
2014 Rhif 2015 (Cy. 202)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2014
Made 28 Gorffennaf 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 29 Gorffennaf 2014
Coming into force 19 Awst 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 71, 76(9), 128, 129 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Awst 2014 ond mae’r diwygiadau a nodir yn rheoliad 2 yn cael effaith o 1 Ebrill 2014 ymlaen.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Rheoliadau Optegol” (“the Optical Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997.
Diwygio rheoliad 1 o’r Rheoliadau Optegol
2 
Yn rheoliad 1(2) o’r Rheoliadau Optegol (enwi, cychwyn a dehongli), yn y diffiniad o “NHS sight test fee”—
(a) yn lle “£57.72”, rhodder “£58.29”; a
(b) yn lle “£20.90”, rhodder “£21.10”.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Gorffennaf 2014