
2014 Rhif 1792 (Cy. 185)
Iechyd Planhigion, Cymru
Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2014
Gwnaed 6 Gorffennaf 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8 Gorffennaf 2014
Yn dod i rym 2 Awst 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn, â chydsyniad y Trysorlys, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy.
Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2014. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 2 Awst 2014.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
(a) ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau i amddiffyn rhag dwyn i mewn i’r Gymuned organebau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion, a rhag i’r organebau hynny ymledu o fewn y Gymuned; ac
(b) ystyr “y GIP” (“the PHO”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006.
(3) Mae i’r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y defnyddir eu cyfystyron Saesneg yn y Gyfarwyddeb, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag a roddir i’r cyfystyron Saesneg yn y Gyfarwyddeb.
Ffioedd arolygu mewnforio
2 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys o ran llwyth o’r canlynol, neu ran o lwyth o’r fath sy’n cynnwys—
(a) planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 1 a restrir yn Rhan B o Atodiad V i’r Gyfarwyddeb, neu
(b) hadau Solanaceae, pa un a restrir hwy ai peidio yn y Rhan honno,
a ddygir i mewn i Gymru o wlad neu diriogaeth ac eithrio un sydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd neu sy’n destun cytundeb a wnaed o dan erthygl 12(6) o’r GIP.
(2) Ar yr adeg y mewnforir llwyth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo, rhaid i’r mewnforiwr dalu i Weinidogion Cymru—
(a) y ffi a bennir—
(i) yng ngholofn 3 o Atodlen 1 mewn perthynas â llwyth o blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a restrir yng ngholofn 1 o’r Atodlen honno, neu mewn perthynas â rhan o lwyth o’r fath, ac eithrio llwyth o blanhigyn neu gynnyrch planhigion, neu ran o lwyth o’r fath, y mae paragraff (ii) o’r is-baragraff hwn yn gymwys iddo, a
(ii) yng ngholofn 4 o Atodlen 2 mewn perthynas â llwyth o blanhigyn neu gynnyrch planhigion a restrir yng ngholofn 1 o’r Atodlen honno ac sy’n tarddu o wlad a restrir yng ngholofn 3 o’r Atodlen honno, neu mewn perthynas â rhan o lwyth o’r fath; a
(b) y ffioedd a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 3 am wiriad dogfennol a gwiriad adnabod.
(3) Ond, pan gynhelir gwiriad iechyd planhigion ar lwyth y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd, a hynny ar gais y mewnforiwr neu unrhyw berson arall sy’n gyfrifol am y llwyth, y ffi sy’n daladwy o dan baragraff (2)(a) mewn perthynas â’r llwyth hwnnw yw—
(a) y ffi a bennir yng ngholofn 4 o Atodlen 1 i’r graddau (os o gwbl) y mae’r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(i) yn gymwys iddo; neu
(b) y ffi a bennir yng ngholofn 5 o Atodlen 2 i’r graddau (os o gwbl) y mae’r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(ii) yn gymwys iddo.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “oriau gwaith yn ystod y dydd” (“daytime working hours”) yw unrhyw amser rhwng yr oriau 8.30 a.m. a 5.00 p.m. ar unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971.
Tatws hadyd: ffioedd
3 

(1) Mae’r ffioedd a bennir yn Atodlen 4 yn daladwy mewn perthynas â’r swyddogaethau a bennir yng ngholofn 1 o’r Atodlen honno, sy’n ymwneud â chais am y canlynol—
(a) ardystiad o datws hadyd yn unol â rheoliad 9 o Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006;
(b) awdurdodiad i farchnata tatws hadyd yn unol â rheoliad 8 o’r Rheoliadau hynny.
(2) Mae’r ffi sy’n daladwy mewn perthynas â swyddogaeth yn ddarostyngedig i unrhyw leiafswm ffi a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 4 mewn perthynas â’r swyddogaeth honno.
(3) Rhaid talu’r ffi mewn perthynas â swyddogaeth a bennir yn Atodlen 4 i Weinidogion Cymru neu i unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru i gyflawni’r swyddogaeth honno o dan Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006 ar ran Gweinidogion Cymru.
Ffioedd am drwyddedau iechyd planhigion
4 

