
2014 Rhif 2775 (Cy. 281)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu’r Weithdrefn) (Cyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2014
Gwnaed 14 Hydref 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 17 Hydref 2014
Yn dod i rym 12 Tachwedd 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 319B o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ac a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 333 o’r Ddeddf honno ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu’r Weithdrefn) (Cyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 12 Tachwedd 2014.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
Cyfnod rhagnodedig
2 

(1) Saith niwrnod gwaith o’r dyddiad perthnasol yw’r cyfnod rhagnodedig at ddibenion adran 319B(3) o Ddeddf 1990.
(2) Ym mharagraff (1)—
 ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ŵyl y Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru; acystyr “y dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw—
(a) o ran atgyfeiriadau o dan adran 77 o Ddeddf 1990, y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o’r atgyfeiriad gan yr awdurdod cynllunio lleol;
(b) o ran apêl o dan adran 78 o Ddeddf 1990, y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael y ffurflen wedi’i llenwi a’r dogfennau a bennir yn erthygl 26(1) a (3) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012;
(c) o ran apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990, y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o’r apêl o dan adran 174(3) ynghyd â datganiad o’r apêl a gyflwynwyd yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2003;
(d) o ran apelau o dan adran 195 o Ddeddf 1990, y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o’r apêl gan y ceisydd; ac
(e) o ran apelau o dan adran 208 o Ddeddf 1990, y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o’r apêl gan y ceisydd.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
14 Hydref 2014