
2014 Rhif 1764 (Cy. 179)
Cartrefi Symudol, Cymru
Rheoliadau Cartrefi Symudol (Rheolau Safle) (Cymru) 2014
Gwnaed 2 Gorffennaf 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 4 Gorffennaf 2014
Coming into force 1 Hydref 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 52 ac is-adrannau (1), (6), (8) a (9) o adran 63 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Symudol (Rheolau Safle) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 1 Hydref 2014.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “cynnig” (“proposal”) yw cynnig i wneud, i amrywio neu i ddileu rheol safle;
 ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013;
 ystyr “dogfen ymateb i’r ymgynghoriad” (“consultation response document”) yw dogfen a anfonir at bob ymgynghorai yn ei hysbysu am benderfyniad y perchennog ynghylch pa un ai i weithredu cynnig, sy’n bodloni gofynion rheoliad 9 o’r Rheoliadau hyn;
 ystyr “hysbysiad dileu” (“deletion notice”) yw hysbysiad y mae’n ofynnol i berchennog ei adneuo gydag awdurdod lleol yn unol â rheoliad 12, yn hysbysu am ddileu rheol safle neu fwy nag un rheol safle;
 ystyr “hysbysiad o gynnig” (“proposal notice”) yw’r hysbysiad sy’n ofynnol gan reoliad 8;
 ystyr “rheolau cyn cychwyn” (“pre-commencement rules”), mewn perthynas â safle, yw rheolau a wnaed gan y perchennog cyn i adran 52 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 gychwyn, sy’n ymwneud â mater a grybwyllir yn adran 52(2) o’r Ddeddf honno;
 ystyr “ymgynghorai” (“consultee”) yw person neu gymdeithas trigolion gymwys (fel y’i diffinnir yn adran 61 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013), y mae’n ofynnol ymgynghori â hwy o dan reoliad 7.
Cyflwyno dogfennau
3 

(1) Rhaid i’r dogfennau y cyfeirir atynt yn rheoliadau 8, 9, 10, 13 ac 17—
(a) cael eu hanfon drwy’r post; neu
(b) eu danfon â llaw.
(2) Rhaid ystyried bod unrhyw ddogfen a gyflwynir yn unol â’r Rheoliadau hyn, oni bai y profir bod y gwrthwyneb yn wir, yn cael ei chyflwyno—
(a) pan gaiff y ddogfen ei hanfon drwy’r post, ar yr ail ddiwrnod ar ôl iddi gael ei hanfon;
(b) pan gaiff y ddogfen ei danfon â llaw—
(i) cyn 4.30pm, ar y diwrnod hwnnw; neu
(ii) am 4.30pm neu ar ôl hynny, ar y diwrnod ar ôl y diwrnod hwnnw.
Materion a ragnodir at ddibenion adran 52(2)(b) o Ddeddf 2013
4 

(1) Y materion a ragnodir at ddibenion adran 52(2)(b) o Ddeddf 2013 yw’r materion a nodir ym mharagraff (2).
(2) Rhaid i reol safle fod yn angenrheidiol—
(a) er mwyn sicrhau bod safonau derbyniol yn cael eu cynnal ar y safle, y byddant o les cyffredinol i’r meddianwyr; neu
(b) er mwyn hybu a chynnal cydlyniad cymunedol ar y safle.
Materion a ragnodir at ddibenion adran 52(8) o Ddeddf 2013
5 
Nid oes gan reol safle unrhyw effaith i’r graddau ei bod yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r materion a ragnodir yn Atodlen 5 i’r Rheoliadau hyn.
Gweithdrefn ragnodedig
6 
Mae rheoliadau 7 i 9 yn rhagnodi’r weithdrefn ar gyfer gwneud, amrywio neu ddileu rheolau safle at ddibenion is-adrannau (2), (5), (6) a (7) o adran 52 o Ddeddf 2013.
Gofyniad i ymgynghori ar gynnig
7 
Rhaid i berchennog, mewn perthynas â’r safle gwarchodedig dan sylw, ymgynghori â’r canlynol—
(a) pob meddiannydd; a
(b) unrhyw gymdeithas trigolion gymwys,ar gynnig yn unol â rheoliadau 8 a 9.
Hysbysiad o gynnig
8 

