
2014 Rhif 1713 (Cy. 173)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Diwygio) 2014
Made 1 Gorffennaf 2014
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 38(2) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.
Yn unol ag adran 50(5) o’r Mesur hwnnw, mae drafft o’r offeryn hwn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Yn unol ag adran 38(3)(b) o’r Mesur hwnnw, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru, cynrychiolwyr yr awdurdodau lleol yng Nghymru, a’r cynrychiolwyr hynny i bartneriaid cynllunio cymunedol y maent yn credu eu bod yn briodol.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Diwygio) 2014.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.
Diwygio Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009
2 

(1) Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 38(1)(f) (ystyr “partneriaid cynllunio cymunedol”), yn lle “awdurdod heddlu” rhodder “comisiynydd heddlu a throseddu”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
1 Gorffennaf 2014