(1) Mae’r ffioedd sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn ymwneud â thrwydded a ddisgrifir yn erthygl 40 neu 41 o’r GIP.
(2) Mewn perthynas â chais neu arolygiad o fath a ddisgrifir yng ngholofn 2 o Atodlen 5, rhaid i berson dalu i Weinidogion Cymru y ffi a bennir yng ngholofn 3 o’r Atodlen honno mewn perthynas â’r math hwnnw o gais neu arolygiad.
Ffioedd am awdurdodi pasbortau planhigion
5 

(1) Rhaid talu’r ffi a bennir ym mharagraff (2) i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag arolygiad (gan gynnwys arolygiad o gofnodion busnes) a gyflawnir mewn cysylltiad â’r canlynol—
(a) cais am awdurdod; neu
(b) sicrhau y cydymffurfir ag unrhyw ofynion a osodir ar ddeiliad awdurdod.
(2) Y ffi yw £46.10 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr (gan gynnwys yr amser a dreulir ar arolygu, ar deithio ac ar weinyddu cysylltiedig), yn ddarostyngedig i leiafswm ffi o £92.19 am bob ymweliad.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod i ddyroddi pasbortau planhigion a roddir o dan erthygl 8 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006 neu erthygl 29 o’r GIP.
Tatws sy’n tarddu o’r Aifft: ffioedd
6 

(1) Pan fo arolygydd yn cymryd sampl o datws sy’n tarddu o’r Aifft, er mwyn canfod, at ddibenion paragraff 5 o’r Atodiad i’r Penderfyniad, a yw’r tatws hynny wedi eu heintio â Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al., rhaid i’r mewnforiwr dalu i Weinidogion Cymru ffi o £117.36 mewn perthynas â phob lot y cymerir sampl ohoni.
(2) Yn y rheoliad hwn ystyr “y Penderfyniad” (“the Decision”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/787/EU sy’n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i weithredu mesurau argyfwng dros dro yn erbyn lledaenu Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. mewn cysylltiad â’r Aifft.
Tatws sy’n tarddu o Libanus: ffioedd
7 

(1) Pan fo arolygydd yn cymryd sampl o datws sy’n tarddu o Libanus, er mwyn canfod, at ddibenion Erthygl 4 o’r Penderfyniad, a yw’r tatws hynny wedi eu heintio â Clavibacter michiganensis isrywogaeth Sepedonicus (Spieckermann a Kotthoff) Davis et al., rhaid i’r mewnforiwr dalu i Weinidogion Cymru ffi o £117.36 mewn perthynas â phob lot y cymerir sampl ohoni.
(2) Yn y rheoliad hwn ystyr “y Penderfyniad” (“the Decision”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2013/413/EU sy’n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i ddarparu ar gyfer rhanddirymu darpariaethau penodol yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC mewn perthynas â thatws, ac eithrio tatws a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o ranbarthau Akkar a Bekaa yn Libanus.
Ffioedd heb eu talu
8 

(1) Pan fo unrhyw swm sy’n ddyledus fel neu ar gyfrif unrhyw ffi neu ran o ffi sy’n daladwy gan fasnachwr planhigion cofrestredig o dan y Rheoliadau hyn heb ei dalu, caniateir i Weinidogion Cymru—
(a) adennill y swm fel dyled sifil;
(b) ar ôl rhoi un mis o rybudd ysgrifenedig, atal cofrestriad y masnachwr dros dro tan fod y swm wedi ei dalu.
(2) Yn y rheoliad hwn mae i “cofrestredig”, “masnachwr planhigion” a “cofrestriad” yr ystyron a roddir i “registered”, “plant trader” a “registration” yn eu tro gan erthygl 2(1) o’r GIP.
Dirymu
9 
Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2013 wedi eu dirymu.
Alun Davies
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru
6 Gorffennaf 2014
ATODLEN 1
Ffioedd Arolygu Mewnforio
Rheoliad 2(1)(a), (2)(a)(i) a (3)(a)


