
2014 No. 1605 (Cy. 163) (C. 63)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Deddf Addysg (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 1) 2014
Gwnaed 17 Mehefin 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 50(4) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 1) 2014.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014.
Darpariaethau sy’n dod i rym ar 14 Gorffennaf 2014
2 
Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2014 i rym yw 14 Gorffennaf 2014—
(a) adran 42 (dyddiadau tymhorau a gwyliau ac amserau sesiynau ysgol);
(b) adran 44 (swyddogaethau addysg awdurdodau lleol yn arferadwy gan y personau a gyfarwyddir);
(c) adran 48 (mân ddiwygiadau a diddymiadau a diwygiadau a diddymiadau canlyniadol) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r diwygiadau a wneir gan baragraff 1(1), (2) a (6) o Atodlen 3; a
(d) paragraff 1(1), (2) a (6) o Atodlen 3.
Darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2014
3 
Y diwrnod penodedig ar gyfer dod ag adran 43 o Ddeddf 2014 i rym yw 1 Medi 2014.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
17 Mehefin 2014