(1) Rhaid i’r perchennog hysbysu pob ymgynghorai am gynnig, drwy ddyroddi hysbysiad o gynnig (“yr hysbysiad o gynnig”).
(2) Rhaid i’r hysbysiad o gynnig—
(a) amlinellu cynnig yn glir;
(b) cynnwys datganiad o resymau’r perchennog dros wneud cynnig;
(c) cynnwys datganiad yn nodi y caiff y ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad ei hanfon at bob ymgynghorai;
(d) cynnwys rhestr o’r materion a ragnodir gan reoliadau 4 a 5 a datganiad yn cadarnhau bod cynnig yn cydymffurfio â gofynion y darpariaethau hyn;
(e) pennu—
(i) y dyddiad pryd yr ystyrir bod yr hysbysiad wedi ei gyflwyno i bob ymgynghorai, yn unol â rheoliad 3 (“y diwrnod ymgynghori cyntaf”);
(ii) erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid i unrhyw sylwadau a wneir mewn ymateb i’r cynnig ddod i law’r perchennog (“y diwrnod ymgynghori olaf”) y mae’n rhaid iddo fod o leiaf 28 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod ymgynghori cyntaf;
(iii) enw’r perchennog a’r cyfeiriad y mae’n rhaid anfon unrhyw sylwadau o’r fath iddo;
(f) cael ei lofnodi a’i ddyddio gan y perchennog; ac
(g) bod ar y ffurf briodol a nodir yn Atodlen 1 neu ar ffurflen y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.
(3) Ystyrir bod cynnig yn hysbys i’r ymgyngoreion ar y diwrnod ymgynghori cyntaf.
(4) Caiff yr hysbysiad o gynnig gynnwys mwy nag un cynnig, ac yn yr achosion hynny, mae’r rheoliad hwn a rheoliadau 9 i 17 yn gymwys mewn perthynas â’r cynigion hynny ar y cyd fel pe baent yn gynnig unigol.
Ymateb y perchennog i’r ymgynghoriad
9 

(1) Rhaid i’r perchennog, o fewn 21 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod ymgynghori olaf, ac ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a ddaeth i law gan yr ymgyngoreion—
(a) penderfynu pa un ai i weithredu’r cynnig (gydag addasiadau neu hebddynt) (“y penderfyniad”); a
(b) anfon dogfen, o’r enw “y ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad”, i bob ymgynghorai, yn eu hysbysu am y penderfyniad hwnnw.
(2) Rhaid i’r ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad hefyd—
(a) rhoi manylion yr ymgynghoriad a gynhaliwyd o dan reoliadau 7 ac 8, gan gynnwys y diwrnod ymgynghori cyntaf;
(b) rhoi manylion y sylwadau a ddaeth i law, ymateb y perchennog i’r sylwadau a’r addasiadau hynny a wnaed i’r cynnig (os o gwbl) o ganlyniad i’r ymgynghoriad;
(c) cynnwys copi o unrhyw reolau safle ar y ffurflen y mae’r perchennog yn cynnig eu hadneuo gyda’r awdurdod lleol;
(d) pan fo’n berthnasol, cynnwys eglurhad bod y perchennog yn bwriadu adneuo hysbysiad dileu gyda’r awdurdod lleol a rhestr o’r rheolau safle sydd i’w dileu;
(e) cynnwys datganiad y bydd unrhyw reolau safle neu ddileadau yn dod i rym yn unol â rheoliad 14, cyhyd â bod adneuad wedi cael ei wneud yn unol â rheoliad 12 a’i hysbysu yn unol â rheoliad 13;
(f) egluro’r hawliau i apelio sydd ar gael i ymgyngoreion o dan reoliad 10; ac
(g) bod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 2 neu ar ffurflen y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.
(3) Pan gaiff cynnig ei addasu o ganlyniad i’r ymgynghoriad, dylid darllen y cyfeiriad at “y cynnig” yn rheoliad 10 fel cyfeiriad at y cynnig fel y’i addaswyd.
Hawl i apelio i dribiwnlys mewn perthynas â phenderfyniad y perchennog
10 

