
2014 Rhif 1706 (Cy. 171) (C. 72)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014 (Cychwyn) 2014
Gwnaed 1 Gorffennaf 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 11(2) a (3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014 (Cychwyn) 2014.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014.
Darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Awst 2014
2 
Y diwrnod penodedig ar gyfer dod ag adran 3 o’r Ddeddf i rym at ddiben gwneud rheoliadau yw 1 Awst 2014.
Darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2014
3 
Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym yw 1 Medi 2014—
(a) adran 1 (benthyca a buddsoddi gan gorfforaethau addysg bellach);
(b) adran 2 (offeryn ac erthyglau llywodraethu corfforaethau addysg bellach);
(c) adran 3 (diddymu corfforaethau addysg bellach) i’r graddau nad yw wedi ei chychwyn gan erthygl 2;
(d) adran 4 (sefydliadau dynodedig: offeryn ac erthyglau llywodraethu);
(e) adran 5 (ymyrraeth gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â sefydliadau o fewn y sector addysg bellach);
(f) adran 6 (diddymu dyletswyddau sefydliadau addysg bellach i gydymffurfio â chyfarwyddiadau);
(g) adran 7 (diddymu pŵer i reoleiddio cyrsiau addysg uwch yn y sector addysg bellach);
(h) adran 8 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol);
(i) adran 10 (adolygu gweithrediad y Ddeddf).
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau Un o Weinidogion Cymru
1 Gorffennaf 2014