru
Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2014
Gwnaed 18 Tachwedd 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 20 Tachwedd 2014
Yn dod i rym 17 Rhagfyr 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 21 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970, a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2014, a deuant i rym ar 17 Rhagfyr 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae i “anhwylder meddyliol yr un ystyr ag a roddir i “mental disorder” yn adran 1(2) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
Diwygio’r Rheoliadau
2 

(1) Mae Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (8).
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “bathodyn person anabl” yn lle “ar y ffurf a ragnodir gan reoliad 11” rhodder “ar ffurf a bennir neu a gymeradwyir yn unol ag adran 21(1A) o Ddeddf 1970”.
(3) Yn rheoliad 4 (disgrifiadau o bersonau anabl)—
(a) yn lle paragraff (2)(ch2) rhodder—“
(ch2) wedi cael budd-dal cyfandaliad o dan erthygl 15(1)(a) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Iawndal) 2011 (“Gorchymyn 2011”)—
(i) o fewn lefelau tariff 1 i 8 yn gynwysedig fel y nodir yn Rhan 1, Atodlen 3 i Orchymyn 2011 ac wedi ei ardystio gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel un sydd ag anabledd parhaol a sylweddol sy’n achosi anallu i gerdded neu anhawster cerdded sylweddol iawn; neu
(ii) ar lefel tariff 6 yn Nhabl 3 (Anhwylder Meddyliol) o Ran 1, Atodlen 3 i Orchymyn 2011.”;
(b) ar ôl paragraff (2)(dd) mewnosoder—“
(dd2) o ganlyniad i anhwylder meddyliol, yn methu â dilyn llwybr taith gyfarwydd heb gymorth person arall; ”.
(4) Yn rheoliad 8 (seiliau dros wrthod rhoi bathodyn), ym mharagraff (2)(d), yn lle “sydd wedi’i roi gan awdurdod rhoi arall” rhodder “a roddwyd o dan adran 21 o Ddeddf 1970 neu fathodyn a gydnabyddir o fewn ystyr adran 21A o’r Ddeddf honno”.
(5) Yn rheoliad 9 (dychwelyd bathodyn i’r awdurdod rhoi)—
(a) ym mharagraff (1)(dd), dileer “neu fod bathodyn dilys arall yn cael ei roi i’r deiliad gan awdurdod rhoi arall”;
(b) ar ôl paragraff (1)(dd), mewnosoder—“; neu
(e) bod bathodyn dilys arall yn cael ei roi i’r deiliad o dan adran 21 o Ddeddf 1970 neu fathodyn a gydnabyddir o fewn ystyr adran 21A o’r Ddeddf honno.”;
(c) ar ôl paragraff (1), mewnosoder—“
(1A) Yn achos bathodyn y mae adran 21(4D)(b)(iii) o Ddeddf 1970 yn gymwys iddo a gedwir gan gwnstabl neu swyddog gorfodi yn unol â’r adran honno, rhaid i’r bathodyn gael ei ddychwelyd cyn gynted ag y bo’n ymarferol resymol—
(a) i’r awdurdod rhoi; a
(b) ar ôl ei ddychwelyd i’r awdurdod rhoi, gan yr awdurdod rhoi i’r deiliad, ar yr amod nad oes gan yr awdurdod rhoi seiliau ar gyfer rhoi hysbysiad i’r deiliad yn unol â pharagraff (2).”
(6) Yn y pennawd i Ran III, yn lle “Ffurf Bathodynnau a’u Harddangos” rhodder “Arddangos Bathodynnau”.
(7) Hepgorer rheoliad 11 (ffurf bathodyn).
(8) Hepgorer yr Atodlen.
Edwina Hart
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
18 Tachwedd 2014