(1) Caiff ymgynghorai apelio i dribiwnlys ar un neu ragor o’r seiliau a bennir ym mharagraff (2) o fewn 21 o ddiwrnodau ar ôl i’r ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad ddod i law.
(2) Dyma’r seiliau—
(a) mae rheol safle yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r materion rhagnodedig a nodir yn Atodlen 5;
(b) nid yw’r perchennog wedi cydymffurfio â gofyniad gweithdrefnol a osodir gan reoliad 7 i 9 o’r Rheoliadau hyn;
(c) roedd penderfyniad y perchennog yn afresymol gan roi sylw, yn arbennig i—
(i) y cynnig neu’r sylwadau a ddaeth i law mewn ymateb i’r ymgynghoriad;
(ii) maint, cynllun, cymeriad, gwasanaethau neu amwynderau’r safle; neu
(iii) telerau unrhyw ganiatâd cynllunio neu amodau trwydded y safle.
(3) Pan fo ymgynghorai yn gwneud apêl o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r ymgynghorai hysbysu’r perchennog am yr apêl yn ysgrifenedig a darparu copi o’r cais a wnaed i’r perchennog, o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau y cyfeirir ato ym mharagraff (1).
Gweithdrefn apelio
11 
Wrth benderfynu ar apêl o dan reoliad 10, caiff y tribiwnlys—
(a) cadarnhau penderfyniad y perchennog;
(b) diddymu neu addasu penderfyniad y perchennog;
(c) gwneud ei benderfyniad ei hun yn lle penderfyniad y perchennog; neu
(d) pan fo’r perchennog wedi methu â chydymffurfio â’r weithdrefn a nodir yn rheoliadau 7 i 9, gorchymyn y perchennog i gydymffurfio â rheoliadau 7 i 9 (fel y bo’n briodol), o fewn cyfnod a bennir gan y tribiwnlys.
Adneuo rheolau safle neu hysbysiad dileu
12 

(1) Pan fo perchennog wedi penderfynu gweithredu rheolau safle newydd neu amrywio neu ddileu rheolau safle, yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r perchennog adneuo’r rheolau safle neu hysbysiad dileu gyda’r awdurdod lleol yn ddim cynt na 28 o ddiwrnodau ar ôl cyflwyno’r ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad, ond yn ddim hwyrach na 42 o ddiwrnodau ar ôl cyflwyno’r ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad.
(2) Pan fo hysbysiad o apêl i’r tribiwnlys yn unol â rheoliad 10 wedi dod i law’r perchennog, rhaid i’r perchennog beidio â gwneud adneuad hyd nes i’r apêl gael ei gwaredu, y penderfynir arni neu y rhoddir y gorau iddi.
(3) Pan fydd apêl i’r tribiwnlys yn cael ei gwaredu, y penderfynir arni neu y rhoddir y gorau iddi, rhaid i’r perchennog adneuo’r rheolau safle neu’r hysbysiad dileu—
(a) yn ddim hwyrach na 14 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad penderfyniad y tribiwnlys;
(b) yn ddim hwyrach na 14 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad pan fo’r tribiwnlys yn hysbysu’r perchennog bod yr apêl wedi ei gollwng; neu
(c) unrhyw ddyddiad diweddarach a bennir gan y tribiwnlys.
(4) Rhaid i ffi am swm a bennir gan yr awdurdod lleol fynd gydag adneuad y mae’n ofynnol ei wneud yn rhinwedd y rheoliad hwn.
Hysbysiad adneuo
13 

