
2014 Rhif 3079 (Cy. 304)
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) (Diwygio) 2014
Gwnaed 19 Tachwedd 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 20 Tachwedd 2014
Yn dod i rym 13 Rhagfyr 2014

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd ac mewn perthynas â’r polisi amaethyddol cyffredin, ac yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1), 17(2), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
I’r graddau y mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o’r Ddeddf honno.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at y Rheoliadau a ganlyn yn y Rheoliadau hyn gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd—
(a) Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r polisi pysgodfeydd cyffredin;
(b) Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 404/2011 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r polisi pysgodfeydd cyffredin; ac
(c) Rheoliad (EU) Rhif 1379/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu, sy’n diwygio Rheoliadau’r Cyngor (EC) Rhif 1184/2006 ac (EC) Rhif 1224/2009 ac sy’n diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) (Diwygio) 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 13 Rhagfyr 2014.
Diwygio Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2013
2 

(1) Mae Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2013 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn lle rheoliad 2(1), rhodder—“
2. 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Rheoliadau’r UE” (“the EU Regulations”) yw Rheoliad 1224/2009, Rheoliad 404/2011 a Rheoliad 1379/2013;
 ystyr “Rheoliad 1224/2009” (“Regulation 1224/2009”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r polisi pysgodfeydd cyffredin;
 ystyr “Rheoliad 404/2011” (“Regulation 404/2011”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 404/2011 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r polisi pysgodfeydd cyffredin;
 ystyr “Rheoliad 1379/2013” (“Regulation 1379/2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1379/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu.”
(3) Yn rheoliad 4 (gofynion gwybodaeth i ddefnyddwyr a gallu i olrhain)—
(a) ym mharagraff (1)(a), yn lle “(4) i” rhodder “(6) a”;
(b) ym mharagraff (2), yn lle is-baragraff (a) rhodder—“
(a) gofyniad a bennir yn Erthygl 35 o Reoliad 1379/2013 (darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr) fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthygl 38 o’r Rheoliad hwnnw, a gofyniad fel a bennir yn Erthygl 39(3) neu (4) o Reoliad 1379/2013 fel y’i darllenir ar y cyd â pharagraff (1) o’r Erthygl honno;”;
(c) ym mharagraff (3), yn lle “ac Erthygl 67(1) i (3) a (5) i (13) o Reoliad 404/2011” rhodder “, Erthygl 67(1) i (3) a (5) i (13) o Reoliad 404/2011 ac Erthyglau 35(1)(c) a 38 o Reoliad 1379/2013”;
(d) hepgorer paragraffau (4) a (5);
(e) yn lle paragraff (6) rhodder—“
(6) Nid yw’r gofyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(a) yn gymwys o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn Erthygl 35(4) o Reoliad 1379/2013, fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthygl 58(8) o Reoliad 1224/2009.”
Cyfeiriadau at Reoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2013
3 
Mae’r cyfeiriadau at Reoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2013 yn rheoliadau 5(3), 6(2) a 7(2) o’r Rheoliadau hynny, a pharagraffau 1 a 2(b) o’r Atodlen iddynt, i’w dehongli fel cyfeiriadau at Reoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2013 fel y’u diwygir gan y Rheoliadau hyn.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
19 Tachwedd 2014