
2014 Rhif 1464 (Cy. 145)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (Swyddogaethau Atodol) 2014
Gwnaed 5 Mehefin 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 9 Mehefin 2014
Yn dod i rym 31 Awst 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 69(5) a 89(4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (Swyddogaethau Atodol) 2014 a daw i rym ar 31 Awst 2014.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
(a) ystyr “Rheoliadau 2013” (“the 2013 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2013; a
(b) ystyr “grant newydd at ffioedd” (“new fee grant”) yw grant a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 20 o Reoliadau 2013.
Swyddogaethau Atodol
2 
Mae’r swyddogaethau a ganlyn, sef swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan Reoliadau 2013, wedi eu rhoi i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru—
(a) swyddogaethau sy’n ymwneud â thalu’r grant newydd at ffioedd o dan reoliad 69 o Reoliadau 2013;
(b) swyddogaethau sy’n ymwneud ag adennill gordaliad o’r grant newydd at ffioedd o dan reoliad 74 o Reoliadau 2013; ac
(c) swyddogaethau sy’n ymwneud â chais am wybodaeth o dan Atodlen 3 i Reoliadau 2013 a chael yr wybodaeth honno, i’r graddau y mae’r swyddogaethau hynny yn ymwneud â thalu neu adennill y grant newydd at ffioedd.
3 
Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn yn atal Gweinidogion Cymru rhag arfer y swyddogaethau a ddisgrifir yn erthygl 2.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
5 Mehefin 2014