
2014 Rhif 2780 (Cy. 284) (C. 123)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gorchymyn Deddf Cynllunio 2008 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2014
Gwnaed 14 Hydref 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd gan adran 241(3) o Ddeddf Cynllunio 2008, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio 2008 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2014.
Darpariaeth yn dod i rym ar 28 Tachwedd 2014
2 
Daw adran 198 o Ddeddf Cynllunio 2008 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) i rym o ran Cymru ar 28 Tachwedd 2014.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
14 Hydref 2014