
2014 Rhif 2121 (Cy. 207) (C. 95)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (Cychwyn Rhif 1) 2014
Gwnaed 24 Gorffennaf 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 22(2) o Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (Cychwyn Rhif 1) 2014.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012.
Diwrnod Penodedig
2 
15 Awst 2014 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dod â’r darpariaethau canlynol o’r Ddeddf i rym—
(a) adran 9 (pŵer i ddiwygio Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf);
(b) adran 12(13) (pŵer i wneud rheoliadau i ragnodi amodau sydd i’w bodloni gan berson cyn y caiff cyngor cymuned awdurdodi’r person i roi hysbysiadau cosbau penodedig o dan y Ddeddf);
(c) adran 13(3) (pŵer i wneud rheoliadau mewn cysylltiad â swm cosbau penodedig);
(d) adran 13(4) (pwerau i’w gwneud yn ofynnol bod swm cosb benodedig yn dod o fewn ystod a ragnodir ac i gyfyngu i ba raddau y caiff awdurdod wneud darpariaeth o dan adran 13(1)(b) o’r Ddeddf a chyfyngu ar yr amgylchiadau pan all wneud hynny); ac
(e) adran 16 (pŵer i ddiwygio Rhan 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf).
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
24 Gorffennaf 2014