
2014 Rhif. 2722 (Cy. 275)
Traffig Ffyrdd, Cymru
Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dinas a Sir Caerdydd) (Diwygio) 2014
Gwnaed 8 Hydref 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 14 Hydref 2014
Yn dod i rym 7 Tachwedd 2014

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8(1) o Atodlen 8 a pharagraff 3(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Mae Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru i Orchymyn gael ei wneud o dan y pwerau hyn mewn cysylltiad â rhan o’i ardal.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu De Cymru yn unol â gofynion paragraff 8(3) o Atodlen 8 a pharagraff 3(4) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dinas a Sir Caerdydd) (Diwygio) 2014.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 7 Tachwedd 2014 ac mae’n gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dinas a Sir Caerdydd) 2010
2 

(1) Mae Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dinas a Sir Caerdydd) 2010 wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn lle’r Atodlen, rhodder yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
Edwina Hart
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
8 Hydref 2014
YR ATODLEN
Erthygl 2
“
YR ATODLEN
Yr ardal a ddynodir yn ardal gorfodi sifil o ran tramgwyddau parcio ac yn ardal gorfodi arbennig
Erthygl 2

Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i’r cyfan o ddinas a sir Caerdydd ac eithrio—
(a) traffordd yr M4 a’i ffyrdd ymuno ac ymadael a’r gerbytfordd gylchdroi (yr A4054) o amgylch Cyffordd 32;
(b) cefnffordd yr A470 gan gynnwys ei ffyrdd ymuno ac ymadael gogleddol sy’n gyfagos i gerbytffordd gylchdroi’r A4054, o’r ffin â Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf sydd oddeutu 240 o fetrau i’r gogledd o gylchfan Ynys Bridge y B4262 hyd at gerbytffordd gylchdroi Cyffordd 32 yr M4 drwy’r ffyrdd ymuno ac ymadael gogleddol;
(c) yr A48(M) o’r ffin ag ardal weinyddol Dinas Casnewydd hyd at y ffyrdd ymuno ac ymadael wrth Gyffordd Llaneirwg; a
(d) yr A4232 o Gyffordd 33 yr M4, gan gynnwys ei cherbytffordd gylchredol, hyd at ei chyffordd â cherbytffordd gylchdroi’r A48 wrth Groes Cwrlwys drwy’r ffyrdd ymuno ac ymadael gogleddol.
”