
2014 Rhif 1836 (Cy. 190)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Esgobaeth Bangor (Gwaddolion Addysgol) (Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llangristiolus) (Cymru) 2014
Gwnaed 9 Gorffennaf 2014
Yn dod i rym 31 Gorffennaf 2014

Dangoswyd er boddhad i Weinidogion Cymru bod y Gwaddol yn cael ei ddal neu wedi ei ddal mewn cysylltiad â darparu addysg grefyddol yn unol â daliadau’r Eglwys yng Nghymru mewn ysgol wirfoddol, o fewn ystyr “voluntary school” yn adran 32 o Ddeddf Addysg 1996, y peidiwyd â defnyddio ei mangre at ddibenion ysgol.
Mae cais i Weinidogion Cymru am Orchymyn i wneud darpariaeth newydd ar gyfer defnyddio’r Gwaddol wedi ei wneud gan Ymddiriedolaeth Esgobaethol Bangor, sef corff y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei fod yn awdurdod priodol yr Eglwys yng Nghymru at y diben hwnnw.
Mae hysbysiad o’r Gorchymyn arfaethedig, ac o hawl personau sydd â buddiant i gyflwyno sylwadau, wedi ei roi yn unol â darpariaethau adran 555 o Ddeddf Addysg 1996.
Ni chyflwynwyd unrhyw sylwadau ynglŷn â’r Gorchymyn arfaethedig.
Mae asedau’r Sefydliad yn cynnwys £45,000.00, sef yr enillion net o werthu mangre’r hen ysgol a thŷ’r ysgol a gynhwyswyd yn y weithred Sefydlu a hefyd unrhyw incwm a ddeilliodd o’r asedau hynny cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Yn rhinwedd adran 1 o Ddeddf Dychwelyd Safleoedd 1987 (“Deddf 1987”) cododd ymddiriedolaeth, neu gall fod ymddiriedolaeth wedi codi, mewn perthynas â safle’r ysgol a thŷ’r ysgol uchod a gynhwyswyd yn y weithred Sefydlu. Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod pob cam rhesymol ymarferol wedi ei gymryd i ddod o hyd i unrhyw berson sydd, neu a all ddod yn rhywun sydd, â hawl fel buddiolwr o dan yr ymddiriedolaeth honno ac nad oes unrhyw hawliad gan unrhyw berson o’r fath sy’n dod o fewn darpariaethau adran 5(2)(a) o Ddeddf 1987.

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 554 a 556 o Ddeddf Addysg 1996 ac adran 5 o Ddeddf Dychwelyd Safleoedd 1987, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Esgobaeth Bangor (Gwaddolion Addysgol) (Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llangristiolus) (Cymru) 2014 a daw i rym ar 31 Gorffennaf 2014.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—
 ystyr “asedau’r Sefydliad” (“the Foundation assets”) yw’r asedau sy’n cynrychioli’r Gwaddol ar hyn o bryd;
 ystyr “y Gronfa Ysgolion” (“the School Fund”) yw’r gronfa ysgolion sydd wedi ei sefydlu gan erthygl 5(a); a
 ystyr “yr Esgobaeth” (“the Diocese”) yw Esgobaeth Bangor, a rhaid dehongli “yr Ymddiriedolaeth Esgobaethol” (“the Diocesan Trust”) yn unol â hynny;
 ystyr “y Gronfa Addysg Grefyddol” (“the Religious Education Fund”) yw’r gronfa addysg grefyddol sydd wedi ei sefydlu gan erthygl 5(b);
 ystyr “y Gwaddol” (“the Endowment”) yw’r gwaddol a gynhwyswyd yn y weithred Sefydlu;
 ystyr “y Sefydliad” (“the Foundation”) yw’r sefydliad addysgol o’r enw Sefydliad Ysgol Llangristiolus a sefydlwyd drwy’r weithred Sefydlu;
 ystyr “y weithred Sefydlu” (“the Founding deed”) yw’r weithred a wnaed ar 22 Mehefin 1844 rhwng Charles Henry Evans a’r Hybarch Dad yn Nuw Christopher drwy ganiatâd dwyfol Arglwydd Esgob Bangor;
 mae i “ysgol sefydledig” yr un ystyr a roddir i “foundation school” yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
 mae i “ysgol wirfoddol” yr un ystyr a roddir i “voluntary school” yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
Diddymu hawliau o dan Ymddiriedolaeth Deddf Dychwelyd Safleoedd
3 
Mae hawliau unrhyw berson sydd, neu a all ddod yn rhywun sydd, â hawl fel buddiolwr o dan yr ymddiriedolaeth sydd wedi codi neu a all fod wedi codi yn rhinwedd adran 1 o Ddeddf Dychwelyd Safleoedd 1987 mewn cysylltiad â’r tir a gynhwysir yn y Gwaddol, wedi eu diddymu drwy’r Gorchymyn hwn.
Ymddiriedolwr a breinio
4 

