
2014 Rhif 1514 (Cy. 155)
Llywodraeth Leol, Cymru
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014
Gwnaed 9 Mehefin 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 10 Mehefin 2014
Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 8, 20 a 190 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Gorffennaf 2014.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2006” (“the 2006 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006.
Diwygiadau i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006
2 
Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a) hepgorer y diffiniad o “trefniadau amgen” (“alternative arrangements”);
(b) hepgorer y diffiniad o “rheolwr cyngor” (“council manager”);
(c) hepgorer “ac” ar ôl y diffiniad o “swyddog monitro” (“monitoring officer”); a
(d) yn y mannau priodol mewnosoder—
(i) “ystyr “pennaeth gwasanaethau democrataidd” (“head of democratic services”) yw’r swyddog a ddynodwyd o dan adran 8 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (pennaeth gwasanaethau democrataidd);”; a
(ii) “mae i “cydnabyddiaeth ariannol” yr un ystyr â “remuneration” yn adran 43(3) o Ddeddf Lleoliaeth 2011;”.
4 
Yn rheoliad 5 (trefniadau gweithredol – rheolau sefydlog yn ymwneud â staff)—
(a) hepgorer paragraff (1)(c);
(b) ym mharagraff (1)(ch) yn lle “(a), (b) ac (c)” rhodder “(a) a (b)”; ac
(c) ym mharagraff (2) yn lle “(a), (b), (c) neu (d)” rhodder “(a), (b) neu (ch)”.
5 
Hepgorer rheoliad 6 (trefniadau amgen – rheolau sefydlog yn ymwneud â staff).
6 
Yn lle rheoliad 7 (rheolau sefydlog yn ymwneud â staff) rhodder—“
Rheolau sefydlog yn ymwneud â staff
7. 

(1) Lle bo gan awdurdod perthnasol reolau sefydlog yn ymgorffori darpariaethau’r Rheoliadau hyn a grybwyllir ym mharagraff (2), rhaid i’r swyddogaethau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw gael eu harfer gan yr awdurdod ei hun ac yn unol â hynny ni fydd adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i arfer y swyddogaethau hynny.
(2) Y darpariaethau yw—
(a) paragraff 4(1) o Ran 1 o Atodlen 3 a pharagraff 4(1) o Ran 2 o Atodlen 3 yn ymwneud â’r swyddogaeth o gymeradwyo penodi neu ddiswyddo pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod; a
(b) paragraff 6 o Ran 1 o Atodlen 3 a pharagraff 6 o Ran 2 o Atodlen 3 yn ymwneud â’r swyddogaeth o bennu lefel y gydnabyddiaeth ariannol sydd i’w thalu i brif swyddog, ac unrhyw newid i’r lefel honno.”
7 

(1) Daw testun presennol rheoliad 8 (rheolau sefydlog o ran camau disgyblu) yn rheoliad 8(1).
(2) Yn rheoliad 8(1), yn lle “neu ei brif swyddog cyllid” rhodder “, ei brif swyddog cyllid, ei bennaeth gwasanaethau democrataidd neu unrhyw swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff (2)”.
(3) Ar ôl rheoliad 8(1) mewnosoder—“
(2) Swyddog y bwriedir cymryd camau disgyblu mewn perthynas ag ef—
(a) pan oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff (1), ond nad yw bellach, ar adeg y camau disgyblu arfaethedig, yn swyddog o’r fath; a
(b) pan fo’r camymddwyn honedig neu, yn ôl y digwydd, y rheswm dros y cynnig o ddiswyddo, wedi digwydd yn ystod y cyfnod yr oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff (1).”
8 
Yn rheoliad 9 (ymchwilio i gamymddwyn honedig)—
(a) yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) Ar ôl i awdurdod perthnasol ymgorffori darpariaethau yn y rheolau sefydlog yn unol â rheoliad 8, os yw’n ymddangos i’r awdurdod perthnasol bod honiad o gamymddwyn a all arwain at gamau disgyblu wedi cael ei wneud yn erbyn swyddog perthnasol, rhaid i’r awdurdod perthnasol benodi pwyllgor (“pwyllgor ymchwilio”) i ystyried y camymddwyn honedig.
(1A) At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “swyddog perthnasol” (“relevant officer”) yw—
(a) pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod;
(b) ei swyddog monitro;
(c) ei brif swyddog cyllid;
(ch) ei bennaeth gwasanaethau democrataidd; neu
(d) swyddog a oedd yn swyddog y cyfeirir ato yn is-baragraffau (a) i (ch), ond nad yw bellach, ar adeg penodi’r pwyllgor ymchwilio, yn swyddog o’r fath, pan fo’r camymddwyn honedig wedi digwydd yn ystod y cyfnod pan oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato yn yr is-baragraffau hynny.”;
(b) ym mharagraff (5)(b) yn lle “Gynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Weinidogion Cymru”; ac
(c) hepgorer paragraff (11).
9 

