
2014 Rhif 1769 (Cy. 181) (C. 76)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gorchymyn Deddf Cynllunio 2008 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2014
Gwnaed 2 Gorffennaf 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 241(3) o Ddeddf Cynllunio 2008, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio 2008 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2014.
Darpariaethau yn dod i rym ar 8 Awst 2014 o ran Cymru
2 
Bydd y darpariaethau canlynol o Ddeddf Cynllunio 2008 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) yn dod i rym o ran Cymru ar 8 Awst 2014—
(a) adran 185; a
(b) adran 199.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru
2 G orffennaf 2014