
2014 Rhif 1759 (Cy. 174)
Iechyd Planhigion, Cymru
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2014
Gwnaed 2 Gorffennaf 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 4 Gorffennaf 2014
Yn dod i rym 31 Gorffennaf 2014
Mae Gweinidogion Cymru, gyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 3(1) a 4A o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2014.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Gorffennaf 2014 ac mae’n gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006
2 

(1) Mae Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1) o erthygl 2 (Dehongli)—
(a) cyn y diffiniad o “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”), mewnosoder—“
 mae “archwiliad mewn labordy” (“laboratory examination”) yn cynnwys profi mewn labordy;”;
(b) yn lle’r diffiniad o “trydedd wlad” (“third country”) rhodder—“
 mae i “trydedd wlad” (“third country”) yr un ystyr yn y Gorchymyn hwn ag yng Ngorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006”.
(3) Yn lle Atodlen 3 rhodder—“
ATODLEN 3
Ceisiadau am dystysgrifau: ffioedd
Erthyglau 3 a 5


Gwasanaethau o ran ceisiadau am dystysgrifau Ffi (£) Ffi (allforiwr bach) (£)
(1) Gwasanaethau am lwythi heblaw gronynnau:  
(a) arolygiad a, pan fo angen, archwiliad mewn labordy 58.92 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o 117.84 29.46 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o 58.92
(b) archwiliad mewn labordy yn unig 32.93 16.47
(c) dyroddi tystysgrif pan nad oes angen arolygiad neu archwiliad mewn labordy 12.53 6.27
(2) Gwasanaethau ar gyfer llwythi o ronynnau:  
monitro arolygiadau a gyflawnir gan berson awdurdodedig o dan erthygl 3(3) a, pan fo angen hynny, archwiliad mewn labordy a gyflawnir gan swyddog awdurdodedig 53.78 26.89”.
(4) Yn lle Atodlen 4 rhodder—“
ATODLEN 4
Ffioedd gwasanaethau cyn-allforio
Erthygl 5


Gwasanaeth Ffi (£) Ffi (allforiwr bach) (£)
Gwasanaeth cyn-allforio 44.88 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o 89.75 22.44 am bob chwarter awr neu ran ohono gydag isafswm ffi o 44.88”.
Alun Davies
Y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru
2 Gorffennaf 2014