
2014 No. 1388 (Cy. 141)
Traffig Ffyrdd, Cymru
Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau (Diwygio) (Cymru) 2014
Gwnaed 30 Mai 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 3 Mehefin 2014
Yn dod i rym 27 Mehefin 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 99(1) a (2) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, ac ar ôl ymgynghori â chyrff cynrychioliadol yn unol ag adran 134(2) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau (Diwygio) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 27 Mehefin 2014.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â’r rhannau o Gymru a ganlyn—
(a) y rhan honno o Draffordd yr M4 yng Nghymru sy’n cynnwys “the new toll plaza area” a “the new bridge”, fel y’u diffinnir yn adran 39(1) o Ddeddf Pontydd Hafren 1992; neu
(b) y rhan honno o’r ffordd a adeiladwyd gan y Gweinidog Trafnidiaeth ar hyd y llinell a ddisgrifir yn Atodlen 1 i Orchymyn Cefnffordd Man i’r Gogledd o Almondsbury-Man i’r De o Haysgate 1947 ac y cyfeirir ati yn y Gorchymyn hwnnw fel “the new road” sy’n gorwedd i’r dwyrain o’r pwynt mwyaf dwyreiniol cyn cyrraedd Afon Gwy lle gall traffig o Ddosbarth I a II (fel a bennir yn Atodlen 4 i Ddeddf Priffyrdd 1980) sy’n teithio tua’r dwyrain adael y ffordd honno ar hyd ffordd arbennig arall.
Diwygio Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau 1986
2 

(1) Mae Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau 1986 wedi eu diwygio yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 5C—
(a) ym mharagraff (1)(b) yn lle “Regulation 5 of the Civil Enforcement of Parking Contraventions (Penalty Charge Notices, Enforcement and Adjudication) (Wales) Regulations 2008” rhodder “regulation 9 of the Civil Enforcement of Road Traffic Contraventions (General Provisions) (Wales) Regulations 2013”.
(b) ym mharagraff (4)—
(i) yn y diffiniad o “outstanding” yn lle “Civil Enforcement of Parking Contraventions (General Provisions) (Wales) Regulations 2008” rhodder “Civil Enforcement of Road Traffic Contraventions (General Provisions) (Wales) Regulations 2013”;
(ii) yn y diffiniad o “penalty charge”, yn lle “regulation 3 of the Civil Enforcement of Parking Contraventions (General Provisions) (Wales) Regulations 2008” rhodder “regulation 4 of the Civil Enforcement of Road Traffic Contraventions (General Provisions) (Wales) Regulations 2013”; ac
(iii) yn y diffiniad o “penalty charge notice”, yn lle “regulation 4 of the Civil Enforcement of Parking Contraventions (Penalty Charge Notices, Enforcement and Adjudication) (Wales) Regulations 2008” rhodder “regulation 8 of the Civil Enforcement of Road Traffic Contraventions (General Provisions) (Wales) Regulations 2013”.
Edwina Hart
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth,
un o Weinidogion Cymru
30 Mai 2014