
2014 Rhif 2717 (Cy. 273)
Llywodraeth Leol, Cymru
Rheoliadau Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2014
Gwnaed 9 Hydref 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 13 Hydref 2014
Yn dod i rym 7 Tachwedd 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 13(3) a (4) o Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Tachwedd 2014.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012.
Ystod ragnodedig o gosbau penodedig
2 
Yr ystod y mae’n rhaid i swm a bennir o dan adran 13(1)(a) o’r Ddeddf ddod oddi mewn iddi yw rhwng £50 a £150, yn gynwysedig.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
9 Hydref 2014