
2014 Rhif 2291 (Cy. 226)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffisiotherapyddion-ragnodwyr, Podiatryddion-ragnodwyr neu Giropodyddion-ragnodwyr Annibynnol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2014
Gwnaed 27 Awst 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 29 Awst 2014
Yn dod i rym 24 Medi 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 47, 80, 83, 86 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, ac adrannau 77 a 90 o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 a pharagraff 3 o Atodlen 6 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffisiotherapyddion-ragnodwyr, Podiatryddion-ragnodwyr neu Giropodyddion-ragnodwyr Annibynnol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 24 Medi 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004;
 ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007;
 ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010; ac
 ystyr “Rheoliadau 2013” (“the 2013 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013.
Diwygio Rheoliadau 2004
3 

(1) Mae Rheoliadau 2004 wedi eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—“
 “physiotherapist independent prescriber” means a person—
(a) who is either engaged or employed by the contractor or is a party to the contract,
(b) who is a physiotherapist, and
(c) against whose name is recorded in the relevant register an annotation signifying that he or she is qualified to order drugs, medicines and appliances as a physiotherapist independent prescriber;”;“
 “podiatrist or chiropodist independent prescriber” means a person—
(a) who is either engaged or employed by the contractor or is a party to the contract,
(b) who is a podiatrist or chiropodist, and
(c) against whose name is recorded in the relevant register an annotation signifying that he or she is qualified to order drugs, medicines and appliances as a podiatrist or chiropodist independent prescriber;”.
(3) Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “prescriber”—
(i) ar ôl is-baragraff (d), hepgorer “and”;
(ii) ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—“
(f) a physiotherapist independent prescriber, and
(g) a podiatrist or chiropodist independent prescriber;”.
(4) Ym mharagraff 49(3) a (4) o Atodlen 6 (amodau sy’n berthnasol i ddarparu gwasanaethau gweinyddu) ar ôl “pharmacist independent prescriber” ym mhob man lle y mae’n digwydd mewnosoder “, a physiotherapist independent prescriber, a podiatrist or chiropodist independent prescriber”.
(5) Ym mharagraff 64(1) a (2) o Atodlen 6 (sy’n ymwneud â nyrsys sy’n rhagnodi’n annibynnol, nyrsys-ragnodwyr annibynnol, fferyllwyr-ragnodwyr annibynnol a rhagnodwyr atodol) ar ôl “pharmacist independent prescriber” ym mhob man lle y mae’n digwydd mewnosoder “, a physiotherapist independent prescriber, a podiatrist or chiropodist independent prescriber”.
(6) Ym mhennawd paragraff 64 o Atodlen 6, ar ôl “pharmacist independent prescriber” mewnosoder “, physiotherapist independent prescriber, podiatrist or chiropodist independent prescriber”.
Diwygio Rheoliadau 2007
4 

(1) Mae Rheoliadau 2007 wedi eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—“
 ystyr “ffisiotherapydd-ragnodydd annibynnol” (“physiotherapist independent prescriber”) yw person—
(a) sy’n ffisiotherapydd, a
(b) y cofnodir yn erbyn ei enw yn y gofrestr berthnasol nodyn yn dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel ffisiotherapydd-ragnodydd annibynnol;”;“
 ystyr “podiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd annibynnol” (“podiatrist or chiropodist independent prescriber”) yw person—
(a) sy’n bodiatrydd neu’n giropodydd, a
(b) y cofnodir yn erbyn ei enw yn y gofrestr berthnasol nodyn yn dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel podiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd annibynnol;”.
(3) Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “rhagnodydd”—
(i) ar ôl is-baragraff (ch), hepgorer “ac”;
(ii) ar ôl is-baragraff (d), yn lle “;” rhodder “,” a mewnosoder—“(dd) ffisiotherapydd-ragnodydd annibynnol, ac(e) podiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd annibynnol.”
Diwygio Rheoliadau 2010
5 

(1) Mae Rheoliadau 2010 wedi eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn lle paragraff 1(2)(a) o Atodlen 1 (esemptiadau) rhodder—“
(a) cynnyrch meddyginiaethol neu gyfarpar rhestredig a werthir yn unol â phresgripsiwn a ddyroddwyd gan ymarferydd meddygol cofrestredig, deintydd, rhagnodydd atodol, nyrs-ragnodydd annibynnol, nyrs sy’n rhagnodi’n annibynnol, optometrydd-ragnodydd annibynnol, fferyllydd-ragnodydd annibynnol, ffisiotherapydd-ragnodydd annibynnol, podiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd annibynnol neu broffesiynolyn iechyd yr AEE;”.
(3) Ym mharagraff 1(3) o Atodlen 1 yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—“
 mae i “ffisiotherapydd-ragnodydd annibynnol” (“physiotherapist independent prescriber”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013;”;“
 mae i “podiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd annibynnol” (“podiatrist or chiropodist independent prescriber”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013;”.
Diwygio Rheoliadau 2013
6 

(1) Mae Rheoliadau 2013 wedi eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—“
 ystyr “ffisiotherapydd-ragnodydd annibynnol” (“physiotherapist independent prescriber”) yw person—
(a) sy’n ffisiotherapydd, a
(b) sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn Rhan 9 o’r gofrestr a gynhelir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2011 sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel ffisiotherapydd-ragnodydd annibynnol;”;“
 ystyr “podiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd annibynnol” (“podiatrist or chiropodist independent prescriber”) yw person—
(a) sy’n bodiatrydd neu’n giropodydd, a
(b) sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn Rhan 2 o’r gofrestr a gynhelir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2011 sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel podiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd annibynnol;”.
(3) Yn rheoliad 2(1), yn lle’r diffiniad o “rhagnodydd” rhodder—“
 ystyr “rhagnodydd” (“prescriber”) yw meddyg, deintydd, nyrs sy’n rhagnodi’n annibynnol, nyrs-ragnodydd annibynnol, optometrydd-ragnodydd annibynnol, fferyllydd-ragnodydd annibynnol, ffisiotherapydd-ragnodydd annibynnol, podiatrydd-ragnodydd neu giropodydd ragnodydd annibynnol neu ragnodydd atodol;”.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Awst 2014