
2014 Rhif 1794 (Cy. 187)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Plant A Phobl Ifanc, Cymru
Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014
Gwnaed 7 Gorffennaf 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 9 Gorffennaf 2014
Yn dod i rym 1 Awst 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 114(3), (4) a (5)(b) ac (c), 115(1), (2), (4), (5) a (6) a 195(1)(b) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
RHAN 1 CYFFREDINOL
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 1 Awst 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “achwynydd” (“complainant”) yw person sy’n gwneud cwyn o dan reoliad 9, ac mae unrhyw gyfeiriad at achwynydd yn cynnwys cyfeiriad at gynrychiolydd yr achwynydd;
 ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
 ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ddydd Nadolig, yn ddydd San Steffan, yn ddydd Gwener y Groglith, nac yn ddiwrnod sy’n ŵyl y banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971;
 ystyr “gweithdrefn gwynion” (“complaints procedure”) yw’r trefniadau a wneir o dan reoliad 3;
 ystyr “gweithdrefn gwynion flaenorol” (“former complaints procedure”) yw’r weithdrefn gwynion a sefydlwyd o dan ddarpariaethau Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2005 yn unol ag adrannau 114 a 115 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003;
 ystyr “staff” (“staff”) yw unrhyw berson a gyflogir gan awdurdod lleol neu a gymerir ymlaen i ddarparu gwasanaethau i awdurdod lleol;
 ystyr “swyddog cwynion” (“complaints officer”) yw’r person a benodir o dan reoliad 5; ac
 ystyr “ymchwilydd annibynnol” (“independent investigator”) yw person nad yw’n aelod o’r awdurdod lleol y gwnaed cwynion wrtho nac yn swyddog o’r awdurdod hwnnw, nac ychwaith yn briod neu’n bartner sifil aelod neu swyddog o’r fath, ond mae’n cynnwys person y mae’r awdurdod lleol wedi ymuno mewn contract am wasanaethau gydag ef er mwyn cynnal ymchwiliad.
RHAN 2 SEFYDLU’R WEITHDREFN GWYNION
Dyletswydd i sefydlu gweithdrefn gwynion
3 

(1) Rhaid i bob awdurdod lleol wneud trefniadau yn unol â’r rheoliadau hyn ar gyfer trin ac ystyried cwynion.
(2) Rhaid i’r trefniadau a wneir yn unol â pharagraff (1) fod mewn ysgrifen.
Uwch-swyddog sy’n gyfrifol am gwynion
4 
Rhaid i bob awdurdod lleol ddynodi uwch-swyddog o’r awdurdod lleol i fod yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â’r weithdrefn gwynion a wneir gan yr awdurdod lleol o dan y Rheoliadau hyn.
Swyddog cwynion
5 

(1) Rhaid i bob awdurdod lleol benodi person, y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel swyddog cwynion.
(2) Swyddogaeth y swyddog cwynion yw rheoli’r gweithdrefnau ar gyfer trin ac ystyried cwynion.
(3) Caiff unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi gan yr awdurdod lleol i weithredu ar ran y swyddog cwynion gyflawni swyddogaeth y swyddog cwynion.
(4) Nid oes angen i swyddog cwynion fod yn gyflogedig gan yr awdurdod lleol a chaiff gael ei benodi’n swyddog cwynion ar gyfer mwy nag un awdurdod lleol.
Cyhoeddusrwydd
6 

(1) Rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau y rhoddir cyhoeddusrwydd effeithiol i’w weithdrefn gwynion, mewn amrywiaeth o gyfryngau, fformatau ac ieithoedd.
(2) Rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau y cymerir pob cam rhesymol i sicrhau bod gwybodaeth am ei weithdrefn gwynion ar gael i ddefnyddwyr gwasanaethau, ac i’w gofalwyr os oes rhai.
(3) Rhaid i’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2) gynnwys enw swyddog cwynion yr awdurdod lleol a chyfeiriad lle y gellir cysylltu â’r swyddog cwynion.
(4) Rhaid rhoi copi o’r weithdrefn gwynion yn ddi-dâl i unrhyw berson sy’n gofyn amdano, ym mha fformat bynnag y gofynnir amdano.
Ffurf y cyfathrebu
7 

