
2014 Rhif 2126 (Cy. 209)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Diddymu Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Cynigion a Chyrff Rhagnodedig) (Cymru) 2014
Gwnaed 6 Awst 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8 Awst 2014
Yn dod i rym 1 Medi 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 27(2) i (4), 27B(1) a 89(4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diddymu Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Cynigion a Chyrff Rhagnodedig) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 1 Medi 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
Cyhoeddi cynigion ar gyfer ddiddymu corfforaethau addysg bellach
3 

(1) At ddibenion adran 27(2) a (3) o’r Ddeddf rhaid i’r gorfforaeth gyhoeddi’r cynnig yn unol â pharagraffau (2) i (5).
(2) Rhaid i’r cynnig gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 1.
(3) Rhaid i’r gorfforaeth gyhoeddi’r cynnig o leiaf chwe mis cyn y dyddiad a bennir yn y cynnig ar gyfer diddymu’r gorfforaeth.
(4) Rhaid i’r gorfforaeth gyhoeddi hysbysiad o’r cynnig:
(a) mewn o leiaf un papur newydd sy’n cylchredeg yn yr ardal a wasanaethir gan y sefydliad y mae’r cynnig yn ymwneud ag ef,
(b) mewn o leiaf un papur newydd sy’n cylchredeg ledled Cymru,
(c) ar wefan y sefydliad.
(5) Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4) gynnwys o leiaf yr wybodaeth a ganlyn:
(a) enw’r gorfforaeth addysg bellach ac enw’r sefydliad o dan sylw (os yw’n wahanol),
(b) y dyddiad a gynigir ar gyfer diddymu’r gorfforaeth addysg bellach,
(c) y weithdrefn ar gyfer cael copi o’r cynnig.
Ymgynghori
4 

(1) Rhaid i’r gorfforaeth anfon copi o’r cynnig ar gyfer diddymu at:
(a) corff llywodraethu unrhyw sefydliad yn y sector addysg bellach o fewn yr ardal awdurdod lleol y mae’r sefydliad wedi ei leoli ynddi,
(b) corff llywodraethu unrhyw sefydliad yn y sector addysg uwch o fewn yr ardal awdurdod lleol y mae’r sefydliad wedi ei leoli ynddi,
(c) corff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir sy’n darparu addysg sy’n addas ar gyfer gofynion personau dros oedran ysgol gorfodol o fewn yr ardal awdurdod lleol y mae’r sefydliad wedi ei leoli ynddi,
(d) yr awdurdod lleol y mae’r sefydliad wedi ei leoli yn ei ardal,
(e) Aelod Cynulliad yr etholaeth honno neu’r rhanbarth hwnnw y mae’r sefydliad y mae’r cynnig yn ymwneud ag ef wedi ei leoli ynddi neu ynddo, ac unrhyw Aelod Cynulliad arall yr ymddengys i’r gorfforaeth fod y cynnig yn debygol o effeithio ar ei etholwyr,
(f) Gweinidogion Cymru,
(g) Aelod Seneddol yr etholaeth honno y mae’r sefydliad y mae’r cynnig yn ymwneud ag ef wedi ei leoli ynddi,
(h) Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru,
(i) unrhyw gymdeithas a gydnabyddir gan y gorfforaeth sy’n cynrychioli myfyrwyr yn y sefydliad,
(j) unrhyw undeb llafur a gydnabyddir gan y gorfforaeth sy’n cynrychioli staff yn y sefydliad,
(k) unrhyw berson sy’n gofyn am gopi yn unol â’r weithdrefn y cyfeirir ati yn rheoliad 3(5)(c), ac
(l) unrhyw berson arall yr ymddengys i’r gorfforaeth fod ganddo fuddiant.
(2) At ddiben adran 27(4) o’r Ddeddf rhaid i’r gorfforaeth:
(a) darparu ar gyfer cyfnod o un mis o leiaf sy’n dechrau ar y dyddiad cyhoeddi a ddisgrifir yn rheoliad 3(3) er mwyn i sylwadau gael eu cyflwyno ynglŷn â’r cynnig,
(b) ystyried y safbwyntiau a fynegir mewn unrhyw sylwadau a geir o dan is-baragraff (a),
(c) cyhoeddi crynodeb o’r sylwadau a geir o dan is-baragraff (a) a chanlyniad yr ymgynghoriad ar wefan y sefydliad o fewn dau fis sy’n dechrau ar y dyddiad ar ôl i’r cyfnod ymgynghori a ddisgrifir yn is-baragraff (a) ddod i ben a chyn diddymu’r gorfforaeth, a rhoi copi papur o’r crynodeb ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw berson sy’n gofyn amdano.
Cyrff rhagnodedig
5 
Mae person neu gorff wedi ei ragnodi at ddibenion adran 27B(1) o’r Ddeddf (diddymu corfforaethau addysg bellach: trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau):
(a) os yw wedi ei restru yn Atodlen 2, a
(b) os yw ei weithgareddau yn cael eu cynnal yn gyfan gwbl, neu’n bennaf, yng Nghymru.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
6 Awst 2014
ATODLEN 1
Rheoliad 3(2)
1 
Enw’r gorfforaeth addysg bellach ac enw’r sefydliad o dan sylw (os yw’n wahanol).
2 
Cyfeiriad y sefydliad.
3 
Disgrifiad cyffredinol o’r addysg a ddarperir gan y sefydliad.
4 
Nifer y myfyrwyr llawnamser, nifer y myfyrwyr rhan-amser, a chyfanswm nifer y myfyrwyr yn y sefydliad.
5 
Y rheswm dros gynnig diddymu’r gorfforaeth addysg bellach.
6 
Y dyddiad a gynigir ar gyfer diddymu’r gorfforaeth addysg bellach.
7 
Y ddarpariaeth addysgol sydd i’w gwneud ar gyfer y myfyrwyr hynny nad ydynt wedi cwblhau eu cyrsiau ar y dyddiad hwnnw.
8 
Y trefniadau arfaethedig ar gyfer trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau’r gorfforaeth addysg bellach.
ATODLEN 2
Rheoliad 5(a)

At ddibenion rheoliad 5, y cyrff a ganlyn yw’r cyrff rhagnodedig:
1 
Corfforaeth addysg bellach.
2 
Corff llywodraethu sefydliad dynodedig.
3 
Corff llywodraethu ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol.
4 
Awdurdod lleol.
5 
Prifysgol sy’n cael cymorth ariannol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
6 
Corfforaeth addysg uwch.