(1) Rhaid i’r perchennog hysbysu pob meddiannydd ac unrhyw gymdeithas trigolion gymwys yn ysgrifenedig am adneuad o fewn 7 niwrnod ar ôl i’r adneuad gael ei wneud.
(2) Rhaid i’r hysbysiad—
(a) pennu ar ba ddyddiad y cafodd yr adneuad ei wneud;
(b) rhoi manylion cyswllt yr awdurdod lleol lle cafodd yr adneuad ei wneud;
(c) egluro pryd y daw unrhyw reolau safle, amrywiadau neu ddileadau i rym;
(d) dod gyda chopi o’r rheolau safle, os o gwbl, fel y’u hadneuwyd; ac
(e) bod ar y ffurf briodol a nodir yn Atodlen 3 neu 4 fel sy’n briodol, neu ar ffurflen y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.
Y dyddiad pan ddaw rheol newydd, rheol a amrywiwyd neu ddilead i rym
14 

(1) Daw’r rheolau safle a adneuwyd ac unrhyw ddileadau i rym ar ddiwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau yn dechrau ar y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad adneuo o dan reoliad 13.
(2) Pan gynigir bod rheol safle yn cael ei hamrywio neu ei dileu yn unol ag is-adran 52(5) a (6) o Ddeddf 2013, bydd y rheolau safle sydd mewn grym cyn yr ymgynghoriad o dan reoliadau 7 i 9 yn parhau i gael effaith hyd nes y daw’r rheolau safle newydd neu’r dileadau i rym yn unol â pharagraff (1).
Rheolau a wnaed gan y perchennog cyn i Ran 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 gychwyn
15 
Bydd unrhyw reolau a wnaed gan y perchennog cyn i Ran 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 gychwyn yn peidio â chael effaith ar ôl y cyfnod canlynol—
(a) ac eithrio mewn achos sy’n dod o fewn is-baragraff (b) neu (c), y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau pan fydd y Rheoliadau hyn yn cychwyn;
(b) pan ddaw rheolau safle i rym yn unol â rheoliad 14 o’r Rheoliadau hyn, cyn diwedd y cyfnod a ragnodir yn is-baragraff (a), y cyfnod sy’n dod i ben pan ddaw’r rheolau safle i rym; neu
(c) pan nad oes penderfyniad wedi ei wneud am apêl o dan reoliad 10 ar ddiwedd y cyfnod a ragnodir yn is-baragraff (a), y cyfnod sy’n dod i ben pan ddaw rheolau safle i rym yn unol â rheoliad 14, ar ôl i’r apêl gael ei gwaredu, y penderfynir arni neu y rhoddir y gorau iddi.
Cofrestrau awdurdodau lleol o reolau safle
16 

(1) Rhaid i awdurdod lleol—
(a) llunio cofrestr o reolau safle mewn perthynas â safleoedd gwarchodedig yn ei ardal a’i chadw’n gyfredol; a
(b) cyhoeddi’r gofrestr gyfredol ar-lein.
(2) Rhaid i’r gofrestr fod yn agored i’r cyhoedd gael edrych arni yn swyddfa’r awdurdod lleol yn ystod oriau gwaith arferol.
Hawl i apelio i dribiwnlys ynghylch adneuad
17 

(1) Caiff meddiannydd ac unrhyw gymdeithas trigolion gymwys apelio i’r tribiwnlys ynghylch adneuad, ar y sail a bennir ym mharagraff (2).
(2) Y sail yw nad yw adneuad fel sy’n ofynnol gan reoliad 12 wedi cael ei wneud cyn diwedd y cyfnod a ragnodir gan y rheoliad hwnnw.
(3) Pan gaiff apêl ei gwneud o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r apelai hysbysu’r perchennog yn ysgrifenedig, o fewn 21 o ddiwrnodau ar ôl gwneud yr apêl i’r tribiwnlys.
(4) Wrth benderfynu ar apêl o dan y rheoliad hwn, caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol wneud adneuad erbyn dyddiad penodedig, ynghyd â ffi am swm a bennir gan yr awdurdod lleol.
(5) Pan gaiff adneuad ei wneud o dan is-baragraff (4), rhaid i’r perchennog hysbysu pob meddiannydd ac unrhyw gymdeithas trigolion gymwys yn ysgrifenedig am yr adneuad yn unol â rheoliad 13, a daw’r rheolau safle fel y’u hadneuwyd ac unrhyw ddileadau i rym ar ddiwedd y cyfnod a ragnodir yn unol â rheoliad 14.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru
2 Gorffennaf 2014
ATODLEN 1
Ffurf hysbysiad o gynnig
Rheoliad 8