Colofn 1Planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall Colofn 2Swm Colofn 3Ffi am bob llwyth neu ran berthnasol o lwyth (oriau gwaith yn ystody dydd) (£) Colofn 4Ffi am bob llwyth neu ran berthnasol o lwyth (oriau gwaith heb fodyn ystod y dydd) (£)
Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd coedwigaeth atgenhedlol), planhigion ifanc mefus neu lysiau hyd at 10,000 o ran nifer 47.87 71.80
am bob 1,000 ychwanegol, neu ran o hynny 1.91, hyd at uchafswm o 382.92 2.87, hyd at uchafswm o 574.38
Llwyni, coed (ac eithrio coed Nadolig wedi’u torri), planhigion meithrinfa prennaidd eraill yn cynnwys deunydd coedwigaeth atgenhedlol (ac eithrio hadau) hyd at 1,000 o ran nifer 47.87 71.80
am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny 1.17, hyd at uchafswm o 382.92 1.76, hyd at uchafswm o 574.38
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron (ac eithrio cloron tatws) a fwriedir ar gyfer eu plannu hyd at 200 kg 47.87 71.80
am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny 0.44, hyd at uchafswm o 382.92 0.65, hyd at uchafswm o 574.38
Hadau, meithriniadau meinwe hyd at 100 kg 20.51 30.77
am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny 0.47, hyd at uchafswm o 382.92 0.70, hyd at uchafswm o 574.38
Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu, nas pennir yn unman arall yn yr Atodlen hon hyd at 5,000 o ran nifer 47.87 71.80
am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny 0.47, hyd at uchafswm o 382.92 0.70, hyd at uchafswm o 574.38
Blodau wedi’u torri hyd at 20,000 o ran nifer 47.87 71.80
am bob 1,000 ychwanegol, neu ran o hynny 0.37, hyd at uchafswm o 382.92 0.55, hyd at uchafswm o 574.38
Canghennau gyda deiliant, rhannau o gonifferau (ac eithrio coed Nadolig wedi’u torri) hyd at 100 kg 47.87 71.80
am bob 100 kg ychwanegol, neu ran o hynny 4.76, hyd at uchafswm o 382.92 7.14, hyd at uchafswm o 574.38
Coed Nadolig wedi’u torri hyd at 1,000 o ran nifer 47.87 71.80
am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny 4.76, hyd at uchafswm o 382.92 7.14, hyd at uchafswm o 574.38
Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog hyd at 100 kg 47.87 71.80
am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny 4.76, hyd at uchafswm o 382.92 7.14, hyd at uchafswm o 574.38
Ffrwythau, llysiau (ac eithrio llysiau deiliog) hyd at 25,000 kg 47.87 71.80
am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny 1.91 2.87
Cloron tatws hyd at 25,000 kg 143.60 (am bob lot) 215.39 (am bob lot)
am bob 25,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny 143.60 (am bob lot) 215.39 (am bob lot)
Pridd a chyfrwng tyfiant, rhisgl hyd at 25,000 kg 47.87 71.80
am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny 1.91, hyd at uchafswm o 382.92 2.87, hyd at uchafswm o 574.38
Grawn hyd at 25,000 kg 47.87 71.80
am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny 1.91, hyd at uchafswm o 1914.60 2.87, hyd at uchafswm o 2871.90
Planhigion eraill neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir yn unman arall yn yr Atodlen hon, ac eithrio coed fforestydd am bob llwyth 47.87 71.80
ATODLEN 2
Ffioedd Arolygu Mewnforio: Cyfraddau Gostyngol
Rheoliad 2(2)(a)(ii) a (3)(b)