(1) Ceir anfon unrhyw gyfathrebiad y mae’n ofynnol ei wneud o dan y Rheoliadau hyn at achwynydd yn electronig, pan fo’r achwynydd—
(a) wedi cydsynio mewn ysgrifen; a
(b) heb dynnu’n ôl, mewn ysgrifen, y cydsyniad hwnnw; ac
(c) wedi darparu cyfeiriad post electronig addas i’r awdurdod lleol.
(2) Yn achos dogfen a anfonir yn electronig yn unol â’r Rheoliadau hyn, bodlonir unrhyw ofyniad yn y Rheoliadau hyn fod dogfen wedi ei llofnodi gan berson penodol os yw’r unigolyn a awdurdodir i lofnodi’r ddogfen yn teipio ei enw neu’n gosod ei enw arni gan ddefnyddio cyfrifiadur neu ddull electronig arall.
Gwybodaeth a hyfforddiant i’r staff
8 
Rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau y rhoddir gwybod i’w staff am y trefniadau ar gyfer trin cwynion ac ymchwilio iddynt, ac yr hyfforddir ei staff yn briodol i weithredu’r trefniadau hynny.
RHAN 3 NATUR A CHWMPAS Y WEITHDREFN GWYNION
Personau a gaiff wneud cwynion
9 

(1) Caiff berson wneud cwyn—
(a) 
(i) os oes neu os oedd pŵer gan yr awdurdod lleol, neu os oes neu os oedd dyletswydd arno, mewn perthynas â’r person hwnnw, i ddarparu, neu sicrhau y darperir, gwasanaeth drwy arfer swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol; a
(ii) os daeth angen y person hwnnw am wasanaeth, neu’r posibilrwydd bod arno angen gwasanaeth, i sylw’r awdurdod lleol (ym mha fodd bynnag); neu
(b) os yw’r awdurdod lleol yn darparu, neu wedi methu â darparu, gwasanaeth i’r person hwnnw o dan drefniadau a wnaed o dan adran 33 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 mewn perthynas â swyddogaethau corff GIG (o fewn ystyr yr adran honno).
(2) Ceir gwneud cwyn gan berson (“cynrychiolydd”) sy’n gweithredu ar ran person a grybwyllir ym mharagraff (1) mewn unrhyw achos pan fo’r person a grybwyllir felly—
(a) yn blentyn; neu
(b) wedi gofyn i’r cynrychiolydd weithredu; neu
(c) heb alluedd meddyliol o fewn ystyr Deddf Galluedd Meddyliol 2005; neu
(d) wedi marw.
(3) Ystyr “plentyn” yw person o dan 18 mlwydd oed.
(4) Rhaid i unrhyw gynrychiolydd sy’n gwneud cwyn o dan baragraff (2) fod, ym marn yr awdurdod lleol, yn berson y mae neu y bu ganddo fuddiant yn lles y person ac yn berson addas i weithredu fel cynrychiolydd.
(5) Os yw’r awdurdod lleol, mewn unrhyw achos, o’r farn nad oes gan unrhyw berson sy’n gwneud cwyn o dan baragraff (2) fuddiant digonol yn lles y person neu nad yw’n berson addas i weithredu fel cynrychiolydd, rhaid i’r awdurdod hysbysu’r person hwnnw mewn ysgrifen, gan ddatgan y rhesymau dros y farn honno.
(6) Pan fo hysbysiad wedi ei roi o dan baragraff (5) a bod y person y cyfeirir ato ym mharagraff (1) y gwneir y gŵyn mewn cysylltiad ag ef yn fyw, rhaid i’r awdurdod lleol, os yw o’r farn y byddai’n briodol gwneud hynny ar ôl ystyried dealltwriaeth y person y cyfeirir ato ym mharagraff (1), ddarparu copi o’r hysbysiad i’r person hwnnw.
Materion y ceir gwneud cwynion yn eu cylch
10 
Yn ddarostyngedig i reoliad 11, ceir gwneud cwyn i awdurdod lleol ynglŷn â’r modd yr arferir ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys—
(a) cyflawni, gan awdurdod lleol, unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol neu fethiant i gyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau hynny;
(b) darparu gwasanaethau gan berson arall yn unol â threfniadau a wneir gan yr awdurdod lleol wrth iddo gyflawni’r swyddogaethau hynny;
(c) darparu gwasanaethau gan yr awdurdod lleol yn unol â threfniadau a wnaed gan yr awdurdod lleol hwnnw o dan adran 33 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 mewn perthynas â swyddogaethau corff GIG (o fewn ystyr yr adran honno).
Materion na chaniateir eu hystyried
11 

