
2014 Rhif 286 (Cy. 35)
Landlord A Thenant, Cymru
Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio) 2014
Gwnaed 11th February 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 13 Chwefror 2014
Yn dod i rym 10 Mawrth 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 250(2)(a) o Ddeddf Tai 2004 ac Atodlen 13 iddi, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio) 2014, a deuant i rym ar 10 Mawrth 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012
2 

(1) Mae Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (4).
(2) Yn rheoliad 49(2) (atebolrwydd i dalu ffi a hepgor ffioedd)—
(a) dileer yr atalnod llawn ar ddiwedd is-baragraff (d); a
(b) ar ôl is-baragraff (d), mewnosoder—“; neu
(dd) credyd cynhwysol.”
(3) Ym mharagraff 13 o’r Atodlen—
(a) yn is-baragraff (2)(a)(iv) ar ôl y geiriau “budd-dal tai” mewnosoder “neu’r credyd cynhwysol”; a
(b) yn is-baragraff (2)(b)(i) ar ôl y geiriau “budd-dal tai” mewnosoder “neu gredyd cynhwysol”.
(4) Ym mharagraff 19 o’r Atodlen—
(a) yn is-baragraff (2)(a)(iv) ar ôl y geiriau “budd-dal tai” mewnosoder “neu’r credyd cynhwysol”; a
(b) yn is-baragraff (2)(b)(i) ar ôl y geiriau “budd-dal tai” mewnosoder “neu gredyd cynhwysol”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru
11 Chwefror 2014