ATODLEN 2
Ffurf dogfen ymateb i’r ymgynghoriad
Rheoliad 9

ATODLEN 3
Ffurf hysbysiad adneuo rheolau safle
Rheoliad 13

ATODLEN 4
Ffurf hysbysiad adneuo hysbysiad dileu
Rheoliad 13

ATODLEN 5
Materion rhagnodedig at ddibenion adran 52(8) o Ddeddf 2013
Rheoliad 5
Mae’r materion a nodir ym mharagraffau 1 a 2 yn faterion rhagnodedig at ddibenion adran 52(8) (Nid yw rheolau safle neu’r reolau hynny a grybwyllir yn adran 52(3) o Ddeddf 2013 yn cael unrhyw effaith i’r graddau eu bod yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r materion rhagnodedig).

Materion sy’n ymwneud â gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg
1 

(1) dyma’r materion—
(a) pa un ai a ddylid atal y meddiannydd rhag gwerthu’r cartref symudol neu ei roi yn anrheg i unrhyw un heblaw am y perchennog;
(b) pa un ai a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd hysbysu’r perchennog am fwriad y meddiannydd i werthu’r cartref symudol neu ei roi yn anrheg;
(c) pa un ai a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd ddefnyddio gwasanaethau’r perchennog neu berson a bennir gan y perchennog at ddibenion gwerthu’r cartref symudol neu ei roi yn anrheg;
(d) pa un ai a ddylid atal y meddiannydd rhag defnyddio gwasanaethau asiant tai at ddibenion gwerthu’r cartref symudol;
(e) pa un ai a ddylid atal y meddiannydd rhag defnyddio gwasanaethau a ddarperir gan gyfreithiwr at ddibenion gwerthu’r cartref symudol neu ei roi yn anrheg ac aseinio’r cytundeb;
(f) pa un ai a ddylid atal y meddiannydd rhag defnyddio unrhyw wasanaethau a fyddai ar gael fel arall i’r meddiannydd at ddibenion gwerthu’r cartref symudol neu ei roi yn anrheg;
(g) pa un ai a ddylid atal y meddiannydd rhag hysbysebu bod y cartref symudol ar werth drwy hysbysiad, bwrdd neu hysbyslen a osodir ar y cartref symudol neu ar y llain;
(h) pa un ai a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd—
(i) trefnu bod arolwg o’r cartref symudol neu’r llain yn cael ei gynnal; neu
(ii) caniatáu i’r perchennog neu ei asiant(au) gynnal arolwg o’r cartref symudol neu’r llain
cyn gwerthu’r cartref symudol neu ei roi yn anrheg;
(i) pa un ai a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd werthu’r cartref symudol neu ei roi yn anrheg neu aseinio’r cytundeb ym mhresenoldeb y perchennog;
(j) pa un ai a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd neu’r meddiannydd arfaethedig ddarparu manylion personol y meddiannydd arfaethedig i berchennog y safle neu fanylion unrhyw berson arall sy’n bwriadu byw yn y cartref symudol gyda’r meddiannydd arfaethedig;
(k) pa un ai a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd arfaethedig fynd i gyfarfod â’r perchennog.
(2) Mae’r canlynol yn enghreifftiau o “manylion personol”—
(a) cyfeiriad cartref, manylion cyswllt eraill neu rif cofrestru cerbyd y person o dan sylw;
(b) unrhyw wybodaeth ariannol sy’n ymwneud â’r person o dan sylw;
(c) tystysgrif geni neu dystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil y person o dan sylw; a
(d) manylion am oedran, tarddiad ethnig, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol y person o dan sylw.
