
2014 Rhif 1763 (Cy. 178)
Cartrefi Symudol, Cymru
Rheoliadau Cartrefi Symudol (Gwerthu a Rhoi yn Anrheg) (Cymru) 2014
Gwnaed 2 Gorffennaf 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 4 Gorffennaf 2014
Yn dod i rym 1 Hydref 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer eu pwerau o dan adrannau 52(3) ac (8), 63(1), (8) a (9) o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013, a pharagraffau 9(4) a (6), 10(5), (7), (8) a (10), 11(2) a (4), 12(2) a (5) a 13(5), (7) a (9) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 iddi.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Symudol (Gwerthu a Rhoi yn Anrheg) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 1 Hydref 2014.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “cytundeb” (“agreement”) yw cytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf 2013 yn gymwys iddo;
 ystyr “datganiad ysgrifenedig” (“written statement”) yw’r datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 49(1) o Ddeddf 2013;
 ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013;
 mae i “ffi am y llain” (“pitch fee”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 62 o Ddeddf 2013;
 mae i “llain” (“pitch”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 55(1) o Ddeddf 2013;
 mae i “meddiannydd” (“occupier”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 55 o Ddeddf 2013;
 ystyr “meddiannydd arfaethedig” (“proposed occupier”) yw person y mae’r meddiannydd yn bwriadu gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg iddo ac aseinio’r cytundeb sy’n ymwneud â’r cartref symudol iddo;
 ystyr “rheolau cyn cychwyn” (“pre-commencement rules”), mewn perthynas â safle, yw rheolau a wneir gan y perchennog cyn i adran 52 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 gychwyn, sy’n ymwneud â mater a grybwyllir yn adran 52(2) o Ddeddf 2013;
 mae i “rheolau safle” (“site rules”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 52(2) o Ddeddf 2013;
 ystyr “safle” (“site”) yw safle gwarchodedig fel y’i diffinnir yn adran 2(2) o Ddeddf 2013; ac
 mae i “Sipsiwn a Theithwyr” (“Gypsies and Travellers”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 62 o Ddeddf 2013.
Gwerthu cartref symudol: darparu gwybodaeth a dogfennau i feddiannydd arfaethedig
3 

