
2014 Rhif 1999 (Cy. 200)
Addysg, Cymru
Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a’r Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2014
Gwnaed 23 Gorffennaf 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 28 Gorffennaf 2014
Yn dod i rym 1 Medi 2014
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 108(2)(b)(iii) a (3)(c) ac adran 210 o Ddeddf Addysg 2002 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a’r Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2014 a daw i rym ar 1 Medi 2014.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 

(1) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y meysydd dysgu perthnasol” (“the relevant areas of learning”) yw—
(a) sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu; a
(b) datblygiad mathemategol;ystyr “y pynciau perthnasol” (“the relevant subjects”) yw—
(a) Saesneg;
(b) Cymraeg; ac
(c) Mathemateg;
 ystyr “y rhaglenni addysgol” (“the educational programmes”) yw’r rhaglenni addysgol hynny y rhoddwyd effaith gyfreithiol iddynt gan Ran 1 o Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013; ac
 ystyr “y rhaglenni astudio” (“the programmes of study”) yw’r rhaglenni astudio hynny y rhoddwyd effaith gyfreithiol iddynt gan Ran 2 o Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at y cyfnod sylfaen i’w ddehongli yn unol ag adran 102 o Ddeddf Addysg 2002.
(3) Mae unrhyw gyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at yr ail gyfnod allweddol a’r trydydd cyfnod allweddol i’w dehongli yn unol ag adran 103(1)(b) ac (c) o Ddeddf Addysg 2002.
Asesiad Athro neu Athrawes: y cyfnod sylfaen
3 
Rhaid i’r pennaeth wneud trefniadau i bob disgybl yn y cyfnod sylfaen gael ei asesu drwy gydol y flwyddyn gan athro neu athrawes at y diben o fonitro a chefnogi cynnydd addysgol y disgybl mewn perthynas â’r rhaglenni addysgol ar gyfer y meysydd dysgu perthnasol.
Asesiad Athro neu Athrawes: yr ail gyfnod allweddol a’r trydydd cyfnod allweddol
4 
Rhaid i’r pennaeth wneud trefniadau i bob disgybl yn yr ail gyfnod allweddol a’r trydydd cyfnod allweddol gael ei asesu drwy gydol y flwyddyn gan athro neu athrawes at y diben o fonitro a chefnogi cynnydd addysgol y disgybl mewn perthynas â’r rhaglenni astudio ar gyfer y pynciau perthnasol.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
23 Gorffennaf 2014