
2014 Rhif 1712 (Cy. 172)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2014
Gwnaed 1 Gorffennaf 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 4 Gorffennaf 2014
Yn dod i rym 25 Gorffennaf 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 25 Gorffennaf 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio
2 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2013 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliadau a ganlyn.
3 

(1) Yn rheoliad 2(1), yn y man priodol, mewnosoder—
 “ystyr “carcharor rhan-amser cymwys” (“eligible part-time prisoner”) yw carcharor—
(a) sy’n dechrau’r cwrs rhan-amser presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2014;
(b) sydd wedi ei awdurdodi gan Lywodraethwr neu Gyfarwyddwr y carchar neu awdurdod priodol arall i astudio’r cwrs rhan-amser presennol;
(c) y mae ei ddyddiad rhyddhau cynharaf o fewn 6 mlynedd i ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs rhan-amser presennol; a
(d) nad yw wedi trosglwyddo i’r cwrs rhan-amser presennol o dan reoliad 114 o gwrs sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014;
 ystyr “grant at deithio” (“grant for travel”) yw’r grant sy’n daladwy o dan reoliadau 37 i 39;
 ystyr “grant cymorth arbennig” (“special support grant”) yw’r grant sy’n daladwy o dan reoliadau 45 i 48;
 ystyr “grant cynhaliaeth” (“maintenance grant”) yw’r grant sy’n daladwy o dan reoliadau 41 i 44;.
(2) Yn y testun Saesneg, yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “eligible prisoner”, yn lle’r geiriau “prisoner Governor” yn is-baragraff (b) rhodder “prison Governor”.
4 
Yn rheoliad 5(1)(e), ar ôl y geiriau “ddarparu’n gyfan gwbl” mewnosoder “yn y Deyrnas Unedig”.
5 
Yn rheoliad 6(9), yn lle’r geiriau “neu grant at gostau byw” rhodder “grant at deithio, grant cynhaliaeth neu grant cymorth arbennig”.
6 
Yn rheoliad 93, yn lle paragraff (4) rhodder—“
(4) Nid yw paragraff (3)(e) yn gymwys—
(a) pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn garcharor rhan-amser cymwys; neu
(b) mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar.”
7 
Yn y testun Saesneg, yn rheoliad 97(5)(g) yn lle “£1,886” rhodder “£1.886”.
8 
Yn rheoliad 99, ar ôl paragraff (9) mewnosoder—“
(10) Yn ddarostyngedig i baragraff (11), nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i gael grant newydd at gwrs rhan-amser os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn garcharor.
(11) Nid yw paragraff (10) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar.”
9 
Yn rheoliad 100, ar ôl paragraff (6) mewnosoder—“
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn garcharor.
(8) Nid yw paragraff (7) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar.”
10 

(1) Yn rheoliad 101, yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion os yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn garcharor.”
(2) Yn rheoliad 101, ar ôl paragraff (4) mewnosoder—“
(5) Nid yw paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar.”
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
1 Gorffennaf 2014