Colofn 1Genws Colofn 2Swm Colofn 3Gwlad tarddiad Colofn 4Ffi am bob llwyth neu ran berthnasol o lwyth (oriau gwaith yn ystod y dydd) (£) Colofn 5Ffi am bob llwyth neu ran berthnasol o lwyth (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) (£)
Blodau wedi’u torri
Dianthus hyd at 20,000 o ran nifer Colombia 1.43 2.15
Ecuador 7.18 10.77
Kenya 2.39 3.59
Twrci 11.96 17.95
am bob 1,000 ychwanegol neu ran o hynny Colombia 0.01 hyd at uchafswm o 11.48 0.01, hyd at uchafswm o 17.23
Ecuador 0.05, hyd at uchafswm o 57.43 0.08, hyd at uchafswm o 86.15
Kenya 0.02, hyd at uchafswm o 19.14 0.03, hyd at uchafswm o 28.71
Twrci 0.09, hyd at uchafswm o 95.73 0.13, hyd at uchafswm o 143.59
Rosa hyd at 20,000 o ran nifer Colombia 1.43 2.15
Ecuador 1.43 2.15
Ethiopia 4.78 7.18
Kenya 2.39 3.59
Tanzania 7.18 10.77
Zambia 11.96 17.95
am bob 1,000 ychwanegol neu ran o hynny Colombia 0.01, hyd at uchafswm o 11.48 0.01, hyd at uchafswm o 17.23
Ecuador 0.01 hyd at uchafswm o 11.48 0.01, hyd at uchafswm o 17.23
Ethiopia 0.04, hyd at uchafswm o 38.29 0.06, hyd at uchafswm o 57.43
Kenya 0.02, hyd at uchafswm o 19.14 0.03, hyd at uchafswm o 28.71
Tanzania 0.05, hyd at uchafswm o 57.43 0.08, hyd at uchafswm o 86.15
Zambia 0.09, hyd at uchafswm o 95.73 0.13, hyd at uchafswm o 143.59
Canghennau gyda deiliant
Phoenix hyd at 100 kg Costa Rica 16.75 25.13
am bob 100 kg ychwanegol neu ran o hynny Costa Rica 1.66, hyd at uchafswm o 134.02 2.49, hyd at uchafswm o 201.03
Ffrwythau
Citrus hyd at 25,000 kg Yr Aifft 7.18 10.77
Israel 4.78 7.18
Mecsico 7.18 10.77
Moroco 2.39 3.59
Periw 7.18 10.77
Tunisia 11.96 17.95
Twrci 1.43 2.15
Uruguay 7.18 10.77
UDA 7.18 10.77
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Yr Aifft 0.28 0.43
Israel 0.19 0.28
Mecsico 0.28 0.43
Moroco 0.09 0.14
Periw 0.28 0.43
Tunisia 0.47 0.71
Twrci 0.05 0.08
Uruguay 0.28 0.43
UDA 0.28 0.43
Malus hyd at 25,000 kg Ariannin 11.96 17.95
Brasil 11.96 17.95
Chile 2.39 3.59
Seland Newydd 4.78 7.18
De Affrica 2.39 3.59
UDA 23.93 35.90
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Ariannin 0.47 0.71
Brasil 0.47 0.71
Chile 0.09 0.14
Seland Newydd 0.19 0.28
De Affrica 0.09 0.14
UDA 0.95 1.43
Mangifera hyd at 25,000 kg Brasil 23.93 35.90
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Brasil 0.95 1.43
Passiflora hyd at 25,000 kg Colombia 4.78 7.18
Kenya 4.78 7.18
De Affrica 16.75 25.13
Zimbabwe 35.90 53.85
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Colombia 0.19 0.28
Kenya 0.19 0.28
De Affrica 0.66 1.00
Zimbabwe 1.43 2.15
Prunus hyd at 25,000 kg Ariannin 23.93 35.90
Chile 4.78 7.18
Moroco 23.93 35.90
De Affrica 4.78 7.18
Twrci 7.18 10.77
UDA 7.18 10.77
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Ariannin 0.95 1.43
Chile 0.19 0.28
Moroco 0.95 1.43
De Affrica 0.19 0.28
Twrci 0.28 0.43
UDA 0.28 0.43
Pyrus hyd at 25,000 kg Ariannin 4.78 7.18
Chile 11.96 17.95
Tsieina 23.93 35.90
De Affrica 4.78 7.18
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Ariannin 0.19 0.28
Chile 0.47 0.71
Tsieina 0.95 1.43
De Affrica 0.19 0.28
Vaccinium hyd at 25,000 kg Ariannin 11.96 17.95
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Ariannin 0.47 0.71
Llysiau
Capsicum hyd at 25,000 kg Israel 2.39 3.59
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Israel 0.09 0.14
Momordica hyd at 25,000 kg Surinam 16.75 25.13
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Surinam 0.66 1.00
Solanum melongena hyd at 25,000 kg Kenya 4.78 7.18
Twrci 4.78 7.18
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny Kenya 0.19 0.28
Twrci 0.19 0.28
ATODLEN 3
Ffioedd Arolygu Mewnforio: Gwiriadau Dogfennol a Gwiriadau Adnabod
Rheoliad 2(2)(b)