(1) Dyma’r dogfennau a ragnodir at ddibenion paragraff 11(2)(a) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013—
(a) copi o’r cytundeb a’r datganiad ysgrifenedig;
(b) pan gafodd y cytundeb ei aseinio i’r meddiannydd, copi o’r offeryn sy’n rhoi effaith i’r aseiniad hwnnw;
(c) copi o unrhyw reolau cyn cychwyn ar gyfer y safle sydd mewn grym;
(d) copi o unrhyw reolau safle ar gyfer y safle sydd mewn grym;
(e) tystiolaeth ddogfennol o unrhyw daliadau sy’n ymwneud â’r cartref symudol neu’r safle sy’n daladwy i’r perchennog neu i drydydd parti ar gyfer nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill, gan gynnwys manylion pryd y mae angen talu’r taliadau hyn a phryd y mae angen eu hadolygu nesaf;
(f) tystiolaeth ddogfennol o unrhyw daliadau eraill sy’n ymwneud â’r cartref symudol neu’r safle sy’n daladwy i’r perchennog neu i drydydd parti, gan gynnwys taliadau ar gyfer defnyddio garej, lle parcio neu dŷ allan;
(g) copi o unrhyw warant ar gyfer y cartref symudol sy’n parhau yn ddilys ac sydd ym meddiant y meddiannydd; ac
(h) copi o unrhyw arolwg strwythurol o’r cartref symudol, sylfaen neu lain sydd wedi ei gomisiynu gan y meddiannydd a’i gynnal gan berson cymwys addas yn y 12 mis cyn y dyddiad pan gaiff y dogfennau eu darparu i’r meddiannydd arfaethedig.
(2) Pan nad yw’r meddiannydd yn gallu darparu unrhyw un neu ragor o’r dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (1), rhaid darparu eglurhad ysgrifenedig i’r meddiannydd arfaethedig yn egluro pam.
(3) Dyma’r wybodaeth a ragnodir at ddibenion paragraff 11(2)(b) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013—
(a) y pris arfaethedig ar gyfer gwerthu’r cartref symudol;
(b) manylion y comisiwn a fyddai’n daladwy gan y meddiannydd arfaethedig yn rhinwedd paragraff 9(4) neu 10(8) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (yn ôl y digwydd);
(c) manylion y ffi am y llain sy’n daladwy i’r perchennog, gan gynnwys pryd y mae’n daladwy a’r dyddiad adolygu nesaf (mae i “dyddiad yr adolygiad” yr ystyr a roddir iddo ym mharagraff 1 o Bennod 1 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013);
(d) manylion unrhyw ôl-ddyledion ffioedd am y llain neu unrhyw daliadau eraill sy’n daladwy o dan y cytundeb sydd heb eu talu ar yr adeg pan gaiff y dogfennau a’r wybodaeth sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn eu darparu i’r meddiannydd arfaethedig, a manylion unrhyw drefniadau yr ymrwymir iddynt gyda’r perchennog ynghylch clirio unrhyw ôl-ddyledion o’r fath;
(e) band prisio’r dreth gyngor sy’n berthnasol i’r cartref symudol;
(f) enw’r perchennog a’r cyfeiriad lle gellir cyflwyno hysbysiadau i’r perchennog, ar yr amod bod yr wybodaeth hon wedi ei darparu i’r meddiannydd yn unol â pharagraff 24 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 neu, pan nad yw’r cyfeiriad hwn wedi cael ei ddarparu, unrhyw gyfeiriad hysbys arall ar gyfer y perchennog;
(g) enw a chyfeiriad yr awdurdod lleol y mae’r cartref symudol wedi ei leoli yn ei ardal;
(h) eglurhad o’r gofynion gweithdrefnol a ragnodir yn rheoliadau 9 a 10;
(i) y dyddiad pan gafodd y cytundeb ei wneud a, pan nad oedd y meddiannydd yn un o bartïon gwreiddiol y cytundeb, y dyddiad pan gafodd y cytundeb ei aseinio i’r meddiannydd;
(j) pan nad yw’r cytundeb yn gytundeb newydd, eglurhad o effaith paragraff 10(1) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (ac mae i “cytundeb newydd” yr ystyr a roddir iddo ym mharagraff 9(2) o’r Bennod honno);
(k) datganiad yn cadarnhau mai’r meddiannydd yw perchennog cyfreithiol y cartref symudol a’i fod yn gwerthu’r cartref symudol gyda meddiant gwag ac nad oes unrhyw fenthyciadau sydd heb eu talu mewn perthynas â’r cartref symudol; ac
(l) manylion unrhyw achosion cyfreithiol mewn perthynas ag unrhyw faterion sy’n ymwneud â’r cartref symudol, y cytundeb neu’r safle y mae’r meddiannydd yn barti iddo ac sydd wedi eu cyhoeddi neu eu cychwyn, ond nad ydynt wedi cael eu gwaredu neu eu tynnu’n ôl, ar yr adeg y caiff yr wybodaeth ei danfon neu ei hanfon at y meddiannydd arfaethedig.
(4) Rhaid i’r wybodaeth gael ei darparu yn y ffurf a ragnodir yn Atodlen 1, neu mewn ffurf sy’n cael yr un effaith yn sylweddol.
Cytundebau presennol: Hysbysiad o’r bwriad i werthu
4 

(1) Yr wybodaeth a ragnodir at ddibenion paragraff 10(5) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 yw’r wybodaeth a bennir ym mharagraffau (2) i (6).
(2) Ym mhob achos mae’r wybodaeth yn cynnwys—
(a) enw’r meddiannydd arfaethedig;
(b) eglurhad o effaith is-baragraffau (1) i (4) o baragraff 10 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013; ac
(c) ar ba seiliau a ragnodir yn rheoliad 7 y caiff y perchennog wneud cais i’r tribiwnlys am orchymyn gwrthod.
(3) Mewn achosion pan fo gan y safle reolau cyn cychwyn neu reolau safle, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys datganiad yn cadarnhau—
(a) bod y meddiannydd wedi darparu copi o’r rheolau hynny i’r meddiannydd arfaethedig; a
(b) bod y meddiannydd arfaethedig wedi darllen ac wedi deall y rheolau (neu fod rhywun wedi eu hegluro iddo) a bod y meddiannydd arfaethedig yn gallu cydymffurfio â hwy.
(4) Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy’n ymwneud ag oedran y meddianwyr, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys oedran y meddiannydd arfaethedig ac unrhyw berson sy’n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda’r meddiannydd arfaethedig.
(5) Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy’n ymwneud â chadw anifeiliaid, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys manylion unrhyw anifeiliaid y mae’r meddiannydd arfaethedig neu unrhyw berson arall sy’n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda’r meddiannydd arfaethedig, yn bwriadu eu cadw ar y safle (gan gynnwys, pan mai ci yw’r anifail, frîd y ci).
(6) Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy’n ymwneud â pharcio cerbydau ar y safle, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys manylion unrhyw gerbydau y mae’r meddiannydd arfaethedig neu unrhyw berson sy’n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda’r meddiannydd arfaethedig, yn bwriadu eu parcio ar y safle.
(7) Rhaid i’r wybodaeth gael ei darparu ar y ffurf a ragnodir yn Atodlen 2, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.
Cytundebau presennol: Hysbysiad o’r bwriad i roi’r cartref yn anrheg
5 

