
2014 Rhif 3033 (Cy. 302)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Etholiadau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2014
Gwnaed 12 Tachwedd 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 14th Tachwedd 2014
Yn dod i rym 9 Rhagfyr 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 87, 105(2) a (3) a 106(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Etholiadau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2014 a daw i rym ar 9 Rhagfyr 2014.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i bob awdurdod lleol yng Nghymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Newid blwyddyn etholiadau cyffredin
2 

(1) Yn adran 26 o Ddeddf 1972 (ethol cynghorwyr), yn lle “2004” ym mhob man lle y mae’n digwydd, rhodder “2017”.
(2) Yn adran 35 o Ddeddf 1972 (cynghorwyr cymuned), yn lle “2004”, rhodder “2017”.
Cyfnod swydd cynghorwyr presennol
3 
Yn unol â hynny, mae cyfnod swydd cynghorwyr presennol o dan adran 26(2) neu adran 35(2A) o Ddeddf 1972 wedi ei estyn gan un flwyddyn.
Dirymu
4 
Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol Ynys Môn (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) 2012 wedi ei ddirymu.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
12 Tachwedd 2014