Colofn 1Gwiriad Colofn 2Swm Colofn 3Ffi (£)
Dogfennol am bob llwyth 5.71
Adnabod am bob llwyth hyd at faint llwyth lori, llwyth wagen reilffordd neu lwyth cynhwysydd o faint cymharol 5.71
am bob llwyth sy’n fwy na’r maint uchod 11.42
ATODLEN 4
Tatws Hadyd: Ffioedd
Rheoliad 3


Colofn 1Swyddogaeth Colofn 2Ffi (£) Colofn 3Isafswm ffi (£)
Arolygu cnydau sy’n tyfu a darparu labeli a seliau mewn perthynas â cheisiadau
Ardystio fel tatws hadyd cynsylfaenol 129.84* d/g
Ardystio fel tatws hadyd sylfaenol a ddosberthir fel: super elite 1, super elite 2 neu super elite 3 64.92 129.84
elite 1, elite 2 neu elite 3 64.92 129.84
A 61.71 123.43
Ardystio fel tatws hadyd ardystiedig 56.10 112.20
Awdurdodiad i farchnata tatws hadyd 129.84* d/g
Arolygu cloron a gynaeafwyd
Hyd at ddau arolygiad 19.24 38.47
Trydydd arolygiad ac arolygiadau dilynol 129.84* d/g

ATODLEN 5
Ffioedd am Drwyddedau Iechyd Planhigion
Rheoliad 4(2)


Colofn 1Eitem Colofn 2Math o gais neu arolygiad Colofn 3Ffi (£)
1 Cais am drwydded ac eithrio trwydded sy’n dod o fewn eitem 2 neu 3 neu 5 809.83
2 Cais am drwydded mewn perthynas â phridd neu gyfrwng tyfu arall ar gyfer ei ddadansoddi 584.14
3 Cais am drwydded at ddibenion gwyddonol neu ddibenion treialu, sy’n ymwneud â 5 neu ragor o fathau o bethau 809.83, plws 31.86 am bob math o beth dros ben y 5
4 Cais am adnewyddu neu amrywio trwydded gyda newidiadau, pan fo asesiad gwyddonol neu dechnegol yn ofynnol 265.21
5 Cais am drwydded i awdurdodi cyflwyno tatws, ac eithrio tatws a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o ranbarthau Akkar neu Bekaa yn Libanus 31.86
6 Cais am adnewyddu trwydded heb newidiadau, neu gais am adnewyddu neu amrywio trwydded gyda newidiadau bach yn unig, pan nad yw asesiad gwyddonol neu dechnegol yn ofynnol 31.86
7 Arolygu a gweithgareddau cysylltiedig (gan gynnwys amser teithio ac amser swyddfa) i fonitro cydymffurfiaeth â thelerau ac amodau trwydded. 46.11 am bob awr neu ran o awr