
2014 Rhif 1606 (Cy. 164) (C. 64)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Plant A Phobl Ifanc, Cymru
Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 9) 2014
Gwnaed 11 Mehefin 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 75(3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 9) 2014.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwrnod Penodedig
2 

(1) 30 Mehefin 2014 yw’r diwrnod a bennir i adran 70 (canllawiau) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ddod i rym.
(2) 1 Gorffennaf 2014 yw’r diwrnod a bennir i adran 11(3) a (4) (dyletswyddau awdurdod lleol ynghylch cyfleoedd chwarae i blant) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ddod i rym.
Vaughan Gething
Y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi, o dan awdurdod y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru.
11 Mehefin 2014