
2014 Rhif 2365 (Cy. 229)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) 2014
Gwnaed 3 Medi 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 5 Medi 2014
Yn dod i rym
 29 Medi 2014
ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 1(1) 
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 2(2) a 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, a chan baragraffau 4, 9(2) a 12 o Atodlen 1 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 29 Medi 2014 ac eithrio rheoliad 2 a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dirymu
2 
Mae’r Rheoliadau yn Atodlen 1 wedi eu dirymu.
Dehongli
3 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “aelod” (“member”) yw aelod o’r Cyngor;
 ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor y Gweithlu Addysg;
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
 ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
 ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014; ac
 ystyr “prif swyddog” (“chief officer”) yw prif swyddog y Cyngor.
Aelodaeth
4 
Rhaid i’r Cyngor gynnwys 14 o aelodau a benodir yn unol â rheoliadau 6 a 7.
Cymhwystra ar gyfer penodi
5 
Nid yw unrhyw berson yn gymwys i gael ei benodi o dan reoliadau 6 neu 7—
(a) pan fo’r person wedi ei wahardd o weithgaredd a reoleiddir yn ymwneud â phlant o fewn ystyr adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006;
(b) pan fo’r person wedi ei wahardd rhag addysgu yn rhinwedd cyfarwyddyd o dan adran 142(1)(a) o Ddeddf Addysg 2002;
(c) pan fo’r person wedi ei wahardd rhag cael ei gyflogi fel athro neu athrawes yn rhinwedd gorchymyn gwahardd o dan adran 141B o Ddeddf Addysg 2002;
(d) pan wneir gorchymyn disgyblu mewn cysylltiad â’r person o dan Atodlen 2 i Ddeddf 1998 a bod y person yn dod yn anghymwys i’w gofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998 yn rhinwedd y gorchymyn disgyblu hwnnw;
(e) pan wneir gorchymyn disgyblu mewn cysylltiad â’r person o dan adran 26 o Ddeddf 2014 a bod y person yn dod yn anghymwys i’w gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 yn rhinwedd y gorchymyn disgyblu hwnnw;
(f) pan fo’r person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei gyflogi fel athro neu athrawes mewn unrhyw ysgol yn rhinwedd gorchymyn sydd wedi ei wneud—
(i) gan Dribiwnlys Ysgolion Annibynnol o dan adran 470 o Ddeddf 1996, neu
(ii) gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru o dan adran 471 o Ddeddf 1996; neu
(g) pan fo’r person yn anghymwys i’w gofrestru fel athro neu athrawes, neu wedi ei anghymhwyso rhag bod yn athro neu athrawes mewn unrhyw ysgol neu sefydliad addysg bellach mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig.
Aelodau a benodir gan Weinidogion Cymru ar ôl iddynt gael eu henwebu
6 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru geisio enwebiadau ar gyfer swydd aelod o’r Cyngor gan y sefydliadau a nodir yn Atodlen 2.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru benodi saith aelod o’r rhestr o bersonau a enwebir gan y sefydliadau a nodir yn Atodlen 2.
(3) Wrth benodi o dan baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru, i’r graddau y bo’n bosibl, sicrhau bod pedwar o’r aelodau a benodir felly yn bersonau a enwebwyd gan sefydliad a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 2.
(4) Pan fo sefydliad a nodir yn Atodlen 2 yn newid ei enw, ond nid yw ei amcanion wedi eu newid mewn ffordd berthnasol, mae’r cyfeiriad at y sefydliad yn yr Atodlen i’w ddarllen fel cyfeiriad at y sefydliad o dan ei enw newydd.
Aelodau a benodir gan Weinidogion Cymru heb iddynt gael eu henwebu
7 
Rhaid i saith aelod gael eu penodi gan Weinidogion Cymru.
Swyddi gwag
8 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swydd wag yn codi ymhlith yr aelodau ac eithrio pan fo tymor swydd aelod yn dod i ben.
(2) Os yw’r swydd wag ymhlith aelodau a benodwyd o dan reoliad 6, rhaid i Weinidogion Cymru lenwi’r swydd wag drwy benodi person—
(a) o’r rhestr o bersonau a ddarparwyd yn fwyaf diweddar gan yr enwebeion a enwebodd y person sydd wedi gadael y swydd;
(b) os nad yw’n bosibl penodi person yn unol ag is-baragraff (a), o’r rhestr o bersonau a ddarparwyd yn fwyaf diweddar gan unrhyw enwebai arall a restrir yn yr un Rhan o Atodlen 2 â’r enwebai a enwebodd y person sydd wedi gadael y swydd; neu
(c) os nad yw’n bosibl penodi person yn unol ag is-baragraffau (a) a (b), o’r rhestr o bersonau a ddarparwyd yn fwyaf diweddar gan unrhyw enwebai arall a restrir yn naill ai Rhan 1 neu Ran 2 o Atodlen 2.
(3) Os yw’r swydd wag ymhlith aelodau a benodwyd o dan reoliad 7—
(a) rhaid i’r swydd wag gael ei llenwi drwy benodiad gan Weinidogion Cymru; a
(b) pan fo’r person sydd wedi gadael y swydd yn berson cofrestredig rhaid i’r penodai fod o’r un categori o berson cofrestredig â’r un sydd wedi gadael y swydd.
(4) Mae person a benodir o dan y rheoliad hwn i lenwi swydd wag yn dal y swydd tan y dyddiad y byddai tymor swydd yr aelod y mae’r person hwnnw yn llenwi ei swydd wedi dod i ben.
(5) Pan na fo swydd wag wedi ei llenwi yn unol â’r rheoliad hwn, caiff y Cyngor lenwi’r swydd wag honno drwy benodiad dros dro.
(6) O ran unrhyw benodiad dros dro o dan baragraff (5)—
(a) ni chaniateir iddo gael ei wneud ond pan fo’r swydd wag yn codi o fewn 6 mis i’r dyddiad y byddai tymor swydd yr aelod y mae’r person hwnnw yn llenwi ei swydd wedi dod i ben;
(b) rhaid iddo fod ar gyfer tymor nad yw’n mynd y tu hwnt i’r dyddiad y byddai tymor swydd yr aelod y mae’r person hwnnw yn llenwi ei swydd wedi dod i ben; ac
(c) rhaid iddo fod ar unrhyw delerau eraill a bennir gan y Cyngor.
Penodi prif swyddog
9 

