
2014 Rhif 2162 (Cy. 211) (C. 97)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Deddf Addysg (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 2) 2014
Gwnaed 7 Awst 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 50(4) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 2) 2014.
Darpariaethau sy’n dod i rym ar 18 Awst 2014
2 
Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 i rym yw 18 Awst 2014—
(a) adran 2 i’r graddau y mae’n ymwneud ag Atodlen 1 (cyngor y gweithlu addysg);
(b) yn Atodlen 1—
(i) paragraff 3(1), (2), (3), (4)(a) a (5) (aelodaeth);
(ii) paragraff 4 (aelodaeth: darpariaeth bellach);
(iii) paragraff 5 (deiliadaeth);
(iv) paragraff 6 (diswyddo);
(v) paragraff 7 (tâl, lwfansau a threuliau aelodau);
(vi) paragraff 9(1), (2) a (3) (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r prif swyddog); a
(vii) paragraff 12 (pwyllgorau’n gyffredinol).
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
7 Awst 2014