
2014 Rhif 2693 (Cy. 268)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Digolledu) (Cymru) (Rhif 2) 2014
Gwnaed 29 Medi 2014 
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 9 Hydref 2014 
Yn dod i rym 7 Tachwedd 2014 
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 108 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Digolledu) (Cymru) (Rhif 2) 2014 a deuant i rym ar 7 Tachwedd 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Atodlen 2” (“Schedule 2”) yw Atodlen 2 i Orchymyn 1995;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
 ystyr “Gorchymyn 1995” (“the 1995 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995; ac
 ystyr “Gorchymyn y Weithdrefn Rheoli Datblygu” (“the DMPO”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012.
Datblygiad rhagnodedig – caniatâd cynllunio a roddwyd drwy orchymyn datblygu
2 
At ddibenion paragraffau (2A)(a) a (3C)(a) o adran 108 o’r Ddeddf (digolledu pan gaiff gorchymyn datblygu neu orchymyn datblygu lleol ei dynnu’n ôl), mae datblygiad o’r disgrifiad canlynol yn rhagnodedig—
(a) datblygiad a ganiateir gan Ran 1 o Atodlen 2 (datblygiad o fewn cwrtil tŷ annedd);
(b) datblygiad a ganiateir gan Ddosbarthiadau A ac E o Ran 8 o Atodlen 2 (estyn neu addasu adeilad diwydiannol neu warws a chodi neu adeiladu storfa sbwriel neu feiciau o fewn cwrtil adeilad diwydiannol neu warws);
(c) Dosbarth A o Ran 24 (datblygu gan weithredwyr cod cyfathrebu electronig (Cymru)) i’r graddau y mae paragraff A.2(4A) yn datgymhwyso’r amodau ym mharagraff A.3 o Ddosbarth A ac yn cymhwyso’r amodau ym mharagraff A.2(4B) o Ddosbarth A;
(d) datblygiad a ganiateir gan Ran 32 o Atodlen 2 (ysgolion, colegau, prifysgolion ac ysbytai);
(e) datblygiad a ganiateir gan Ran 40 o Atodlen 2 (gosod cyfarpar microgynhyrchu domestig);
(f) datblygiad a ganiateir gan Ran 41 o Atodlen 2 (swyddfeydd);
(g) datblygiad a ganiateir gan Ran 42 o Atodlen 2 (siopau, sefydliadau gwasanaethau ariannol neu broffesiynol); a
(h) datblygiad a ganiateir gan Ran 43 o Atodlen 2 (gosod cyfarpar microgynhyrchu annomestig).
Dull rhagnodedig o dynnu’n ôl ganiatâd cynllunio a roddwyd drwy orchymyn datblygu
3 
At ddibenion adran 108(3C)(b) o’r Ddeddf, y dull rhagnodedig ar gyfer tynnu’n ôl ganiatâd cynllunio yw—
(a) drwy gyfarwyddyd yn unol ag erthyglau 4, 5 a (fel y bo’n briodol) 6 o Orchymyn 1995; neu
(b) drwy ddarparu mewn gorchymyn datblygu fod caniatâd cynllunio—
(i) am gyfnod cyfyngedig; neu
(ii) yn cael ei dynnu’n ôl ar ôl dyddiad a bennir yn y gorchymyn.
Hysbysiad o’r tynnu’n ôl - y dull cyhoeddi a’r cyfnod rhagnodedig ar gyfer gorchmynion datblygu
4 

(1) At ddibenion adran 108(3C)(c) o’r Ddeddf, mae’r materion canlynol yn rhagnodedig.
(2) Y dull rhagnodedig ar gyfer cyhoeddi hysbysiad o’r tynnu’n ôl yw—
(a) y dull a ddisgrifir yn erthyglau 5 a (fel y bo’n briodol) 6 o Orchymyn 1995; neu
(b) drwy ddarparu mewn gorchymyn datblygu fod caniatâd cynllunio—
(i) am gyfnod cyfyngedig; neu
(ii) yn cael ei dynnu’n ôl ar ôl dyddiad a bennir yn y gorchymyn datblygu.
(3) Y cyfnod rhagnodedig yw—
(a) 24 mis; neu
(b) pan fo hysbysiad o’r tynnu’n ôl yn cael ei gyhoeddi yn unol â pharagraff (2)(b), 5 mlynedd.
Hysbysiad o’r tynnu’n ôl – y dull a’r cyfnod rhagnodedig ar gyfer gorchmynion datblygu lleol
5 

(1) At ddibenion adran 108(3D)(c) o’r Ddeddf, mae’r materion canlynol yn rhagnodedig.
(2) Y dull rhagnodedig ar gyfer cyhoeddi hysbysiad o ddirymu, diwygio neu gyfarwyddydau yw—
(a) y dull a ddisgrifir ym mharagraffau (7) ac (8) o erthygl 27 o Orchymyn y Weithdrefn Rheoli Datblygu; neu
(b) pan fo gorchymyn datblygu lleol yn rhoi caniatâd cynllunio am gyfnod cyfyngedig, neu’n darparu bod caniatâd cynllunio yn cael ei dynnu’n ôl ar ôl dyddiad a bennir yn y gorchymyn datblygu lleol, drwy roi copi o’r gorchymyn datblygu lleol hwnnw yn yr adran briodol o’r gofrestr a gedwir gan yr awdurdod cynllunio lleol yn unol ag erthygl 29 o Orchymyn y Weithdrefn Rheoli Datblygu.
(3) Y cyfnod rhagnodedig yw—
(a) 24 mis; neu
(b) pan fo hysbysiad o’r tynnu’n ôl yn cael ei gyhoeddi’n unol â pharagraff (2)(b), 5 mlynedd.
Darpariaeth drosiannol
6 
Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw dynnu’n ôl o ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad o ddisgrifiad a ragnodir yn rheoliad 2(d) pan fo, cyn 18 Mehefin 2012, naill ai—
(a) hysbysiad o’r cyfarwyddyd yn tynnu’n ôl y caniatâd hwnnw wedi cael ei roi yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn 1995; neu
(b) y cyfarwyddyd yn un y mae erthygl 6 o Orchymyn 1995 (hysbysiad a chadarnhad o gyfarwyddydau erthygl 4(2)) yn gymwys iddo a bod y cyfarwyddyd wedi dod i rym.
Dirymu
7 
Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Digolledu) (Cymru) 2014 wedi eu dirymu.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
29 Medi 2014