(1) Mae’r Gorchymyn hwn yn penodi’r Ymddiriedolaeth Esgobaethol i fod yn Ymddiriedolwr—
(a) y Sefydliad,
(b) asedau’r Sefydliad,
(c) y Gronfa Ysgolion, a
(d) y Gronfa Addysg Grefyddol.
(2) Mae’r holl gronfeydd sydd, yn union cyn dyddiad y Gorchymyn hwn, yn eiddo i’r Sefydliad, neu a ddelir mewn ymddiriedolaeth ar gyfer y Sefydliad (ac eithrio unrhyw gronfeydd a ddelir eisoes gan yr Ymddiriedolaeth Esgobaethol) i’w trosglwyddo i’r Ymddiriedolaeth Esgobaethol, ac mae pob gweithred sy’n angenrheidiol at y diben hwnnw i gael ei chyflawni gan unrhyw berson sy’n dal y cronfeydd hynny.
Rhannu Asedau
5 
Mae asedau’r Sefydliad i gael eu rhannu’n ddwy gronfa ymddiriedolaeth ar wahân, sef—
(a) y Gronfa Ysgolion yn cynnwys 11 rhan o 14 o asedau’r Sefydliad; a
(b) y Gronfa Addysg Grefyddol yn cynnwys 3 rhan o 14 o asedau’r Sefydliad.
Gweinyddu’r Sefydliad
6 

(1) Ar ôl talu unrhyw dreuliau gweinyddu, rhaid i’r Ymddiriedolaeth Esgobaethol roi cyfrif am y gyfran honno o gyfalaf ac incwm asedau’r Sefydliad sy’n cynrychioli’r Gronfa Addysg Grefyddol i Ficer, neu Reithor, a Wardeiniaid Eglwys y plwyf y sefydlwyd y Sefydliad i ddarparu addysg grefyddol ar ei gyfer.
(2) Rhaid i bob Ficer, neu Reithor, a Wardeiniaid Eglwys y gwneir taliad iddynt yn unol â darpariaethau’r paragraff blaenorol gael eu cyfansoddi fel ymddiriedolaethwyr y Gronfa Addysg Grefyddol a chânt gadw cyfalaf y Gronfa a gwario’r incwm sy’n cronni o hynny, neu wario’r cyfalaf o hynny, tuag at ddibenion addysgol sy’n ymwneud â’r plwyf dan sylw mewn perthynas â’r ddarpariaeth o addysg grefyddol yn unol â daliadau’r Eglwys yng Nghymru drwy Ysgol Sul neu ddull arall.
(3) Mae’r Ymddiriedolaeth Esgobaethol i ddal y Gronfa Ysgolion ar yr ymddiriedolaethau statudol unffurf er budd ysgolion gwirfoddol neu ysgolion sefydledig yr Eglwys yng Nghymru o fewn yr Esgobaeth.
(4) Yn yr erthygl hon, ystyr “ymddiriedolaethau statudol unffurf” (“uniform statutory trusts”) yw’r ymddiriedolaethau a nodir yn yr Atodlen (sef yr ymddiriedolaethau statudol unffurf a nodir yn Atodlen 36 i Ddeddf Addysg 1996 fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag asedau’r Sefydliad).
Cyfuno
7 
Caniateir i’r Gronfa Ysgolion gael ei chyfuno ag unrhyw waddol presennol a ddelir at y dibenion a bennir yn yr Atodlen.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
9 Gorffennaf 2014
YR ATODLEN
Erthygl 6(4)
1 
Caiff yr Ymddiriedolaeth Esgobaethol, ar ôl talu unrhyw dreuliau yr eir iddynt mewn cysylltiad â gweinyddu’r Gronfa Ysgolion, ddefnyddio cyfalaf ac incwm y Gronfa Ysgolion honno at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn—
(a) ar gyfer prynu, neu tuag at brynu, safle ar gyfer, neu godi, gwella neu ehangu mangre unrhyw ysgol berthnasol yn yr Esgobaeth;
(b) ar gyfer cynnal unrhyw ysgol berthnasol yn yr Esgobaeth;
(c) ar gyfer prynu, neu tuag at brynu, safle ar gyfer, neu godi, gwella neu ehangu mangre tŷ athro neu athrawes ar gyfer ei ddefnyddio mewn cysylltiad ag unrhyw ysgol berthnasol yn yr Esgobaeth; a
(d) ar gyfer cynnal tŷ athro neu athrawes ar gyfer ei ddefnyddio mewn cysylltiad ag unrhyw ysgol berthnasol yn yr Esgobaeth.
2 
Caiff yr Ymddiriedolaeth Esgobaethol hefyd, ar ôl talu unrhyw dreuliau yr eir iddynt mewn cysylltiad â gweinyddu’r Gronfa Ysgol, ddefnyddio incwm y Gronfa honno at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn—
(a) ar gyfer darparu, neu tuag at ddarparu, cyngor, arweiniad ac adnoddau (gan gynnwys deunyddiau) mewn cysylltiad ag unrhyw fater sy’n ymwneud â rheolaeth unrhyw ysgol berthnasol yn yr Esgobaeth, neu’r addysg a ddarperir mewn unrhyw ysgol o’r fath;
(b) darparu gwasanaethau ar gyfer cynnal unrhyw arolygiad o unrhyw ysgol berthnasol yn yr Esgobaeth sy’n ofynnol o dan Ran 1 o Ddeddf Addysg 2005; ac
(c) talu’r gost o gyflogi staff neu eu cymryd ymlaen mewn cysylltiad â—
(i) defnyddio incwm y Gronfa Ysgolion at y naill neu’r llall o’r dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) a (b),
(ii) defnyddio cyfalaf neu incwm y Gronfa Ysgolion at unrhyw un neu ragor o’r dibenion y cyfeirir atynt ym mharagraff 1.
3 
Ystyr “ysgol berthnasol” (“relevant school”) yw ysgol o’r math y cyfeirir ato yn erthygl 6(3).