(1) Yr wybodaeth a ragnodir at ddibenion paragraff 13(5) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 yw’r wybodaeth a bennir ym mharagraffau (2) i (6) o’r rheoliad hwn.
(2) Ym mhob achos, mae’r wybodaeth yn cynnwys—
(a) enw’r meddiannydd arfaethedig ;
(b) eglurhad o effaith is-baragraffau (1) i (4) o baragraff 13 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013; ac
(c) ar ba seiliau a ragnodir yn rheoliad 7 y caiff y perchennog wneud cais i’r tribiwnlys am orchymyn gwrthod.
(3) Mewn achosion pan fo gan y safle gwarchodedig reolau cyn cychwyn neu reolau safle, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys datganiad yn cadarnhau—
(a) bod y meddiannydd wedi rhoi copi o’r rheolau hynny i’r meddiannydd arfaethedig; a
(b) bod y meddiannydd arfaethedig wedi darllen ac wedi deall y rheolau hynny (neu fod rhywun wedi eu hegluro iddo) a’i fod yn gallu cydymffurfio â hwy.
(4) Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy’n ymwneud ag oedran meddianwyr, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys oedran y meddiannydd arfaethedig ac unrhyw berson sy’n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda’r meddiannydd arfaethedig.
(5) Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy’n ymwneud â chadw anifeiliaid, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys manylion unrhyw anifeiliaid y mae’r meddiannydd arfaethedig neu unrhyw berson arall sy’n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda’r meddiannydd arfaethedig, yn bwriadu eu cadw ar y safle (gan gynnwys, pan mai ci yw’r anifail, brîd y ci).
(6) Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy’n ymwneud â pharcio cerbydau ar y safle, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys manylion unrhyw gerbydau y mae’r meddiannydd arfaethedig neu unrhyw berson sy’n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda’r meddiannydd arfaethedig, yn bwriadu ei barcio ar y safle.
(7) Rhaid i’r wybodaeth—
(a) cael ei darparu ar y ffurf a ragnodir yn Atodlen 3 neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi; a
(b) mynd gyda’r dystiolaeth berthnasol (fel y’i diffinnir ym mharagraff 12(2) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013).
Rhoi cartref symudol yn anrheg: tystiolaeth bod y meddiannydd arfaethedig yn aelod o deulu’r meddiannydd
6 
Y dystiolaeth a ragnodir at ddibenion paragraff 12(2)(a) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013, yw’r dystiolaeth a ddarperir gan un neu ragor o’r canlynol—
(a) gwybodaeth ysgrifenedig ar lw a roddir gan y meddiannydd a’r meddiannydd arfaethedig sy’n egluro perthynas y meddiannydd arfaethedig â’r meddiannydd;
(b) tystysgrif geni neu dystysgrif mabwysiadu;
(c) tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil.
Cytundebau presennol: ar ba seiliau y caiff perchennog y safle wneud cais am orchymyn gwrthod
7 

