
2014 Rhif 2714 (Cy. 271)
Amaethyddiaeth, Cymru
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2014
Gwnaed 8 Hydref 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 10 Hydref 2014
Yn dod i rym 6 Tachwedd 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd a mesurau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd neu a fwydir iddynt, polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd a mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer amddiffyn iechyd y cyhoedd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad at offeryn UE a ddiffinnir yn Atodlen 1 gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2014, deuant i rym ar 6 Tachwedd 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009
2 

(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a) yn lle’r diffiniad sy’n dechrau gyda’r geiriau “mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”)” rhodder y diffiniad a ganlyn—“
 mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Rheoliad 999/2001” (“Regulation 999/2001”), “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”), “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”), “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”), “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”), “Rheoliad 1020/2008” (“Regulation 1020/2008”), “Rheoliad 669/2009” (“Regulation 669/2009”), “Rheoliad 211/2013” (“Regulation 211/2013”) a “Rheoliad 702/2013” (“Regulation 702/2013”) yr ystyron a roddir iddynt yn eu trefn yn Atodlen 1;”; a
(b) yn lle’r diffiniad o “y Darpariaethau Mewnforio” (“the Import Provisions”) rhodder—“
 ystyr “y Darpariaethau Mewnforio” (“the Import Provisions”) yw Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn, Erthygl 14 o Reoliad 882/2004 i’r graddau y mae’n gymwys i reolaethau swyddogol i wirio cydymffurfedd ag agweddau ar gyfraith bwyd anifeiliaid neu gyfraith bwyd nad ydynt wedi eu cwmpasu gan Gyfarwyddeb 97/78/EC, Erthyglau 15 i 24 o Reoliad 882/2004, Rheoliad 669/2009, Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 211/2013 a Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 704/2014 sy’n diwygio Rheoliad 211/2013 ar ofynion ardystio ar gyfer mewnforio egin a hadau i’r Undeb sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu egin.”
(3) Yn Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth yr UE) ar ôl y paragraff olaf, mewnosoder—“
 ystyr “Rheoliad 211/2013” (“Regulation 211/2013”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 211/2013 ar ofynion ardystio ar gyfer mewnforion egin a hadau i’r Undeb sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu egin.”
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
8 Hydref 2014