
2014 Rhif 1998 (Cy. 199)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) (Diwygio) 2014
Gwnaed 23 Gorffennaf 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 28 Gorffennaf 2014
Yn dod i rym 1 Medi 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 408 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy, ac ar ôl ymgynghori â’r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos yn ddymunol i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) (Diwygio) 2014 a deuant i rym ar 1 Medi 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011
2 

(1) Mae Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—“
 ystyr “Gorchymyn Rhaglenni Addysgol a Rhaglenni Astudio 2013” (“Educational Programmes and Programmes of Study Order 2013”) yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013.”
(3) Yn rheoliad 3, yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Rhaid i’r adroddiad gynnwys yr wybodaeth am gyflawniadau addysgol y disgybl neu’r disgybl sy’n oedolyn y trefnir bod yr adroddiad ar gael iddo neu i’w riant a’r wybodaeth sy’n ymwneud â’r disgybl hwnnw a nodir—
(a) ym mharagraff 1 o Ran 1 o’r Atodlen pan fo’r disgybl hwnnw yn y cyfnod sylfaen, yng nghyfnod allweddol dau neu yng nghyfnod allweddol tri;
(b) ym mharagraffau 2, 3 a 4 o Ran 1 o’r Atodlen a Rhan 2 o’r Atodlen, pan fo’r disgybl hwnnw yng nghyfnod allweddol dau, tri neu bedwar;
(c) yn Rhan 3 o’r Atodlen, pan gofnodwyd enw’r disgybl hwnnw ar gyfer unrhyw gymwysterau perthnasol a gymeradwywyd ar lefel FfCC 3 neu’n uwch na hynny; ac
(ch) yn Rhan 4 o’r Atodlen.”
(4) Yn rheoliad 4 hepgorer paragraff (4).
(5) Ar ôl rheoliad 4 mewnosoder—“
Gwybodaeth diwedd y cyfnod sylfaen a diwedd cyfnod allweddol dau a thri
4A 
Rhaid i’r adroddiad gynnwys yr wybodaeth yn Rhan 5 o’r Atodlen pan fo’r disgybl ym mlwyddyn olaf—
(a) y cyfnod sylfaen;
(b) cyfnod allweddol dau; neu
(c) cyfnod allweddol tri.”
(6) Yn yr Atodlen—
(a) yn lle paragraff 1 o Ran 1 rhodder—“
Disgyblion yn y cyfnod sylfaen a chyfnodau allweddol dau a thri
1. 

(1) Canlyniadau unrhyw asesiad a gynhelir yn unol â’r trefniadau asesu a bennwyd gan Weinidogion Cymru yng Ngorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013.
(2) Crynodeb byr o gynnydd y disgybl mewn perthynas â’r rhaglenni addysgol ychwanegol a’r rhaglenni astudio ychwanegol y rhoddwyd effaith gyfreithiol iddynt gan Orchymyn Rhaglenni Addysgol a Rhaglenni Astudio 2013.”;
(b) hepgorer Rhan 4A a Rhan 4B; ac
(c) ar ôl Rhan 4 mewnosoder—“
Rhan 5
Disgyblion ar ddiwedd y cyfnod sylfaen
8. 

(1) Mewn perthynas â phob maes dysgu perthnasol, disgrifiad byr o bob deilliant cyfnod sylfaen a gyrhaeddodd y disgybl ym mhob un o’r meysydd dysgu perthnasol hynny ym mlwyddyn olaf y cyfnod sylfaen.
(2) Mewn perthynas â phob un o’r meysydd dysgu eraill, datganiad byr o’r lefel cyrhaeddiad a gyflawnwyd gan y disgybl ym mhob un o’r meysydd dysgu hynny ym mlwyddyn olaf y cyfnod sylfaen.
(3) Datganiad byr o gynnydd y disgybl yn ystod y cyfnod pan oedd yn y cyfnod sylfaen mewn perthynas â’r rhaglenni addysgol y rhoddwyd effaith gyfreithiol iddynt gan Ran 1 o Orchymyn Rhaglenni Addysgol a Rhaglenni Astudio 2013.
Disgyblion ar ddiwedd cyfnodau allweddol dau a thri
9. 

(1) Datganiad byr o gynnydd y disgybl yn ystod y cyfnod pan oedd yng nghyfnod allweddol dau mewn perthynas â’r rhaglenni addysgol y rhoddwyd effaith gyfreithiol iddynt gan Ran 1 o Orchymyn Rhaglenni Addysgol a Rhaglenni Astudio 2013.
(2) Datganiad byr o gynnydd y disgybl yn ystod y cyfnod pan oedd yng nghyfnod allweddol tri mewn perthynas â’r rhaglenni addysgol y rhoddwyd effaith gyfreithiol iddynt gan Ran 1 o Orchymyn Rhaglenni Addysgol a Rhaglenni Astudio 2013.”
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
23 Gorffennaf 2014