(1) Yn Atodlen 1, yn Rhan 1—
(a) yn lle paragraff 1 rhodder—“
1. 

(1) Rhaid i awdurdod perthnasol gymryd y camau a nodir yn is-baragraff (2) pan fo—
(a) yr awdurdod perthnasol yn bwriadu penodi prif swyddog (o fewn ystyr Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006); a
(b) y gydnabyddiaeth ariannol y mae’r awdurdod perthnasol yn bwriadu ei thalu i’r prif swyddog yn £100,000 y flwyddyn neu’n fwy.
(2) Y camau yw—
(a) llunio datganiad yn manylu—
(i) dyletswyddau’r swyddog dan sylw, a
(ii) unrhyw gymwysterau neu nodweddion y ceisir eu cael yn y person a benodir;
(b) trefnu i’r swydd gael ei hysbysebu’n gyhoeddus yn y fath fodd fel y bydd yn debygol o ddod i sylw personau sy’n gymwys i ymgeisio amdani; ac
(c) trefnu i gopi o’r datganiad a grybwyllir ym mharagraff (a) gael ei anfon at unrhyw berson sy’n gwneud cais.
(3) Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys nid yw’n ofynnol i’r awdurdod perthnasol gymryd y cam a nodir yn is-baragraff (2)(b) os yw’n bwriadu penodi’r prif swyddog am gyfnod o ddim mwy na 12 mis.”
(b) ym mharagraff 2(1) yn lle “1(b)” rhodder “1(2)(b)”; ac
(c) ym mharagraff 2(2) yn lle “1(b)” rhodder “1(2)(b)”.
(2) Yn Atodlen 1, yn Rhan 2, ym mharagraff 3 hepgorer is-baragraff (a).
10 

