
2014 Rhif 2124 (Cy. 208)
Anifeiliaid, CymruAtal Creulondeb
Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2014
Gwnaed 6th Awst 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8th Awst 2014
Yn dod i rym 5th Medi 2014
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd ac maent yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau hynny.
RHAN 1 Cyffredinol
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Mae’r Rheoliadau hyn—
(a) yn dwyn yr enw Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2014;
(b) yn gymwys o ran Cymru ac o ganlyniad i hynny mae’r diwygiadau a wneir gan reoliad 2—
(i) yn ymestyn i Gymru a Lloegr; a
(ii) yn gymwys o ran Cymru yn unig; ac
(c) yn dod i rym ar 5 Medi 2014.
Diwygiadau canlyniadol
2 

(1) Yn adran 10 o Ddeddf Drylliau 1968 (cigydda anifeiliaid)—
(a) yn is-adran (1), yn lle “licensed under the Welfare of Animals (Slaughter or Killing) Regulations 1995 to slaughter horses, cattle, sheep, swine or goats” rhodder “holding a relevant licence”; a
(b) ar ôl is-adran (1), mewnosoder—“
(1A) For the purposes of subsection (1) a person holds a relevant licence if that person—
(a) is licensed under the Welfare of Animals (Slaughter or Killing) Regulations 1995 to slaughter horses, cattle, sheep, swine or goats; or
(b) holds a certificate of competence or is licensed under the Welfare of Animals at the Time of Killing (Wales) Regulations 2014.”
(2) Yn adran 16(1)(c) o Ddeddf Lladd-dai 1974 (rheoli lladd-dai cyhoeddus), ar ôl “the Welfare of Animals (Slaughter or Killing) Regulations 1995” mewnosoder “or the Welfare of Animals at the Time of Killing (Wales) Regulations 2014”.
(3) Yn Atodlen 1 i Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986 (dulliau priodol o ladd heb boen), yn Nhabl A, yn y golofn ar y chwith o’r pumed cofnod, ar ôl “a current licence granted under the Welfare of Animals (Slaughter or Killing) Regulations 1995” mewnosoder “or a certificate of competence or licence issued under the Welfare of Animals at the Time of Killing (Wales) Regulations 2014”.
(4) Ym mharagraff 12 o’r Atodlen i Reoliadau Trwyddedu Meistri Gangiau (Eithriadau) 2013—
(a) dileer y gair “or” ar ôl is-baragraff (a); a
(b) ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder“or;
(c) a certificate of competence or licence to kill animals under the Welfare of Animals at the Time of Killing (Wales) Regulations 2014.”
Rebecca Evans
Y Dirprwy Weinidog Amaeth a Physgodfeydd, o dan awdurdod y Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
6th Awst 2014