
2014 Rhif 256 (Cy. 34)
Iechyd Y Cyhoedd
Rheoliadau Rheoliadau Citiau a Gwasanaethau Profi am HIV 1992 (Dirymu) (Cymru) 2014
Gwnaed 10 Chwefror 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru  11 Chwefror 2014
Yn dod i rym 6 Ebrill 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 23(1) i (3) o Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi, rhychwantu a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheoliadau Citiau a Gwasanaethau Profi am HIV 1992 (Dirymu) (Cymru) 2014.
2 
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Dirymu
3 
Mae Rheoliadau Citiau a Gwasanaethau Profi am HIV 1992 wedi eu dirymu o ran Cymru.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
10 Chwefror 2014