(1) Y seiliau a ragnodir at ddibenion paragraff 10(7) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (gwerthu cartref symudol: cytundebau presennol) yw, pe bai’r meddiannydd arfaethedig yn dod yn feddiannydd, y byddai’r meddiannydd arfaethedig neu berson sy’n bwriadu preswylio gyda’r meddiannydd arfaethedig yn torri rheol cyn cychwyn neu reol safle—
(a) oherwydd oedran;
(b) drwy gadw anifeiliaid y caiff disgrifiad ohonynt ei bennu yn y rheol;
(c) drwy barcio cerbydau ar y safle y caiff disgrifiad ohonynt ei bennu yn y rheol; neu
(d) drwy barcio nifer o gerbydau ar y safle sy’n fwy na’r nifer a bennir yn y rheol.
(2) Y seiliau a ragnodir at ddibenion paragraff 13(7) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (rhoi cartref symudol yn anrheg: cytundebau presennol) yw—
(a) y seiliau a grybwyllir ym mharagraff (1); neu
(b) bod y meddiannydd arfaethedig wedi methu â darparu’r dystiolaeth berthnasol i’r perchennog (fel y’i diffinnir ym mharagraff 12(2) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013).
(3) Pan fo safle yn eiddo i landlord cymdeithasol cofrestredig o dan Ran 1 o Ddeddf Tai 1996, ceir sail ragnodedig ychwanegol at ddibenion paragraffau 10(7) a 13(7) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013, pan fo gan y landlord bolisi ar waith ar gyfer dyrannu lleiniau i Sipsiwn a Theithwyr, y byddai gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg i’r meddiannydd arfaethedig yn mynd yn groes iddo.
Y gyfradd uchaf o gomisiwn sy’n daladwy ar werthiant cartref symudol
8 
Y gyfradd a ragnodir at ddibenion paragraffau 9(4) a 10(8) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 yw 10% o bris prynu’r cartref symudol.
Ffurf aseiniad a hysbysiad o aseiniad
9 

(1) Rhaid i aseiniad cytundeb yn unol â pharagraff 9(1), 10(1), 12(1) neu 13(1) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (yn ôl y digwydd) gael ei wneud—
(a) yn ysgrifenedig; a
(b) ar y ffurf a ragnodir yn Atodlen 4 (neu ar ffurf y mae ei heffaith yn effaith yn sylweddol debyg iddi).
(2) O fewn 7 niwrnod i’r aseiniad, rhaid i’r aseinai gyflwyno hysbysiad o’r aseiniad i’r perchennog sy’n cydymffurfio â gofynion paragraffau (3) i (8) (“hysbysiad o aseiniad”).
(3) Ym mhob achos, rhaid i’r hysbysiad o aseiniad bennu—
(a) enw’r aseiniwr;
(b) enw’r aseinai ac unrhyw berson arall sy’n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda’r aseinai;
(c) cyfeiriad y cartref symudol;
(d) dyddiad aseinio’r cytundeb; ac
(e) cyfeiriad yr aseinwr ar gyfer anfon ymlaen.
(4) Yn achos gwerthu cartref symudol, rhaid i’r hysbysiad o aseiniad hefyd—
(a) pennu pris prynu’r cartref symudol a swm y comisiwn y mae’n ofynnol i’r aseinai ei dalu i’r perchennog o dan baragraff 9(4) neu 10(8) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (yn ôl y digwydd); a
(b) cynnwys eglurhad o’r gofynion a ragnodir gan reoliad 10 (talu comisiwn).
(5) Mewn achosion pan fo gan y safle reolau cyn cychwyn neu reolau safle, rhaid i’r hysbysiad o aseiniad hefyd gynnwys datganiad yn cadarnhau bod yr aseinai wedi darllen ac wedi deall y rheolau hynny (neu fod rhywun wedi eu hegluro iddo) a’i fod yn cytuno i gydymffurfio â hwy.
(6) Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy’n ymwneud ag oedran meddianwyr, rhaid i’r hysbysiad o aseiniad hefyd bennu oedran yr aseinai ac unrhyw berson sy’n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda’r aseinai.
(7) Rhaid i’r hysbysiad o aseiniad—
(a) cael ei ddarparu ar y ffurf a ragnodir yn Atodlen 5, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi; a
(b) mynd gyda’r dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (8).
(8) Dyma’r dogfennau—
(a) copi o’r offeryn sy’n rhoi effaith i’r aseiniad;
(b) yn achos gwerthiant, tystiolaeth ddogfennol o’r pris a delir gan yr aseinai am y cartref symudol;
(c) copi o unrhyw reolau cyn cychwyn neu reolau safle y derbyniodd yr aseinai hwy yn unol â rheoliad 3(1)(c) neu (d) (yn ôl y digwydd); a
(d) copi o’r cytundeb a’r datganiad ysgrifenedig y derbyniodd yr aseinai hwy yn unol â rheoliad 3(1)(a).
(9) Caniateir i’r hysbysiad o aseiniad a dogfennau eraill y mae’n ofynnol eu darparu i’r perchennog o dan y rheoliad hwn naill ai gael eu danfon at y perchennog yn bersonol neu eu hanfon drwy’r post.
Talu comisiwn
10 