(1) Yn Atodlen 3, yn Rhan 1—
(a) daw testun presennol paragraff 3 yn baragraff 3(1);
(b) ym mharagraff 3(1), ar ôl paragraff (e) mewnosoder—“
(f) y swyddog a ddynodwyd yn swyddog monitro’r awdurdod; neu
(ff) y swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaethau democrataidd yr awdurdod.”;
(c) ar ôl paragraff 3(1) mewnosoder—“
(2) Nid yw paragraff 2 yn gymwys i ddiswyddo, na chymryd camau disgyblu yn erbyn, swyddog y bwriedir cymryd camau disgyblu mewn perthynas ag ef,—
(a) a oedd yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i (ff), ond nad yw bellach, ar adeg y camau disgyblu arfaethedig, yn swyddog o’r fath; a
(b) pan fo’r camymddwyn honedig neu, yn ôl y digwydd, y rheswm dros y cynnig o ddiswyddo, wedi digwydd yn ystod y cyfnod pan oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i (ff).”;
(d) ym mharagraff 4(2) yn lle “neu (ch) o baragraff 3” rhodder “, (ch), (f), neu (ff) o baragraff 3(1) neu’r swyddogaeth o ddiswyddo unrhyw swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(2)”; ac
(e) ar ôl paragraff 5 mewnosoder—“
6. 
Rhaid i’r awdurdod perthnasol bennu lefel y gydnabyddiaeth ariannol, ac unrhyw newid yn lefel y gydnabyddiaeth ariannol, a delir i brif swyddog.”
(2) Yn Atodlen 3, yn Rhan 2—
(a) daw testun presennol paragraff 3 yn baragraff 3(1);
(b) ym mharagraff 3(1), ar ôl paragraff (dd) mewnosoder—“
(e) y swyddog a ddynodwyd yn swyddog monitro’r awdurdod;
(f) y swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaethau democrataidd yr awdurdod.”;
(c) ar ôl paragraff 3(1) mewnosoder—“
(2) Nid yw paragraff 2 yn gymwys i ddiswyddo, na chymryd camau disgyblu yn erbyn, swyddog y bwriedir cymryd camau disgyblu mewn perthynas ag ef,—
(a) a oedd yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i (f), ond nad yw bellach, ar adeg y camau disgyblu arfaethedig, yn swyddog o’r fath; a
(b) pan fo’r camymddwyn honedig neu, yn ôl y digwydd, y rheswm dros y cynnig o ddiswyddo, wedi digwydd yn ystod y cyfnod pan oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i (f).”;
(d) ym mharagraff 4(2) yn lle “neu (ch) o baragraff 3” rhodder “, (ch), (e), neu (f) o baragraff 3(1) neu’r swyddogaeth o ddiswyddo unrhyw swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(2)”; ac
(e) ar ôl paragraff 5 mewnosoder—“
6. 
Rhaid i’r awdurdod perthnasol bennu lefel y gydnabyddiaeth ariannol, ac unrhyw newid yn lefel y gydnabyddiaeth ariannol, a delir i brif swyddog.”
(3) Yn Atodlen 3, hepgorer Rhannau 3 a 4.
11 

(1) Yn Atodlen 4, ym mharagraff 1—
(a) hepgorer ““rheolwr cyngor” (“council manager”),”; a
(b) yn lle “a “swyddog monitro” (“monitoring officer”)” rhodder “, “swyddog monitro” (“monitoring officer”) a “pennaeth gwasanaethau democrataidd” (“head of democratic services”)”.
(2) Yn Atodlen 4—
(a) daw testun presennol paragraff 2 yn baragraff 2(1) o’r paragraff hwnnw;
(b) ym mharagraff 2(1)—
(i) hepgorer “(oni fo pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod hefyd yn rheolwr cyngor yr awdurdod)”; a
(ii) yn lle “neu ei brif swyddog cyllid” rhodder “, ei brif swyddog cyllid, ei bennaeth gwasanaethau democrataidd neu unrhyw swyddog y cyfeirir ato yn is-baragraff (2)”;
(c) ar ôl paragraff 2(1) mewnosoder—“
(2) Swyddog y bwriedir cymryd camau disgyblu mewn perthynas ag ef—
(a) pan oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato yn is-baragraff (1), ond nad yw bellach, ar adeg y camau disgyblu arfaethedig, yn swyddog o’r fath; a
(b) pan fo’r camymddwyn honedig neu, yn ôl y digwydd, y rheswm dros y cynnig o ddiswyddo, wedi digwydd yn ystod y cyfnod yr oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato yn is-baragraff (1).”
Darpariaethau trosiannol
12 
O ran unrhyw beth a wnaed gan swyddog, iddo neu mewn perthynas ag ef, cyn y dyddiad y mae’r awdurdod perthnasol yn ymgorffori rheolau sefydlog yn unol â’r Rheoliadau hyn, yn unol â—
(a) rheoliad 9 o Reoliadau 2006; neu
(b) y darpariaethau a nodir yn Atodlen 4 i Reoliadau 2006 (neu ddarpariaethau sy’n cael yr un effaith) a ymgorfforir yn rheolau sefydlog yr awdurdod perthnasol,caniateir parhau i’w wneud ar ôl y dyddiad hwnnw gan y swyddog hwnnw, iddo neu mewn perthynas ag ef yn unol â’r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) neu (b), yn ôl y digwydd.
Gweithredu
13 
Rhaid i awdurdod perthnasol adolygu ei reolau sefydlog presennol i’r graddau y bo’n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn ddim hwyrach na’r dyddiad sydd ddeng wythnos ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
9 Mehefin 2014