
2014 Rhif 178 (Cy. 26) (C. 5)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Arbed) 2014
Gwnaed 29 Ionawr 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 97 a 100 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Arbed) 2014.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
Darpariaethau sy’n dod i rym ar 20 Chwefror 2014
2 
Yn ddarostyngedig i erthygl 3, y diwrnod penodedig ar gyfer dod â’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2013 i rym yw 20 Chwefror 2014—
(a) Pennod 1 o Ran 2 (ymyrryd ym materion rhedeg ysgolion a gynhelir);
(b) Pennod 2 o Ran 2 (ymyrryd mewn awdurdodau lleol);
(c) adran 96 (diddymu’r ddarpariaeth am god ymarfer ar gyfer y berthynas rhwng awdurdodau lleol ac ysgolion);
(d) adran 99 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r diwygiadau a wneir gan Ran 1 o Atodlen 5;
(e) Atodlen 1 (cyrff llywodraethu sydd wedi eu ffurfio o aelodau gweithrediaeth interim);
(f) Rhan 1 o Atodlen 5 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â Rhan 2 o Ddeddf 2013); ac
(g) paragraffau 32 a 34(2) o Ran 3 o Atodlen 5 (diddymu adran 58 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006).
Arbedion mewn perthynas ag adrannau 496 i 497A o Ddeddf Addysg 1996
3 

(1) Nid yw dod ag unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a nodir yn erthygl 2 i rym yn effeithio ar unrhyw weithred a wneir, unrhyw ddatganiad nac unrhyw gyfarwyddyd o dan bwerau Gweinidogion Cymru yn adrannau 496 i 497A o Ddeddf Addysg 1996 neu mewn perthynas ag arfer y pwerau hynny, ac mae’r adrannau hynny yn parhau i fod yn gymwys fel pe na bai’r darpariaethau a nodir yn erthygl 2 wedi eu gwneud.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi dyroddi cyfarwyddyd drwy arfer eu pwerau yn adrannau 496 i 497A o Ddeddf Addysg 1996 (“y pwerau cyfarwyddo”) cyn i unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a nodir yn erthygl 2 ddod i rym a’u bod wedi eu bodloni y dylai cyfarwyddyd pellach gael ei ddyroddi mewn perthynas â’r un materion drwy arfer y pwerau cyfarwyddo, mae’r adrannau hynny yn parhau i fod yn gymwys fel pe na bai’r darpariaethau a nodir yn erthygl 2 wedi eu gwneud.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
29 Ionawr 2014