(1) Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl derbyn yr hysbysiad o aseiniad, rhaid i’r perchennog ddarparu manylion y cyfrif banc y mae’r perchennog yn dymuno i’r aseinai dalu’r comisiwn iddo, sef y comisiwn y mae’n ofynnol i’r aseinai ei dalu i’r perchennog o dan baragraff 9(4) neu 10(8) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (yn ôl y digwydd).
(2) O fewn 7 niwrnod ar ôl derbyn y manylion hynny, rhaid i’r aseinai dalu’r comisiwn i’r cyfrif banc.
Rheolau cyn cychwyn sy’n ymwneud â gwerthiannau, anrhegion ac aseiniadau: materion a ragnodir
11 

(1) Nid oes gan reol cyn cychwyn sy’n ymwneud â gwerthu cartref symudol unrhyw effaith i’r graddau ei bod yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r materion a grybwyllir ym mharagraff (2) o’r rheoliad hwn.
(2) Dyma’r materion—
(a) a ddylid atal y meddiannydd rhag gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg i unrhyw un heblaw am y perchennog;
(b) a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd hysbysu’r perchennog am fwriad y meddiannydd i werthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg;
(c) a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd ddefnyddio gwasanaethau’r perchennog neu berson a bennir gan y perchennog at ddibenion gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg;
(d) a ddylid atal y meddiannydd rhag defnyddio gwasanaethau asiant tai at ddibenion gwerthu’r cartref symudol;
(e) a ddylid atal y meddiannydd rhag defnyddio gwasanaethau a ddarperir gan gyfreithiwr at ddibenion gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg ac aseinio’r cytundeb;
(f) a ddylid atal y meddiannydd rhag defnyddio unrhyw wasanaethau a fyddai fel arall ar gael i’r meddiannydd at ddibenion gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg;
(g) a ddylid atal y meddiannydd rhag hysbysebu bod y cartref symudol ar werth drwy hysbysiad, bwrdd neu hysbyslen a osodir ar y cartref symudol neu ar y llain;
(h) a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd—
(i) trefnu bod arolwg o’r cartref symudol neu’r llain yn cael ei gynnal; neu
(ii) caniatáu i’r perchennog neu ei asiant gynnal arolwg o’r cartref symudol neu’r llain
cyn gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg;
(i) a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd werthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg neu aseinio’r cytundeb ym mhresenoldeb y perchennog;
(j) a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd neu’r meddiannydd arfaethedig ddarparu manylion personol y meddiannydd arfaethedig i berchennog y safle neu fanylion unrhyw berson arall sy’n bwriadu byw yn y cartref symudol gyda’r meddiannydd arfaethedig;
(k) a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd arfaethedig fynd i gyfarfod â’r perchennog.
(3) Mae’r canlynol yn enghreifftiau o “manylion personol”—
(a) cyfeiriad cartref neu fanylion cyswllt eraill y person o dan sylw;
(b) unrhyw wybodaeth ariannol sy’n ymwneud â’r person o dan sylw; ac
(c) manylion am oedran, tarddiad ethnig, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol y person dan sylw.
(4) Yn is-baragraffau (c), (d), (e), (f) ac (h) o baragraff (2) mae cyfeiriadau at werthu cartref symudol yn cynnwys cyfeiriad at farchnata, hysbysebu neu gynnig cartref symudol i’w werthu.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru
2 Gorffennaf 2014
ATODLEN 1
Hysbysiad i feddiannydd arfaethedig
Rheoliad 3

ATODLEN 2
Hysbysiad o’r bwriad i werthu
Rheoliad 4

ATODLEN 3
Hysbysiad o’r bwriad i roi’r cartref yn anrheg
Rheoliad 5

ATODLEN 4
Ffurflen aseiniad
Rheoliad 9(1)

ATODLEN 5
Hysbysiad o aseiniad
Rheoliad 9(7)