(1) Rhaid peidio ag ymdrin â chŵyn, o dan unrhyw weithdrefn a sefydlir o dan y Rheoliadau hyn, mewn perthynas ag arfer swyddogaethau sy’n destun Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Cymru) 2014.
(2) Nid yw’n ofynnol, o dan y Rheoliadau hyn, gwneud trefniadau i ymchwilio i’r canlynol—
(a) cwyn yr ymchwilir, neu yr ymchwiliwyd, iddi o dan y weithdrefn gwynion flaenorol;
(b) cwyn yr ystyriwyd eisoes y pwnc sy’n destun iddi o’r blaen, yn unol â threfniadau a wnaed o dan y Rheoliadau hyn;
(c) cwyn yr ymchwilir, neu yr ymchwiliwyd, iddi gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005;
(d) cwyn sy’n tarddu o fethiant honedig gan awdurdod lleol i gydymffurfio â chais am wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000;
(e) cwyn a wnaed ar lafar, naill ai’n bersonol neu ar y teleffon, ac a ddatrysir wrth fodd y person a wnaeth y gŵyn, heb fod yn hwyrach na’r diwrnod gwaith nesaf sy’n dilyn y diwrnod y gwnaed y gŵyn.
Materion sydd dan ystyriaeth gydredol
12 

(1) Rhaid i awdurdod lleol beidio ag ystyried cwyn, neu ystyried cwyn ymhellach, o dan y Rheoliadau hyn, i’r graddau—
(a) y mae’r gŵyn yn ymwneud ag unrhyw fater—
(i) y mae’r achwynydd wedi datgan mewn ysgrifen ei fod yn bwriadu dwyn achos ynghylch y mater hwnnw mewn unrhyw lys neu dribiwnlys; neu
(ii) y mae’r awdurdod lleol yn dwyn achos disgyblu neu’n bwriadu dwyn achos disgyblu ynghylch y mater hwnnw; neu
(iii) y gŵyr yr awdurdod lleol fod achos troseddol ynghylch y mater hwnnw yn yr arfaeth; neu
(iv) yr ystyrir dwyn achos sifil ynghylch y mater hwnnw (gan gynnwys achos o dan adran 31 o Ddeddf Plant 1989 neu achos Llys Gwarchod), a
(b) y penderfyna’r awdurdod lleol y byddai ystyried y gŵyn, neu ei hystyried ymhellach, o dan y Rheoliadau hyn yn rhagfarnu’r achos neu’r ymchwiliad sy’n dod o fewn y paragraff hwn.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “achos disgyblu” yw unrhyw weithdrefn a fabwysiedir gan awdurdod lleol ar gyfer disgyblu cyflogeion;
(3) Cyfeirir at unrhyw achos neu ymchwiliad sy’n dod o fewn paragraff (1) fel “ystyriaeth gydredol” at ddibenion y rheoliad hwn .
(4) Pan fo awdurdod lleol yn penderfynu na fydd yn ystyried cwyn, neu na fydd yn ystyried cwyn ymhellach, yn unol â pharagraff (1), rhaid i’r awdurdod lleol roi i’r person sy’n gwneud y gŵyn hysbysiad ysgrifenedig sy’n esbonio—
(a) y rhesymau dros ei benderfyniad; a
(b) yr ystyriaeth gydredol berthnasol; ac
(c) y gallu i ailgyflwyno’r gŵyn yn unol â pharagraff (5).
(5) Pan fo’r ystyriaeth gydredol wedi ei therfynu neu’i chwblhau, caiff yr achwynydd ailgyflwyno’r gŵyn i’r awdurdod lleol, heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl terfynu neu gwblhau’r ystyriaeth gydredol, ac felly ni fydd rheoliad 13(1) yn gymwys.
(6) Rhaid i unrhyw gŵyn a ailgyflwynir yn unol â pharagraff (4) o’r rheoliad hwn gael ei hystyried gan yr awdurdod lleol yn unol â rheoliadau 16 i 19.
Terfyn amser ar gyfer gwneud cwynion
13 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid gwneud cwyn heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl—
(a) y dyddiad y digwyddodd y mater sy’n destun y gŵyn; neu
(b) os yw’n ddiweddarach, y dyddiad y daeth y mater sy’n destun y gŵyn i sylw’r achwynydd.
(2) Ni fydd y terfyn amser ym mharagraff (1) yn gymwys os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(a) bod gan yr achwynydd resymau da dros beidio â gwneud y gŵyn o fewn y terfyn amser hwnnw; a
(b) er gwaethaf yr oedi, ei bod yn bosibl o hyd ymchwilio i’r gŵyn yn effeithiol ac yn deg.
Tynnu cwynion yn ôl
14 

