
2014 Rhif 1858 (Cy. 192)
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2014
Gwnaed 14 Gorffennaf 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 16 Gorffennaf
Yn dod i rym 8 Awst 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac Atodlen 2 iddi.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Awst 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006
2 

(1) Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (5).
(2) Mae rheoliad 32A (marc iechyd arbennig) wedi ei ddirymu.
(3) Yn Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth EU), yn lle’r diffiniad o “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”), rhodder—“
 ystyr “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2005 sy’n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig fel y’i diwygiwyd ddiwethaf mewn cysylltiad â’i erthyglau gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 216/2014”.
(4) Ym mharagraff 2(2) o Atodlen 3 (swmpgludo olewau hylifol neu frasterau hylifol ar longau mordwyol a swmpgludo siwgr crai dros y môr), yn lle “Gyfarwyddeb y Comisiwn 96/3/EC” rhodder “Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 579/2014”.
(5) Mae Atodlen 6A (y marc iechyd arbennig) wedi ei dirymu.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeihasol, un o Weinidogion Cymru
14 Gorffennaf 2014