
2014 Rhif 1895 (Cy. 194)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i Fyfyrwyr (Cymru) (Dirymu) 2014
Gwnaed 16 Gorffennaf 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 18 Gorffennaf 2014
Yn dod i rym 31 Awst 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i Fyfyrwyr (Cymru) (Dirymu) 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 31 Awst 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Dirymu
2 
Mae Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i Fyfyrwyr (Cymru) 2013 wedi eu dirymu.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
16 Gorffennaf 2014