(3) Yn is-baragraffau (c), (d), (e), (f) ac (h) o baragraff 1(1), mae’r cyfeiriadau at werthu cartref symudol yn cynnwys cyfeiriad at farchnata, hysbysebu neu gynnig cartref symudol i’w werthu.
Materion eraill
2 
Dyma’r materion—
(a) yn ddarostyngedig i baragraff 3, unrhyw fater a fynegir i roi hawl i feddiannydd yn ddarostyngedig i arfer disgresiwn gan y perchennog, ac eithrio mewn perthynas â gwelliannau i blot meddiannydd;
(b) unrhyw fater a fynegir i fod yn gymwys yn ôl-weithredol;
(c) unrhyw fater sy’n mynd yn groes i delerau ymhlyg y cytundeb, fel y’u diffinnir gan adrannau 48 a 49 o Ddeddf 2013;
(d) unrhyw fater a fynegir i fod yn gymwys i bersonau penodol neu bersonau o ddisgrifiad penodol yn unig, ac eithrio pan fo rheol yn gwneud eithriad ar gyfer y perchennog, teulu’r perchennog neu gyflogai i’r perchennog (pan nad yw cyflogai i’r perchennog yn meddiannu’r safle o dan gytundeb y mae Deddf 2013 yn gymwys iddo);
(e) pa un ai a ddylid atal y meddiannydd yn llwyr rhag gwneud gwelliannau i’r cartref neu’r llain;
(f) pa un ai a ddylai fod yn ofynnol i bobl sy’n ymweld â’r safle roi gwybod i’r perchennog pan fyddant yn cyrraedd;
(g) pa un ai a ddylid cyfyngu ar unrhyw gategori o berson rhag ymweld â’r safle, ni waeth a oes gan y safle gyfyngiad oedran ai peidio;
(h) pa un ai a ddylai fod hawl gan y perchennog i ostwng maint y llain neu eu ailgyfeirio;
(i) pa un ai a ddylai’r perchennog ei gwneud yn ofynnol i flaendaliadau gael eu casglu neu i dâl gael ei godi am wasanaethau neu ganiatadau eraill yn ogystal â thaliadau am y ffi am y llain, taliadau cyfleustodau, parcio neu siediau, pan nad oes hawl gwneud y tâl o dan y cytundeb (fel y’i diffinnir gan adrannau 48 a 49 o Ddeddf 2013) neu gan ddeddfwriaeth arall;
(j) pa un ai a ddylid cyfyngu ar fynediad i gerbydau i’r safle mewn unrhyw ffordd;
(k) pa un ai a ganiateir i’r meddiannydd gael ymwelwyr am gyfnodau byr, pa un ai a yw’r meddiannydd yn bresennol ar y pryd ai peidio;
(l) pa un ai a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd brynu nwyddau neu wasanaethau yn unig gan y perchennog neu unrhyw berson arall a bennir gan y perchennog;
(m) pa un ai a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd ddefnyddio gweithwyr a bennir gan y perchennog yn unig, gan gynnwys y perchennog ei hun;
(n) pa un ai a gaiff y rheolau safle eu newid ac eithrio gan yr weithdrefn a nodir yn rheoliadau 7 i 13 o’r Rheoliadau hyn;
(o) pa un ai a yw’r rheolau safle yn awgrymu bygwth taflu allan am fethu â chydymffurfio â’r rheolau safle.
3 
Nid yw is-baragraff 2(a) o’r Atodlen hon yn atal perchennog rhag arfer disgresiwn i roi hawl i feddiannydd er mwyn darparu ar gyfer anabledd y meddiannydd hwnnw.
4 

(1) Pan fo—
(a) meddiannydd safle wedi cael buddiant, cyn i reol safle gael ei adneuo; a
(b) effaith y rheol safle a adneuwyd yn dod i rym yw bod y meddiannydd sy’n cael buddiant yn torri’r rheol safle a adneuwyd;
ni fydd y meddiannydd yn torri’r rheol safle a adneuwyd ar gyfer y cyfnod y mae’r buddiant yn parhau.
(2) Ar ôl i’r buddiant ddod i ben, bydd y rheol safle a adneuwyd yn rhwymo’r meddiannydd.