(1) Ceir tynnu cwyn yn ôl ar unrhyw adeg gan y person a wnaeth y gŵyn a cheir hysbysu bod y gŵyn wedi ei thynnu’n ôl naill ai—
(a) mewn ysgrifen; neu
(b) ar lafar, naill ai’n bersonol neu ar y teleffon.
(2) Rhaid i awdurdod lleol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, ysgrifennu at y person sydd wedi tynnu cwyn yn ôl ar lafar, i gadarnhau bod y gŵyn wedi ei thynnu’n ôl felly.
(3) Pan fo cwyn wedi ei thynnu’n ôl, caiff awdurdod lleol, er gwaethaf hynny, barhau i ymchwilio i unrhyw faterion a godwyd gan achwynydd yn unol â Rhan 4, os yw’r awdurdod o’r farn bod angen gwneud hynny.
RHAN 4 TRIN CWYNION AC YMCHWILIO IDDYNT GAN AWDURDODAU LLEOL
Camau sydd i’w cymryd gan awdurdod lleol ar ôl cael cwyn
15 

(1) Ceir gwneud cwyn ar lafar neu mewn ysgrifen.
(2) Rhaid i awdurdod lleol gydnabod cael y gŵyn heb fod yn hwyrach na 2 ddiwrnod gwaith ar ôl y diwrnod y mae’n cael y gŵyn.
(3) Pan fo cwyn wedi ei gwneud ar lafar, rhaid i’r awdurdod lleol, ar yr un pryd ag y mae’n cydnabod cael y gŵyn —
(a) gwneud cofnod ysgrifenedig ffurfiol o’r gŵyn; a
(b) darparu copi o’r cofnod ysgrifenedig i’r achwynydd.
(4) Ar yr un pryd ag y mae’n cydnabod cael y gŵyn, rhaid i’r awdurdod lleol—
(a) darparu manylion am ei weithdrefn gwynion i’r achwynydd;
(b) cynnig cymorth ac arweiniad i’r achwynydd ar ddilyn y weithdrefn gwynion, neu gyngor ar sut i gael cymorth ac arweiniad o’r fath;
(c) hysbysu’r person sy’n gwneud y gŵyn y caiff ofyn i’r awdurdod lleol ymchwilio i’r gŵyn yn unol â rheoliad 17.
Datrys yn Lleol
16 