(1) Hyd at 31 Mawrth 2015 a chan gynnwys y dyddiad hwnnw, rhaid i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru benodi’r prif swyddog.
(2) O 1 Ebrill 2015 a chan gynnwys y dyddiad hwnnw, rhaid i’r Cyngor benodi’r prif swyddog.
(3) Mae telerau ac amodau penodiad person o dan baragraff (1)—
(a) i’w pennu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru; a
(b) i’w cymeradwyo (ac unrhyw delerau ac amodau diwygiedig) gan Weinidogion Cymru.
(4) Mae telerau ac amodau penodiad person o dan baragraff (2)—
(a) i’w pennu gan y Cyngor;
(b) i’w hadolygu gan y Cyngor bob tair blynedd; ac
(c) i’w cymeradwyo (ac unrhyw delerau ac amodau diwygiedig) gan Weinidogion Cymru.
Panel dethol prif swyddog
10 

(1) Rhaid i’r Cyngor hysbysebu unrhyw swydd wag ar gyfer swydd y prif swyddog mewn unrhyw gyhoeddiadau sy’n cylchredeg ledled Cymru a Lloegr y mae’n eu hystyried yn briodol.
(2) Rhaid i’r Cyngor benodi panel dethol—
(a) i ddethol ar gyfer cyf-weld yr ymgeiswyr hynny sy’n addas ym marn y panel dethol;
(b) i gyf-weld â’r ymgeiswyr hynny sy’n bresennol at y diben; ac
(c) pan fo’r panel dethol yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, i argymell un o’r ymgeiswyr y cyfwelodd y panel dethol â hwy i’r Cyngor i gael ei benodi.
(3) Rhaid i’r panel dethol ethol cadeirydd o blith ei aelodau.
(4) Yn dilyn pleidlais fwyafrifol gan aelodau’r Cyngor, caiff y Cyngor symud y cadeirydd i unrhyw banel dethol o’i swydd fel cadeirydd i’r panel dethol hwnnw ar unrhyw adeg.
(5) Rhaid i fwyafrif y personau ar unrhyw banel dethol fod yn aelodau’r cyngor.
(6) Rhaid i aelodaeth panel dethol gynnwys—
(a) o leiaf un cynrychiolydd Gweinidogion Cymru; a
(b) o leiaf un aelod annibynnol.
(7) Nid yw person i’w ystyried yn annibynnol at ddibenion paragraff (6)(b) os yw’r person—
(a) yn aelod o’r Cyngor neu’n gyflogai iddo; neu
(b) yn gyflogai i Lywodraeth Cymru.
(8) Pan fo’r pleidleisiau yn gyfartal, mae gan y cadeirydd neu, yn ôl y digwydd, y person sy’n gweithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod, ail bleidlais neu bleidlais fwrw.
(9) Rhaid i unrhyw benderfyniad a wneir gan y panel dethol gael ei wneud drwy bleidlais sy’n cynrychioli mwyafrif absoliwt o’r holl bersonau ar y panel
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
3 Medi 2014
ATODLEN 1
Y RHEOLIADAU A DDIRYMWYD
Rheoliad 2


Y Rheoliadau a ddirymwyd Cyfeirnodau Graddau’r dirymu
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999 O.S. 1999/1619 Yn llawn
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) (Diwygio) 1999 O.S. 1999/3185 Yn llawn
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) (Diwygio) 2003 O.S. 2003/389 (Cy. 51) Yn llawn
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) (Diwygio) 2007 O.S. 2007/812 (Cy. 69) Yn llawn
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) (Diwygio) 2009 O.S. 2009/1352 (Cy. 128) Yn llawn
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) (Diwygio) 2012 O.S. 2012/169 (Cy. 28) Yn llawn
ATODLEN 2
Y SEFYDLIADAU SYDD Â’R HAWL I ENWEBU PERSONAU I’W PENODI I’R CYNGOR
Rheoliad 6
RHAN 1
1 
Undeb Cenedlaethol yr Athrawon (Cymru).
2 
Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau (Cymru).
3 
Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau.
4 
Cymdeithas Broffesiynol yr Athrawon.
5 
Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon yng Nghymru.
6 
Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru.
7 
Cymdeithas yr Athrawon a’r Darlithwyr.
8 
Undeb Prifysgolion a Cholegau.
9 
UNSAIN.
10 
GMB.
11 
Unite: Uno’r Undeb.
12 
Grŵp Aspect Undeb Prospect.
13 
TUC Cymru.
RHAN 2
14 
ColegauCymru.
15 
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
16 
Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru.
17 
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
18 
Cydffederasiwn Cymdeithasau Llywodraethwyr Ysgolion Cymru.
19 
Yr Eglwys yng Nghymru.
20 
Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig.
21 
Addysg Uwch Cymru.
22 
Cyngor y Prifysgolion ar gyfer Addysgu Athrawon.
23 
Cyngor Ysgolion Annibynnol Cymru.
24 
Cymdeithas CYSAGau Cymru.
25 
Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.
26 
Ffederasiwn Busnesau Bach.
27 
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.