(1) Nid oes raid i’r weithdrefn a ddilynir gan yr awdurdod lleol, wrth ystyried cwynion o dan y rheoliad hwn, gynnwys ymchwilydd annibynnol.
(2) Rhaid i’r awdurdod lleol gynnig trafod y gŵyn gyda’r achwynydd, mewn ymgais i ddatrys y gŵyn yn anffurfiol.
(3) Rhaid cynnal unrhyw drafodaeth a gynhelir yn unol â pharagraff (2) o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad pan fo’r awdurdod lleol yn cydnabod cael y gŵyn.
(4) Mewn amgylchiadau eithriadol, ceir estyn y terfyn amser ar gyfer unrhyw drafodaeth a gynhelir yn unol â pharagraff (2), drwy gytundeb rhwng yr awdurdod lleol a’r achwynydd.
(5) Pan fo’r awdurdod lleol yn datrys y mater wrth fodd yr achwynydd, rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu i’r achwynydd fanylion ysgrifenedig o delerau’r datrysiad, o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y datrysir y gŵyn.
Ymchwilio yn Ffurfiol
17 

(1) Pan—
(a) fo’r achwynydd —
(i) wedi gwneud cais yn unol â rheoliad 15(4)(c); neu
(ii) wedi gwrthod cynnig o drafodaeth o dan reoliad 16(2); neu
(b) na fo’r gŵyn wedi ei datrys wrth fodd yr achwynydd yn dilyn unrhyw drafodaeth a ddigwyddodd yn unol â rheoliad 16(2);
rhaid i’r awdurdod lleol ystyried y gŵyn yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Rhaid i’r awdurdod lleol gydosod cofnod ysgrifenedig ffurfiol o’r gŵyn, a’i anfon at yr achwynydd ynghyd â gwahoddiad i’r achwynydd wneud sylwadau ar gywirdeb y cofnod.
(3) Rhaid i’r awdurdod lleol ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan yr achwynydd o dan baragraff (2) a gwneud unrhyw ddiwygiadau i’r cofnod, yng ngoleuni’r sylwadau hynny, sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y cofnod, ym marn yr awdurdod lleol, yn gofnod cywir o’r gŵyn.
(4) Rhaid i’r awdurdod lleol—
(a) penodi ymchwilydd annibynnol; a
(b) ar y cyd â’r ymchwilydd annibynnol, ymchwilio i’r gŵyn mewn modd priodol er mwyn ei datrys yn gyflym ac effeithlon; ac
(c) yn ystod yr ymchwiliad, rhoi gwybod yn rheolaidd i’r achwynydd am hynt yr ymchwiliad, i’r graddau y bo hynny’n rhesymol ymarferol.
Yr Ymateb
18 

(1) Rhaid i’r awdurdod lleol, o fewn 25 diwrnod gwaith ar ôl y “dyddiad dechrau” fel y’i diffinnir ym mharagraff (2), anfon at yr achwynydd ymateb ysgrifenedig sydd—
(a) yn rhoi crynodeb o natur a sylwedd y gŵyn;
(b) yn disgrifio’r ymchwiliad a wnaed yn unol â rheoliad 17(4)(b);
(c) pan fo’n briodol, yn cynnwys ymddiheuriad;
(d) yn nodi pa gamau a gymerir, os cymerir rhai, yng ngoleuni canlyniad yr ymchwiliad;
(e) yn cynnwys manylion am yr hawl i gwyno wrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
(f) yn cynnig cyfle i’r achwynydd drafod cynnwys yr ymateb gyda’r swyddog cwynion neu berson sy’n gweithredu ar ei ran; ac
(g) wedi ei lofnodi gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol neu berson sy’n gweithredu ar ei ran.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr y “dyddiad dechrau” yw’r dyddiad pan lunnir y cofnod ysgrifenedig terfynol o’r gŵyn gan yr awdurdod lleol yn unol â rheoliad 17(2) neu 17(3).
(3) Os oes amgylchiadau eithriadol sy’n peri na all yr awdurdod lleol anfon ymateb ysgrifenedig yn unol â’r terfyn amser ym mharagraff (1), rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r achwynydd am y rhesymau dros yr oedi a pha bryd y gellir disgwyl ymateb.
(4) Rhaid anfon ymateb yn unol â pharagraff (3) at yr achwynydd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, a hynny heb fod yn hwyrach na 6 mis sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cafodd yr awdurdod lleol y gŵyn.
Cwynion sy’n ymwneud â mwy nag un awdurdod lleol
19 

(1) Mewn unrhyw achos pan fo’n ymddangos i’r swyddog cwynion fod cwyn yn ymwneud, neu y gall fod yn ymwneud, ag arfer swyddogaethau gan fwy nag un awdurdod lleol, rhaid i’r swyddog cwynion, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—
(a) hysbysu’r awdurdod lleol arall, neu’r awdurdodau lleol eraill, sy’n gysylltiedig a phenderfynu, ar y cyd â swyddog cwynion pob un ohonynt, pa awdurdod lleol a fydd yn arwain wrth ymdrin â’r gŵyn; a
(b) hysbysu’r achwynydd.
(2) Rhaid i swyddog cwynion awdurdod lleol sy’n awdurdod lleol arweiniol sicrhau—
(a) bod unrhyw ran o’r gŵyn sy’n ymwneud â gweithredoedd yr awdurdod lleol arweiniol yn cael ei hystyried o dan y Rhan hon o’r rheoliadau;
(b) y rhoddir gwybod yn rheolaidd i’r achwynydd am hynt yr ymchwiliad;
(c) bod yr ymateb sy’n ofynnol o dan reoliadau 16(5) neu 18(1), i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, yn cynnwys ymateb ar unrhyw fater arall a oedd yn gyfrifoldeb i awdurdod lleol arall a grybwyllir ym mharagraff (1).
(3) Rhaid i swyddog cwynion awdurdod lleol nad yw’n awdurdod lleol arweiniol—
(a) sicrhau bod unrhyw ran o’r gŵyn sy’n ymwneud â gweithredoedd ei awdurdod lleol yn cael ei hystyried o dan y Rheoliadau hyn; a
(b) rhoi gwybod i swyddog cwynion yr awdurdod lleol arweiniol am unrhyw ddatrysiad o’r gŵyn o dan reoliadau 16(5) neu 18(1).
RHAN 5 DYSGU ODDI WRTH GWYNION
Monitro
20 
Rhaid i bob awdurdod lleol gadw cofnod o’r canlynol—
(a) pob cwyn y mae’n ei chael;
(b) canlyniad pob cwyn;
(c) a fu i’r awdurdod lleol gydymffurfio ai peidio â’r terfynau amser a bennir yn rheoliadau 16 i 19;at y diben o fonitro cydymffurfiaeth yr awdurdod â’r Rheoliadau hyn.
Adroddiad Blynyddol
21 

(1) Rhaid i bob awdurdod lleol lunio adroddiad blynyddol ar ei berfformiad o ran trin cwynion ac ymchwilio iddynt, a rhaid i’r adroddiad gynnwys manylion o’r cofnodion a gadwyd yn unol â rheoliad 20, at y dibenion o—
(a) monitro cydymffurfiaeth â’r Rheoliadau hyn; a
(b) gwella’r modd y trinnir ac ystyrir cwynion.
(2) Rhaid cydosod yr adroddiad cyntaf y cyfeirir ato ym mharagraff (1) o fewn 12 mis ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
RHAN 6 DIRYMU, DARPARIAETH DROSIANNOL A DIWYGIO
Darpariaeth Drosiannol
22 
Pan na fo’r ystyriaeth o gŵyn yn unol â’r weithdrefn gwynion flaenorol wedi ei chwblhau ar yr adeg y daw’r Rheoliadau hyn i rym, rhaid ystyried y gŵyn honno yn unol â’r weithdrefn honno.
Dirymu
23 
Mae Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2005 wedi eu dirymu ac eithrio i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddibenion rheoliad 22.
Diwygio
24 

(1) Ym mharagraff 10 o Atodlen 1 i Reoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2007, yn lle “Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2005” rhodder—“Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014.”
(2) Yn rheoliad 9(1)(b)(iii) o Reoliadau Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Adolygu Penderfyniadau ar Godi Ffioedd) (Cymru) 2011 yn lle “Reoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2005” rhodder—“Reoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014.”
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
7 Gorffennaf 2014